Caniadau Buddug/Y deigryn

Oddi ar Wicidestun
Y bachgen Iesu Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Y cwpan

Y DEIGRYN.

NI raid it gywilyddio,
Na chuddio'th wyneb llaith
Oherwydd colli dagrau,
Na phlygu'th ben ychwaith :
Os ydyw'r byd yn galed,
Yn curo arnat ti,
Cei wylo deigryn distaw,
Ni watwar byth dy gri.

Y Duw a roes Orion,
I hongian yn y nen;
A'r myrdd defnynau gloewon,
Mewn cwmwl uwch fy mhen:
A glymodd wlith y rhosyn
Sy'n tyfu wrth fy nrws;
A rwymodd deimlad benyw
Mewn deigryn bychan tlws.

Ynghanol cwmni ofer,
A welwch chwi y llanc
Yn gwario ei holl eiddo
I geisio porthi 'i wanc?
Ond yn y bri a'r gloddest,
Fe gofia'n sydyn am
Y dagrau oedd yn halltu
Hoff ruddiau'i anwyl fam.

Merch ieuanc deg a heinyf,
Fel llestr ar y donn,
Brysura i'r peryglon
Heb ofnau dan ei bron:

Ond cododd awel iachus,
A'i chalon roddodd lam,
Pa fodd y gallai groesi
Môr dagrau'i hanwyl fam?

Os gweli ddeigryn bychan,
Yn llygaid unrhyw un,
Ni raid it ofni hwnnw,
Mae ganddo deimlad cun;
Mae fel yr aur deyrnwialen,
Yn llaw y brenin sydd,
Cyffyrdda'n eon ynddi,
Y peth a fynni fydd.

Os wyt yn dlawd ac unig,
Mewn gwyntoedd croes chyd,
Cei gysur a diddanwch
Tra deigryn yn y byd ;
Cei gofio mewn tawelwch,
Tra'n llawn o ofid trist,
Am gydymdeimlad anwyl
Sy'n nagrau Iesu Grist.