Caniadau John Morris-Jones/Mi wyddwn iti 'ngharu
Gwedd
← Crwydraf y freuddwydiol goedwig | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Yr eneth ger y waneg → |
XXXII
Mi wyddwn iti 'ngharu,
A hyn wybûm yn hir;
Ond pan addefaist imi,
Daeth arnaf fraw yn wir.
Dringais y bryn a chenais
Yn orfoleddus iawn;
Cyrchais y môr ac wylais
Wrth fachlud haul prynhawn.
Mae 'nghalon fel yr huan
Pan elai'n dân i lawr,
Mewn môr o serch y sudda
Mor brydferth ac mor fawr.