Caniadau John Morris-Jones/Mor llon wyt yn fy mreichiau
Gwedd
← Yn seren wen tywynni yn fy nos | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Mynyddgan 1 → |
XXXVII
Mor llon wyt yn fy mreichiau,
Ac ar fy mynwes i!
Dy nefoedd wyf, a thithau,
Fy seren wen wyt ti.
A dwfn o danom heidia
Ynfydion blant y byd,
Yn dadwrdd ac ymgaentach,
A cham a gânt i gyd.
***
Mor ddedwydd ydym ninnau
Ein bod mor bell uwchben.—
Ti guddi yn dy nefoedd
Dy wyneb, seren wen!