Caniadau John Morris-Jones/Dinistr iti fyddai 'ngharu
Gwedd
← Yr ydwyt fel blodeuyn | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Eneth a'r perloywon lygaid → |
XX
Dinistr iti fyddai ’ngharu,
Ceisio'r wyf dy gadw di
Rhag i'th dirion galon goledd
Y cariad lleiaf ataf fi.
Ond yn awr, mor rhwydd y llwyddaf,
Hyn sydd eto'n flin i mi;
A dymunwn weithiau eto
Iti eto 'ngharu i.