Caniadau John Morris-Jones/Fel y lloerwen oleu'n dianc
Gwedd
← Breuddwydiwn weld y lloer yn brudd | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Yr ydwyt fel blodeuyn → |
XVIII
Fel y lloerwen oleu'n dianc
O dywyll len y cwmwl du
Y daw im weledigaeth oleu
O ganol dyddiau tywyll fu.
Ar fwrdd y llong i gyd eisteddwn,
Ar hyd y Rhein yn falch yr awn,
A hafaidd lesni'r glannau'n twynnu
Yng ngoleuni haul prynhawn.
Minnau'n eistedd mewn myfyrdod
Wrth ei thraed, enethig hardd;
Ar ei hannwyl welw wyneb
Rhuddaur oleu'r haul a chwardd.
Lleisiau plant a sain telynau;
Yn eu hoen a'n llawenhâi
Y nef uwchben âi'n lasach lasach,
Yr enaid yn eangach âi.
Megis chwedl y gwibiodd heibio
Fryn a choedwig, plas a gardd;
A mi'n eu gweled oll yng ngloywon
Lygaid yr enethig hardd.