Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Llyn Tegid a'r amgylchoedd
← Er Cof am Mrs Janet Evans | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y Bwthyn Bach yn Meirion → |
LLYN TEGID A'R AMGYLCHOEDD.
LLYN Tegid mae'n brid mewn bro,
A'i glawr yn gwir ddisgleirio,
Gwylia'r lloer uwch gwely'r llyn
A'i dullwedd mewn modd dillyn,
Ar ei lif fwria i lawr
Yn uniawn o'i chlaer nenawr:
O'r fath fawredd ryfeddol
Lunia'i gwen er ei lân gol,
I mi'n anwyl mae'n enyn
Hoen a serch a'i swynion syn,
A charaf yr iach oror
Ger y lan mae'r fan yn fôr:
O harddwch yn llawn urddas,
A'r meusydd a'r glenydd glas
Yn hygar iawn o'i ogylch
Ffurfiant eirian gyfan gylch.
Llanycil wrth gil hwn gaf—
Ein henwog Eglwys hynaf,
A mawl Duw yn ei deml deg
Ydoedd i'w gael bob adeg:
Yn ei mynwent is meini
Mae pob oed a roed yn rhi
I orwedd yn eu beddau
Hyd yn glir y clywir clau
Fawr alwad Duw Dad a'i dwg
O'r gwaelod oll i'r golwg.
Draw eto'n y fro ar fryn,
Is gallt geir wedi disgyn,
Garn Dochan—hen fan gynt fu
Yn lloches iawn i lechu
I'n gwir enwog wroniaid
Yn ein plwyf fu'n byw o'n plaid.
Yr Aran draw a erys,
Ac o'i bro cawn bwyntio bys
Dan hwyliog nodi'n hylaw
Yr oesol lyn geir islaw.
Llyn y Bala—ha, mae hwn
Yn haeddol, ni gyhoeddwn,
O ganiad wir ogonawl
Gynal ei fug anwyl fawl.