Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Crist ein Pasg
← Pryddest—Aberth Crist | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Llongyfarchiad i'r Parch J Williams → |
CRIST EIN PASG.
Crist ein Pasg a ddrylliodd rwymau'r
Bedd ar foreu 'r trydydd dydd,
Sylwedd mawr yr holl gysgodau
A'r aberthau ddaeth yn rhydd.
Mewn un aberth cyflawn, perffaith,
Cadd y gyfraith daliad llawn,
A thywynodd gwenau siriol
Cariad dwyfol ar yr Iawn.
Crist ein Pasg, yr hwn fu farw
I gael trefn i'n cadw 'n fyw,
Digon dyn yn mhob cyfyngder—
Digon i gyfiawnder Duw.
Melus ydyw cofio'r taliad,
Cofio 'i gariad, cofio 'i loes,—
Gobaith dynion sy'n glymedig
Wrth ei fendigedig groes.
Crist ein Pasg, mae cof am dano
Heddyw yn sancteiddio'r byd,
Enaid dyn sydd yn adfywio
Pan yn cofio 'r taliad drud:
Cofio awr ei ddyoddefaint
Dan ddigofaint llym ei Dad,
Cofio dydd ein gwaredigaeth
Boreu 'r iachawdwriaeth.
Crist ein Pasg agorodd ddorau
Hen garcharau erch eu gwedd;
Ac o ddwylaw creulon angau
Mynodd agoriadau 'r bedd.
Foreu 'r trydydd dydd agorodd
Ddrysau 'r nefoedd led y pen,
Aeth ei hun yn arch—offeiriad
Trosom ni tu draw i'r llen.
Crist ein Pasg a'i adgyfodiad,
Coron cariad dwyfol yw,
Ynddo 'r ymlonyddaf finau—
O dan wenau cariad Duw.
Ceidwad dyn, gobeithiaf ynddo,
Oen y Pasg diweddaf yw;
Rhuthrodd llengoedd uffern arno,
Ond mae eto 'n Brynwr byw.
Crist ein Pasg, bydd cof am dano
Yn eneinio 'r nefol gân;
Cof am Aberth Pen Calfaria'
Dania sêl y dyrfa lân.
Fe offryma gwaredigion,
Duw eu mawl tu draw i'r llen,
Iddo Ef, gan wylaidd blygu,
Wrth amgylchu 'r orsedd wen.