Caniadau John Morris-Jones/Cwyn yr Unig
Gwedd
← Rhieingerdd | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Y Crythor Dall → |
CWYN YR UNIG
Dacw'r coedydd gyda'i gilydd
Yn rhyw ddedwydd lu,
Minnau yma 'n gwywo'n ara'
Mewn unigedd du.
Draw mae'r adar man yn trydar
Oll yn llon eu llef;
Pob aderyn gan ei emyn
I'w anwylyd ef.
Dyna seiniau llawen leisiau,
Clywaf bawb yn llon;
Minnau'n ddistaw wedi 'ngadaw,
Trom a thrist yw 'mron.