Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Yr Afonig

Oddi ar Wicidestun
Y Morgrug Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Fy Mreuddwyd

YR AFONIG

Mae 'nghalon, lân afonig,
Yn dilyn dawns dy li;
A dedwydd iawn wyf innau—
Dy gân a'm llonnodd i.

A dedwydd iawn wyf innau
Yn canu gyda thi;
Mae llon feddyliau ynof
Yn dilyn dawns dy li.

Mae llon feddyliau ynof—
Dy gân a'm llonnodd i;
Mae 'nghalon, lân afonig,
Yn canu gyda thi.


Nodiadau

[golygu]