Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Y Morgrug

Oddi ar Wicidestun
Seiriol a Chybi Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Yr Afonig

Y MORGRUG

Aeth Culwch, cefnder Arthur,
At Ysbaddaden Gawr,
I erchi'i unig eneth,
Sef Olwen deg ei gwawr.

Erioed ni welwyd geneth
Mor lân â'r eneth hon—
Ei gwallt fel blodau'r banadl,
Ei gwddf fel ewyn tonn.


 
Ac Olwen deg y'i gelwíd
O ran, lle sangai'r ddôl,
Fe dyfai yno bedair
Meillionen wen o'i hôl

Edrychodd Ysbaddaden
Yn sarrug ac yn erch:
"Pa fodd y meiddi ddyfod
I erchi i mi fy merch?

"Ni cheffi byth mo'r eneth
"Heb wneuthur imi hyn:
"A wel' di megis braenar draw
"Yn goch ar ochr y bryn?

"Pan gyfarfûm i gyntaf
"Â dinam fam y fun,
"Had llin a hëwyd ynddo—
"Ni thyfodd eto'r un.

"Dwg hwn i'w hau bob hedyn
"(Mae'r cyfrif gennyf fi);
"A'i wau'n benllïain gwyn i'm merch
"Iw neithior hi a thi."

***
Rhyw ddiwrnod, pan oedd Gwythyr—
A marchog dewr oedd ef—
Yn rhodio'r bryn, fe glywai
Ryw wan wylofus lef.


 
Ac wedi syllu ennyd,
Fe welai'r grug ar dân,
A'r tan yn araf gropian
At nyth y morgrug mân.

Dadweiniodd yntau'i gleddyf,
A thorrodd dan y nyth;
A'i godi wnaeth a'i gludo i fan
Na ddelai'r fflamau byth.

"Boed iti," meddynt, " fendith
"Y nef, a'n bendith ni;
"A'r peth nis gallai dyn sy fy w
"A wnawn yn dâl i ti."

Ac yna'r aeth y morgrug
I'r cae yn fyddin gref,
A dwyn yr had a wnaethant
Yn gryno iddo ef.

Un hedyn oedd yn eisiau,
Nad oeddynt yno'n llwyr;
A'r hen forgrugyn cloffa ddaeth
A hwnnw cyn yr hwyr.—

Ar ddydd priodas Culwch
A'r feinir eglur wen,
'R oedd gwe o liain fel y gwawn
Gan Olwen ar ei phen.


Nodiadau

[golygu]