Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Meirionydd

Oddi ar Wicidestun
Y Llygaid Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Beth wna Ddyn

MEIRIONYDD

MOR enwog yw Meirionydd—hyfrydaf
Frodir iach ysplenydd;
A gwawr haul dengar a rydd,
Wyneb rhiniol i'w bronydd.

Yr Aran fawr awyrol—orwedda
Yn ei harddwch oesol;
A'i herfeiddiad rhyfeddol,—
Erys hyd dân ar ei stol.

Aberoedd tlysion Berwyn,—a fwriant
Lifeiriol ddwfr brigwyn;
A'i ewynog lif a enyn
Awen a scrch i lesmair syn.


Nodiadau

[golygu]