Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Mae'r môr yn loyw'n nhywyn haul

Oddi ar Wicidestun
Ni soniais am dy ffalster Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Yn seren wen tywynni yn fy nos

XXXV

Mae'r môr yn loyw 'n nhywyn haul
Fel aur, ddiderfyn stôr;
Fy mrawd, pan fyddwyf farw,
O, sudder fi'n y môr.

Bu'r môr yn annwyl annwyl im,
A llawer gwaith â'i li
Yr oerodd wres fy nghalon;
A da fu'r môr i mi.


Nodiadau

[golygu]