Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Er cof am Laura Jane

Oddi ar Wicidestun
Aelwyd Bryn y Groes Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

O dan y Dderwen

ER COF
am Laura Jane, merch Mr. a Mrs. C. Jones, Beuno View, Bala.

FLODEUYN anfarwol! i wynfa'r Creawdwr
Ehedaist o ddwndwr y byd;
Dy fenthyg a gawsom o lys y Cyfryngwr
Am enyd i lanw dy gryd;
Mor rhyfedd yw trefn Rhagluniaeth, mor dywyll
Nis galiwn amgyffred paham?
Fod angau mor greulon yn myned a Laura
O fynwes anwylaidd ei mham.

Ond ha!'r oedd angylion tan len yr eangder
Yn disgwyl, yn disgwyl o hyd,
Am genad yr Iesu o'i orsedd oreurog
I ddisgyn i ferw y byd;
Dychmygaf ei gweled ym mhell tros y gorwel
Yn agor cain ddorau y ne'
I dderbyn ein Laura, ein Laura Jane anwyl,
I'w harwain mewn urddas i'w lle.

Mor chwith ydyw gweled y cryd heb y fechan,
Mewn oergryd yn gorwedd mewn hedd;
Yr Ywen werdd iraidd yn lledu ei breichiau
I warchod ymylon ei bedd;
Murmuron y tonau sy'n suo'n bruddglwyfus,
Yr awel wrth groesi y fan,
Alarai'n wylofus uwchben y cul-anedd
Sy'n llechu wrth furiau y Llan.

Mor debyg oedd Laura i flodyn urddasol
Yn gwyro ei ben tua'r llawr,
Ond codi wna'r blodyn a gwen ar ei ruddiau
Trwy'r mân-wlith ar doriad y wawr;
Er chwerwed y dagrau a dreiglant ein gruddiau,
Nis gallwn ei chodi i'n côl,—
Bu farw i fyw, do, am byth gyda'r Iesu,
Nis gallwn ei galw yn ol.


Nodiadau

[golygu]