Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Y Crythor Dall

Oddi ar Wicidestun
Cwyn yr Unig Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Môn a Menai

Y CRYTHOR DALL

Pa fodd y cluda'r awel
Ryw leddf ac isel gainc
Trwy nwyfiant a llawenydd
Heolydd Paris Ffrainc?

Hen grythor dall ac unig
O ryw bellennig fro
Sy'n canu dwys acenion
Ei dirion henwlad o.

Fy nghyfaill, pe baut yno
Yn gwrando ennyd awr,
Ti glywit "Forfa Rhuddlan,"
Ti glywit "Gyda'r Wawr;"

Y dyrfa lon ddistawai,
Arafai ar ei hynt;
Erioed ni chlywsynt ganu
Mor brudd a pheraidd cynt.


Ond wele, at y crythor
Gwr ifanc hawddgar aeth,
A chymryd, gyda'i gennad,
Y crwth o'i law a wnaeth,

A seinio arno odlau
Mwy peraidd fyth a phrudd,
Fel sơn dyhead awel
Fwyn dawel fin y dydd.

"Fy machgen, O fy machgen,"
Dolefai'r henwr dall;
Ei anwyl fab crwydredig
Colledig oedd y llall;

A'r tad ei hun fu'n dysgu
I'w gynnil fysedd gynt
Y gainc wylofus honno
A suai yn y gwynt;

Ac ni bu law ar dannau
A seiniai byth mor brudd
A pheraidd ei chyffyrddiad
Hen ganiad "Toriad Dydd."


Nodiadau

[golygu]