Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Ar finion y Llyn
← Anerchiad Priodasol i Mr a Mrs Williams | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y Bwthyn ar Ferwyn → |
AR FINION Y LLYN
TRA 'roeddwn yn eistedd tan goeden y dderwen,
Ar finion Llyn Tegid teg fan,
Canfyddwn o hirbell hen Eglwys addurnawl
Llanycil yn ymyl ei lan;
'Roedd pobpeth o'i amgylch mewn gwisg mor urddasol,
Y coedydd ar lethr y bryn
Yn ysgwyd eu gwyrdd—ddail fel pe yn ymloni
Wrth weled eu llun yn y llyn.
Ymlechai 'r mân adar yn mrigau y goedwig,
A gwyrai 'r glaswelltyn ei ben,
A'r Aran fawreddog ymgodai mor uchel
Nes cyrhaedd cymylau y nen:
A'r nentydd grisialaidd o'i mynwes a darddant,
Ymdreiglant tros greigiau y glyn
I arllwys eu dyfroedd,—i uno 'n y miri
O ddawnsio ar wyneb y llyn.
O brydferth olygfa, —mae rhywbeth yn anwyl
O'th ddeutu yn denu fy mryd:
Y bryniau gwyrddleision fel caerau anfarwol
Yn gwylio 'r hen lyn yn ei gryd;
A draw yn y pellder y Gadair ymgodai
Yn gadarn fe'i gwelid o hyd,
Er gwaethaf ystormydd echryslawn fu 'n curo
Dy fynwes er seiliad y byd.
Mi welaf adfaelion ar ael y bryn acw
O gaerau'r hen Gaer Gai—gynt fu
Yn lloches i lawer hen filwr dewrfydol
Fu 'n ymladd tros Gymru wlad gu;
Mae calon y Cymro 'n ymlamu 'n ei fynwes
Wrth gofio mor erchyll y brad,
A llawer a drengodd a gwên ar ei enau
Tra 'n ymladd tros ryddid eu gwlad.