Caniadau Buddug/Trydydd ar ddeg o Dachwedd

Oddi ar Wicidestun
Joseph yn hysbysu ei hun Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Y deigryn (2)

TRYDYDD AR DDEG O DACHWEDD

Priodas Euraidd "Gweirydd ap Rhys" a Mrs. Gweirydd. 1875

MAE hanner cant yn seinio'n hir,
Wrth edrych drwodd i'r dyfodol;
Ond gwelir hwynt yn ddigon clir,
Fel eiliad bychan yn y gwrthol;
Mae'n debyg iawn fod dail yr haf
I'w gweld fel heddyw'r adeg honno,
A Thachwedd megis teyrn y claf,
Yn trawsfeddiannu'r oll i'w gwywo.

O! Dachwedd, 'rwyt yn ber a sur,
Yr wyt yn eli ac yn ddolur!
Yr wyt yn peri poen a chur,
'Rwyt hefyd wedi bod yn gysur;
Mae'n ddydd a gofir gennym oll,
Mewn tristwch prudd ac mewn gorfoledd;
Pa un o honom yrr ar goll
Byth, byth y tri ar ddeg o Dachwedd?

Y tri ar ddeg o Dachwedd oedd
Y dydd i mam anadlu gyntaf;
A dyma'r dydd y gwnaeth yn g'oedd
Ei hateb i fy nhad "Cymeraf;"
Y dydd y rhoddwyd ar ei bys
Arwyddlun bywyd priodasol:
Y dydd y gwnaethpwyd yr "Ap Rhys"
Yn ffyddlawn wr i "Gras Ataliol."
Wel, hanner cant i heddyw oedd

Yr adeg fendigedig honno;
Pe gallwn rhoddwn uchel floedd,
Hwre! Hwre! nes bo’n dadseinio,

Dros Ben y Foel a Phen y Garn,
Mynyddoedd enwog plwyf Llanrhyddlad,
Nid oes ond goleu dydd y Farn
Ddadblyga'n hollol ffrwyth yr uniad.

Yr oeddym ni yn naw o blant,
Ar aelwyd ddedwydd ein rhieni:
Ond ha! Mae bysedd hanner cant
Yn gwneyd grymusder mewn dufenu;
Aeth dau i'r nef heb deimlo grym
Llawenydd byd, na'i ddygn ruddfan,
A thri ar ddeg o Dachwedd llym
A gipiodd ymaith ein Golyddan.

Mae'i fedd yn wyw yn Nyffryn Clwyd,
Ond gwyrdd, ond gwyrdd yw'r cof am
dano;
Pe buasai rhin mewn dagrau brwd,
Fe gawsai'i gadw heb edwino!
Ond ymdawelwn, gan fod dydd,
Cyn treigla hanner cant i heddyw,
Y cawn gyfarfod oll yn rhydd,
Ar fryniau hyfryd bro ddiledryw.

Hawddamor, anwyl fam a thad,
Ar ddydd eich teg briodas euraidd;
Ni chaed gwell rhiant yn y wlad,
Nac unrhyw deulu mwy caruaidd;
Boed ter belydrau nefol fro,
Yn ymlid ymaith bob rhyw gaddug,
Am amser maith cyn mynd i'r gro,
Yw gweddi a dymuniad Buddug.