Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Ffyddlondeb

Oddi ar Wicidestun
I Celia Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

I'r Gog

FFYDDLONDEB

Gwared fi! 'r wy'n caru'n awr
Ers tridiau gyda 'i gilydd,
A golwg dal am dridiau 'n hwy,
Os bydd teg y tywydd.


Moel fydd esgyll amser hên
Cyn y dêl o hyd
I ffyddloned carwr byth
Yn y byd i gyd.

Ond, ysywaeth, nid oes dim
O'r glod i'w rhoi i mi;
Gyda mi nid oedai serch
Oni bai am dani hi.

Oni bai am dani hi,
A'r wyneb hwnnw'i hun,
Ni charaswn lai, cyn hyn,
Na dwsin yn lle un.

—Syr John Suckling.


Nodiadau

[golygu]