Caniadau John Morris-Jones/Ar Hyd y Nos
Gwedd
← Seren y Gogledd | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Lili Lon → |
AR HYD Y NOS
Er ty wylled ydyw'r ddaear,
Ar hyd y nos,
Gwelir llawer seren lachar,
Ar hyd y nos;
Bu ryw hirnos drom ar Gymru,
Ond bu iddi yn tywynnu
Lawer seren wen er hynny,
Ar hyd y nos.
Fel y gwyliwr ar y ceyrydd,
Ar hyd y nos,
Yn hiraethu am y cyfddydd,
Ar hyd y nos,
Felly yr hiraethodd Cymru
Am yr adeg i'w gwaredu
O'r tywyllwch fii'n ei llethu,
Ar hyd y nos.
Rhaid i'r dydd o'r diwedd wawrio,
Ar ol y nos;
Rhaid i haul y nef ddisgleirio,
Ar ol y nos;
Wele'r wawr ar Gymru'n torri,
Fe ddaw'r huan llon i'w llenwî
O lawenydd a goleuni,
Ar ol y nos.