Caniadau John Morris-Jones/Yr ydwyt fel blodeuyn
Gwedd
| ← Fel y lloerwen oleu'n dianc | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Dinistr iti fyddai 'ngharu → |
XIX
Yr ydwyt fel blodeuyn,
Mor fwyn, a theg, a phur;
minnau'n edrych arnat
I'm bron y cyfyd cur;
Ac ar dy ben y mynnwn
Gael dodi'm llaw, a dwyn
Fy nghais at Dduw i'th gadw
Mor bur a theg a mwyn.