Caniadau John Morris-Jones/Fel rhyw freuddwydion tywyll
Gwedd
← Mae gennyt emau a pherlau | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Mae iar fach yr haf yn caru'r rhos → |
XXV
Fel rhyw freuddwydion tywyll
Y sai' rhes tai'r ystryd;
A minnau'n ddwfn i'm mantell
Heb sôn af heibio'n fud.
Mae'r gloch yn taro deuddeg
O'i chlochdy uchel hi;
 swynion a chusanau
Y disgwyl f'annwyl fi.
Y lleuad yw fy nghwmni
A'i theg oleuni glân;
Weľ dyma dŷ f'anwylaf,
Mi ganaf yma gân:
"Can' diolch, hên gydymaith,
"Am roi dy gwmni cyd;
"Yn iach! tywynna eto,
"Heb beidio, ar y byd.
"Os gweli fachgen serchog
"Yn cwyno 'i unig hynt,
"Rho iddo'r cysur roddaist
"I minnau ganwaith gynt."