Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Anerchiad Priodasol i Mr a Mrs Williams
Gwedd
← Cwyn y Caethwas | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Ar finion y Llyn → |
ANERCHIAD PRIODASOL
I Mr. a Mrs. Williams, Tynewydd, Llandderfel.
DAU anwyl wedi 'u huno,—a'r gydiol
Aur gadwen sy'n urddo;
A llwyddiant heb ball iddo,
A'i Efa fwyn efo fo.
Dau lanwedd yn cydloni—a welwn
Yn William a'i Lizi;
Dau unwyd er daioni
Yn glod a nerth i'n gwlad ni.