Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Aelwyd Bryn y Groes
← I Dewi Meirion, Bala | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Er cof am Laura Jane → |
AELWYD BRYN-Y-GROES
CYFEILLION hoff, Nadolig ddaeth,
Mae'r flwyddyn wedi myn'd
Tros geulan amser, yno'r aeth,
A chipiodd lawer ffrynd;
Ond wele ni yn ysgafn fron-
Yn ddi-nam heb un loes,
A phawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.
Danteithion fyrdd sy'n hulio'r bwrdd,
A chroesaw ar ei sedd
Yn cymhell pawb sydd wedi cwrdd
Ymuno yn y wledd;
A gwnawn ein goreu gyda hor,
Gan alw tyr'd a moes,
Mae pawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.
Mae'r cook, fel arfer, wedi bod
Yn drylwyr yn ei rhan,
A'r waitress gawn yn myn'd a dod
Yn siriol trwy y fan;
HUGH EDWARDS hefyd gawn a JOHN
Yn gwenu yn eu moes,
Mae pawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.
Dymunaf flwyddyn newydd dda
I bawb yn ddi-wahan,
Gobeithio bydd hi megys ha'
O hyd, gyfeillion glân;
I Mrs. ROYLE, haelfrydig fron,
Dymunaf hir, hir oes;
A phawb yn llawen ac yn llon
Ar aelwyd Bryn-y-Groes.