Caniadau John Morris-Jones/Mae gennyt emau a pherlau
Gwedd
| ← O na allwn gynnwys mewn ungair | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Fel rhyw freuddwydion tywyll → |
XXIV
Mae gennyt emau a pherlau,
A hoff bethau'r byd, a mwy—
Mae gennyt y llygaid tlysaf;
F’anwylyd, beth fynnit fwy?
I'r llygaid tlysion hynny,
Yn unig iddynt hwy,
Y cenais lu o ganiadau;
F'anwylyd, beth fynnit fwy?
A thi a'th lygaid tlysion
A roist imi gymaint clwy,
Ac a'm dygaist yn llwyr i ddistryw;
F'anwylyd, beth fynnit fwy?