Caniadau Buddug/Y cwpan
Jump to navigation
Jump to search
← Y deigryn | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) |
Cennad y donn → |
Y CWPAN.
YFODD Iesu gwpan pechod
Hyd y gwaelod drosot ti;
Troes y gwenwyn yn y gwaddod,
O anfeidrol rin i ni.
Bellach, cwpan gwledd wastadol,
Yw i deulu Seion Duw;
Gwin y Cariad anorchfygol
Ynddi sydd i ddynol ryw.