Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Pryddest—Aberth Crist

Oddi ar Wicidestun
Nadolig Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Crist ein Pasg

PRYDDEST—ABERTH CRIST

YR haul ar foreu 'r greadigaeth ddaeth
I daflu gwen ar y tragwyddol draeth,
Ac ymlid mantell ddu'r gaddugawl nos
A wnaeth, gan redeg drwy'r ffurfafen dlos;
Fe giliodd dyfroedd yr eangder mud
Yn ol, pan wawriodd diwrnod cynta 'r byd,
Ac ysbryd Duw 'n ymsymud nwch y don
A roddodd fod i fyd ar fynwes hon.

Fe welodd Duw mai da oedd hyn i gyd,
A chreodd ddyn i arglwyddiaethu'r byd,
A dododd ef i fyw yn 'Eden Ardd'
Yn nghanol myrdd o flodau teg a hardd;
A phwyntel anfarwoldeb Duw ei hun
Fu 'n paentio tirwedd gartref cyntaf dyn.
Ha! cysegredig fan i'r dynol dad
Oedd Eden, darlun byw o'r nefol wlad;
Ond anufudd—dod dyn a'i taflodd ef
Am byth tan wg, ofnadwy wg y nef!
Trwy'r pechod hwn y cread aeth i gyd
I eigion dwfn trueni 'r erchyll fyd!
Ac nid oedd holl drysorau 'r ddaear gun
Yn ddigon gan y nef tros bechod dyn.

Fe drefnwyd ffordd, cyn llunio'r greadigaeth,
Gan Dad, a Mab, ac Ysbryd yn yr arfaeth:
Y cyngor boreu—yr Anfeidrol Drindod—
Fu 'n gosod dwyfol drefn i faddeu pechod;
Pan roddodd Crist i'r byd ei ddwyfol fywyd
Yn 'Aberth,' fe agorwyd ffordd i'r gwynfyd.
O fendigedig Geidwad! pwy ond Iesu
Allasai fod yn ddigon i'n gwaredu?
Ni feddai'r ddaear faith, na'r nefoedd wiwlan,
Un 'Aberth' ond yr Iesu mawr ei hunan
Yn ddigon i ofynion 'Duw y Lluoedd.'
Ac 'Wele fi,' medd arwr byd a nefoedd,
O'anfon fi' fy Nhad, 'rwyf fi yn ddigon
O Aberth, er mor fawr yw dy ofynion,—

O'm bodd yr af i fyd sy'n llawn gofidiau,
Fy mywyd sanctaidd ro'f tros eu heneidiau;
Fy Nhad, fy Nhad, O arbed eu bywydau,

Oedd eiriau fu'n trydanu 'r cyngor boreu.'
Edrychwn i'r gorphenol, tros ysgwyddau
Yr oesoedd gynt, i ddechreu yr 'Aberthau,'
Canfyddwn yno Abraham yn cychwyn
Ar doriad dydd, mewn ateb i'r gorchymyn.
Cychwynodd ef a'i fab, a dau o'i lanciau
I dir Moriah bell—i wlad y bryniau;
Ac wedi teithio'r anial maith anghysbell,
Y trydydd dydd' fe welai'r fan o hirbell,
'Ac Abrabam a gododd ei olygon,'
A braw a dychryn lanwai'n awr ei galon;
A chyda llais crynedig fe sibrydodd,—
Fy ngweision hoff, arhoswch yn eich lleoedd.

Tyr'd Isaac, fe awn acw ac addolwn
I Dduw; I Dduw y Lluoedd fe offrymwn!!
Ac wedi cyrhaedd yno, fe osododd
Y tad ei fab ar allor adeiladodd;
Ac yn ei law cymeryd wnaeth y gyllell,
Ond ust! dychymygai glywed llais o hirbell—
Nefolaidd lais—yn treiddio trwy'r eangder
Mal trydan y disgynodd o'r uchelder,
Ac angel Duw o'r nef ddywedodd wrtho:
‘Ha, Abraham, na wna ddim niwed iddo—
Dy unig blentyn ydyw 'r hwn aberthi,
Dy fab—dy anwyl fab a hoffi;
Ymatal Abraham, mae nef y nefoedd
Yn llawenhau o herwydd dy weithredoedd.
Trwy'r weithred hon bendithir y 'cenhedloedd'
Am oesau i ddod, medd Arglwydd Dduw y Lluoedd.
Cysgodi 'n wan wnai'r hunan-aberth yma—
Yr Aberth mawr a wnaed ar Ben Calfaria.

Yn britho'r oesau tywyll bu'r prophwydi
Am Aberth Mawr' yr ebyrth yn mynegu;
Cenhadau dwyfol oedd y rhai'n anfonwyd
Tan nawdd y nef cyhoeddent yr ail—fywyd

I fyd oedd wedi disgyn i drueni;
Fel ser y wawrddydd hwy ddangosent i ni
Fod Haul cyfiawnder,' Haul yr hauliau'n dyfod
A meddyginiaeth lawn oddiwrth bob pechod.

O'r golwg y diflanodd y cysgodau
Pan daflodd Haul Cyfiawnder ei beiydrau
Ar ael y ddunos erch fe daflodd olau
Pan ddodwyd Crist yn ddyn mewn gwael gadachau.
Y cyngherdd nefol lanwai yr eangder
O fawl pan ddaeth yr Aberth o'r uchelder;
Rhyw foreu byth—gofiadwy ydoedd hwnw
Pan roddodd Crist i'r byd ei ddwyfol enw
Mor ryfedd ydoedd gweled 'aer y nefoedd'
Mewn preseb tlawd, yn frenin y brenhinoedd.
Ac unig obaith y pechadur truan

Oedd hwn, a ddaeth o'r nef i'r byd yn faban;
Efe oedd sylwedd mawr y Cyngor Dwyfol,'
Efe oedd pris y byd i'r tad anfeidrol.—
Efe oedd ddigon ir gofynion anferth—
Efe oedd hwn addawyd ini 'n 'Aberth.'

Ymdaena gwen o falchder tros wynepryd
Yr hen Simeon dduwiol yn ei adfyd
Pan welodd Mair, ac yn ei breichiau'r Ceidwad
Yr hwn a brynai fyd trwy rym ei gariad,
Canfyddai yn y baban bychan Iesu
Ogoniant Duw ei hunan arno'n gwenu,
Gweddio wnaeth a thywallt ei fendithion
Pan welodd 'Aberth Mawr' yr addewidion.

Pan glybu'r 'Brenin Herod' am y baban Iesu
Fe alwodd am y doethion hyny i'w balasdy
I'w holi'n fanwl am y seren ymddanghosodd;
A chyn i'r doethion fyned ymaith. fe orch'mynodd
Am iddynt anfon ato ef, a pheidio oedi,
Fel gallai yntau ddyfod yno i'w addoli.
Ond angel ddaeth o'r nef mewn breuddwyd at y doethion,
Gan ddangos iddynt arall ffordd i fyned weithion;

Fe ffromodd 'Herod frenin' pan y clywodd hyny,
Nis gall'sai feddwl am yr hwn oedd i deyrnasu.
Ymaflodd yn ei gledd, a galwodd ei fyddinoedd
Ynghyd, ac erlid wnaeth anfarwol Fab y Nefoedd,
Eiddigedd lanwai'n awr ei fynwes a dialedd,
Ac o'r trychineb a ddanghosodd ddidrugaredd!
Llofruddio wnaeth ei filwyr creulon blant diniwaid
I foddio ei gynddaredd hyrddiwyd y trueiniaid
I dragwyddoldeb ; ond baban y tangnefedd
Oedd ddiogel, yn yr Aipht o gyrhaedd ei ddialedd.

Ac yno mewn tawelwch rhwng y bryniau
Bu'r Iesu 'n blentyn gyda'r plant yn chwaren;
Ac nid oedd Nazareth yn edrych arno
Ond fel ar blentyn bychan arall yno;
Fel hyn y tyfodd Ceidwad byd i fyny
Mewn dinod le yn nghwmni ei holl deulu.
Rhyw newydd anian iddo ef oedd gwisgo
Ei hun mewn corph o gnawd mewn marwol amdo,
Ond gydag anfeidroldeb Duw edrychai
Yn ol i'r cyngor boreu, yno gwelai
Ei hun yn cydgynllunio ffordd i faddeu
Cyn bod y byd, na dyn, na dim pechodau;
Ac ynddo ef fe unwyd dyn a Duwdod,–
Ac ynddo ef caed Aberth llawn am bechod.

Mor ryfedd ydoedd gwel'd y bachgen Iesu
Yn holi y doctoriaid, ac yn dysgu
Cyfrinion bethau mawrion iddynt yno,
A hwythau'n fud, nis gallent ddeall m'ono;
Ychydig wyddent hwy mai eu Creawdwr
A safai ger eu bron mewn agwedd holwr.

Cynyddu mewn doethineb wnaeth y bachgen,
Gan ddwys fyfyrio 'n aml am gwymp Eden;
Rhag—welai ef y diwrnod mawr yn dyfod,
Pan â phechodau 'r byd 'roedd i gyfarfod;
Ac i'r dyfodol prudd edrychai'n wrol,
Gan syllu 'n ol i'r arfaeth fawr dragwyddol.

Fel Duw, fe welai ei ogoniant dwyfol
Yn gosod sylfaen byd ar draeth tragwyddol;
Ond wele 'r Duw yn ddyn rhwng y mynyddau,
Ac yno 'n sylwedd mawr yr holl gysgodau..
A phan y dodwyd ef yn yr Iorddonen,
Ei dad o'r nef anfonodd y golomen,—
Dangoswyd ynddi gywir ddrych o hono
O flaen y byd fel un heb bechod ynddo.

Rhyfeddu wnaethant hwy yn anghrediniol
Pan welsant wyrthiau mawrion yr Anfeidrol,
Nis gallent hwy amgyffred am y Duwdod
Orweddai yn y pur, ddilwgr Hanfod.
Na, na! nis gallent hwy ddim canfod ynddo
Ond 'Mab y Saer' fu yn eu plith yn gweithio,
Yr hwn gyflawnodd ryfedd wyrth y torthan
Ac a ddistawodd nerth yr erchyll donau;
Trwy air o'i enau ef, fe welai 'r deillion
Y Duw yn ddyn yn rhodio gyda dynion.
O ryfedd fawredd, gwelwyd ef yn hyrddio
'R ellyllawg leng gythreulig erchyll hono;
Ac wrth yr elor clywyd ef yn galw
A'i wylaidd lais yn adgyfodi'r marw,
Ac hyd ei ruddiau canaid yn Bethania
Ymlifai dagrau gyda Mair a Martha,—
Yr Iesu 'n wylo dagrau! dwyfol Geidwad!
Y Crist yn wylo dagrau cydymdeimlad!

Ni fynai 'r Iesu glod am ei weithredoedd,
Gwell ganddo ef dawelwch distaw leoedd.
0 swn y dyrfa gyda'i hoff ddysgyblion,
Mewn unig fan, yn ymdrin a'i gyfrinion.
Un noswaith, draw ar gopa mynydd Hermon
Gerbron ei Dad, bu'n arllwys ei holl galon
Mewn gweddi daer am gymborth ei Dad nefol
I'w gario trwy yr arw awr ddyfodol.
Anfesuredig yw y dwyfol gariad,
Anasgrifiadwy yn y gwedd—newidiad.'

Pwy all ddesgrifio chwerwon loesion Iesu?
Pan ddaeth Iscariot ato i'w gusanu,—
Y bradwr hyf, yr euog anystyriol—
Y meidrol gwael yn gwerthu yr Anfeidrol.

Rhoed Prynwr byd, yr Aberth mawr tragwyddol,
I sefyll gerbron Pilat mewn llys dynol,
A'r dorf gynddeiriog yn edmygu'r Unig—
Heb neb yn arddel Iesu 'r nef anedig.
Ei watwor wnaethant hwy. heb ganfod ynddo
Un bai na phechod hawliai ei groeshoelio.
Er hyny 'r annuw feiddia wawdio'r Iesu,
Y rhai fu gynt o'i ddeutu yn molianu;
Mor unig oedd yn arw awr ei drallod,—
Hyd nôd yn adawedig gan y Duwdod.
Tra taflwyd arno wawd y dorf derfysglyd,
Yr haerllug wallgof leisiau mor ddychrynllyd
Taranent nes adseinio trwy'r mynyddau,
A'u hecco 'n gwatwar draw o'r uchel greigiau;
A Satan a'i felldigawl lu dieflig
Yn hyrddio eu picellau; taflent geryg
A phoerent i wynebpryd gwelw'r Iesu,
Yr hwn tros erch bechodau byd yn trengu!
O! 'r fath waradwydd i Greawdwr bydoedd,
Ei osod ar y groes rhwng byd a nefoedd;—
Yr haul, fel pe i wylo, drodd o'i gylchdaith,
Nis gallai edrych ar y fath anfadwaith.
Ac engyl Duw ar drothwy'r nef safasant
Yn fud mewn braw a dychryn pan y gwelsant
Y dafnau gwaed yn llifo o ddoluriau
Yr Iesu pur, ac yntau 'n gwaeddi 'Maddeu!'
Sylfeini 'r greadigaeth a ysgydwyd
Pan waeddodd Crist o'i ing y gair 'Gorphenwyd!'
Y creigiau cedyrn welwyd yno 'n hollti,
A meirwon lu o'u beddau yn cyfodi.
O! ryfedd drefn, teyrnasu wnaeth trugaredd
Pan roddwyd Aberth llawn mewn bedd i orwedd.

******

Nodiadau

[golygu]