Caniadau John Morris-Jones/I Celia
Gwedd
← Y Cusan | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Ffyddlondeb → |
I CELIA
Yf im, pe na bai ond a'th drem,
A'm trem a yf i ti;
Neu gusan yn dy gwpan gad,
A gwin ni fynnaf fi.
Rhyw ddwyfol ddiod im sy raid
At syched f'enaid i;
Ond gwell na medd y duwiau im
Yw medd dy wefus di.
Mi yrrais gynt it bwysi rhos,
Nid gymaint er dy fri
Ag er rhoi gobaith iddo ef
Na wywai gyda thi.
Anadlu wnaethost arno draw,
A'i yrru 'n ol i mi:
Fe dyf, ag arogl, mi wnaf lw,
Fel d'arogl peraidd di.
—Ben Jonson.