Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Yn seren wen tywynni yn fy nos

Oddi ar Wicidestun
Mae'r môr yn loyw'n nhywyn haul Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Mor llon wyt yn fy mreichiau

XXXVI

Yn seren wen tywynni yn fy nos,
Gwasgeri fwyn gysuron, seren dlos;
A bywyd im addewi di—
Na thwylla fi.


Fel môr yn llifo tua'i loer uwchben
Y llifa'm henaid innau, seren wen,
Tua'th oleuni annwyl di—
Na thwylla fi.


Nodiadau

[golygu]