Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/At y Darllenydd

Oddi ar Wicidestun
Caniadau John Morris-Jones Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Cynhwysiad

AT Y DARLLENYDD

YMae'r rhan fwyaf o'r Caniadau hyn wedi ymddangos o'r blaen mewn gwahanol gyhoeddiadau. Ymddanghosodd llawer o Gathlau Heine yng Nghymru Fydd am 1890, ac amryw o honynt yng Nghymru ryw flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach. Cyhoeddwyd yr awdl "Cymru Fu : Cymru Fydd" yng Nghymru am Awst 1892. Argraffwyd rhai o'r dyrïau a'r mân gyfieithiadau o bryd i bryd ym Magazine Coleg y Gogledd. Diau i rai o'r darnau ymddangos hefyd mewn papurau wythnosol a mannau eraill; ond, hyd yn oed pe gallwn eu holrhain, nid yw o bwys yn y byd. Yn yr holl ddarnau hyn, ni phetrusais yn unman i newid gair neu ymadrodd, lle gwelwn angen, i ddiwygio'r iaith neu gywiro bai mewn mydr neu odl.

Ymysg y caniadau a ymddengys am y waith gyntaf yn y llyfr hwn y mae Awdl Famon a Phenillion Omar Khayyâm. Ysgrifennwyd Awdl Famon yn ddarnau digyswllt tua'r flwyddyn 1893 neu 1894; yr oeddwn yn darofun iddi fod yn hwy o lawer, ond wedi ei rhoi heibio am amser mi dybiais ei bod yn ddigon maith o watwargerdd o'r fath, ac mi lenwais y bylchau, gan ei gadael yn awdl o dair rhan fel y'i gwelir. Yn Nhachwedd 1898 (wedi bod yn dysgu ychydig Berseg rai blynyddoedd ynghynt) y meddyliais am geisio Cymreigio penillion Omar; cyfieithais ddeg neu bymtheg a thrigain o honynt y gaeaf hwnnw, ac ychwanegais ambell bennill pan gaffwn hamdden o dro i dro.

Dymunaf yma ddiolch i Mr. William Watson am ei ganiatad caredig imi i gyhoeddi'r aralleiriad o'i gân 'Duw cadw'n gwlad'; ac i Dr. Douglas Hyde am ei ganiatad caredig yntau i gyhoeddi'r cyfieithiadau o bedair o'r cathlau a gasglwyd ganddo oddi ar lafar y werin yn Iwerddon, ac a gyhoeddwyd gyda chyfieithiad Saesneg yn ei Love Songs of Connacht.

JOHN MORRIS JONES.

Llanfair Pwll Gwyngyll,
Gorffennaf 1907.


Nodiadau

[golygu]