Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Fy Mreuddwyd

Oddi ar Wicidestun
Yr Afonig Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Syr Lawrens Berclos

FY MREUDDWYD

Breuddwydiais— paid a digio dro—
Fy mod yn caru dwy;
Ni welwn ragor yn fy myw,
Na dewis rhyngthynt hwy.

Ni charwn un yn llai na'r llall,
Ni charwn un yn fwy;
Ac mewn rhyw benbleth faith y bum
Y nos o'u hachos hwy.


Ond wedi deffro gyda'r dydd,
Mi chwerddais,— canys pwy
Dybygit oeddynt?— Wel, tydi
Dy hunan oedd y ddwy!


Nodiadau

[golygu]