Caniadau John Morris-Jones/Crwydraf y freuddwydiol goedwig
Gwedd
← Fry ar eurdroed ofnus esmwyth | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Mi wyddwn iti 'ngharu → |
XXXI
Crwydraf y freuddwydiol goedwig,
Crwydro'r goedwig gyda'r nos;
Wrth fy ystlys innau'n wastad
Mae dy ddelw welw dlos.
Onid dyna dy wisg gannaid?
Onid dyna d'wyneb mwyn?
Ai nid yw ond goleu'r wenlloer
Dyr drwy wyll y tywyll lwyn?
Ai fy nagrau dwys fy hunan
Glywaf yma'n ffrydio'n lli,
Ai tydi sy'n wir, f’anwylaf,
Yma'n wylo'n f'ymyl i?