Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Beth wna Ddyn
← Meirionydd | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Mr T E Ellis, AS → |
BETH WNA DDYN?
A beth wna ddyn? nid byw yn hen,
A derbyn moethau'r byd;
Mae eisiau rhywbeth mwy na gwen,
A dillad hardd eu pryd;
Nid bod yn falch ar bethau cain
A hoffi ef ei hun;
Na! rhaid cael rhywbeth mwy na rhai 'n
Cyn byth bydd dyn yn ddyn.
Pa beth wna ddyn? nid meddu dawn
A dysg o uchel ryw;
Nid bod yn ddoeth, nid bod yn llawn
O bur wybodaeth syw;
Nid yw holl gyfoeth mawr y byd
Yn ddigon ynddo'i hun;
Mae'n rhaid cael mwy na hyn i gyd
Cyn byth bydd dyn yn ddyn.
Pa beth wna ddyn? nid gallu cryf
I lywodraethu gwlad;
Nid bod yn ddewr, nid bod yn hyf,
Wrth arwain llu i'r gad;
Nid ydyw hyn ond rhan o'r bod
A wnaed ar ddelw'r un
Sy'n gofyn llawer mwy o glod
Cyn byth bydd dyn yn ddyn.
Pa beth wna ddyn? cymeriad pur,
A chred trwy ffydd yn Nuw,
Mae hyn yn ddigon rhag pob cur
All gwrdd y ddynolryw;
Pa beth wna ddyn? ei gariad ef
At bawb fel ato'i hun,
Mae hyn yn ddigon gan y nef
I wneyd pob dyn yn ddyn.