Neidio i'r cynnwys

Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Mr T E Ellis, AS

Oddi ar Wicidestun
Beth wna Ddyn Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Fy Mam


MR. T. E. ELLIS, A.S.

GWRON a phur wladgarwr—a welwn
Yn Ellis ein noddwr;
Hwn i'n saif, mae hyn yn siwr,
Yn addas ddoeth seneddwr.

Dyma arwr, enaid Meirion,—wele
Anwylyd ei chalon;
Rhoddi'i llaw yn rhwydd a llon,
O gariad wnaeth i'w gwron.

Gwr a'i lon'd o diriondeb—gwyl enwog
Haelioni 'n ei wyneb;
A'i ddoniau'n llawn rhwyddineb,
Ei ail yn wir ni wel neb.


Nodiadau

[golygu]