Neidio i'r cynnwys

Caniadau John Morris-Jones/Mae iar fach yr haf yn caru'r rhos

Oddi ar Wicidestun
Fel rhyw freuddwydion tywyll Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Fel y lloer a'i delw'n crynu

XXVI

Mae iar fach yr haf yn caru'r rhos,
A hofran o'i gylch y bydd,
A'i charu hithau, a hofran o'i chylch
Mae pelydryn o dywyn dydd.


Ond pwy aeth a serch y gwridog ros?
Mi garwn pe dwedai a'i gŵyr;
Ai'r eos a gân ei melys gainc,
Ai tawel seren yr hwyr?

Fy nghalon ni ŵyr pwy yw cariad y rhos,
Ond caru 'r wyf fi, fe'i gŵyr,
Y rhos, a'r pelydryn, ac iar fach yr haf,
A'r eos, a seren yr hwyr.


Nodiadau

[golygu]