Caniadau Watcyn Wyn/Priodas y Dywysoges Louise ag Ardalydd Lorne
← Gaing y Glöwr | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Dystawrwydd → |
PRIODAS Y DYWYSOGES LOUISE AG ARDALYDD LORNE
MAE plant yr ucheldir ar flaenau eu traed,
A rhos ar eu gruddiau wrth newid eu gwaed—
Yn bloeddio "hir oes a bendithion di ri',
I'r teulu Breninol, "ein hoff deulu ni";
I Lorne a Louise, hwre, a hwre,
Ac uniad y goron a bachgen o dre',
Boed gwenau y deyrnas, a bendith y ne'.
Mae'r orsedd a'r genedl heddyw y'nglyn,
Y Fodrwy briodas a'u rhwymodd yn un;
Llaw bachgen o ddeiliad, a llaw wen ei serch,
Yn ymyl y goron dderbyniodd y Ferch;
Pan rwymwyd ei law, daeth ei galon yn rhydd,
Mae heddyw yn teimlo yn Frenin ei ddydd,
A chusan breninol yn gwrido ei rudd.
Nid aeth y Dywysoges pan aeth i gael gwr,
I "groesi yr afon i mofyn am ddwr ";
Nid ffwrdd i'r cyfandir cyn dyfod i'w gwrdd,
Ond ffwrdd gyda'r Llanc aeth â'i chalon i ffwrdd;
Priododd ei chariad, a gadael i fod
Arferion breninoedd a merched o nod,
Mae cloch ei dewisiad yn cânu ei chlod.
Mae calon y deyrnas yn curo yn nes,
I'r galon freninol mewn cariad a gwres;
Ar sel y ddwy galon, mae calon pob un,
Yn curo am eu llwydd, fel ei llwyddiant ei hun;
Mae pawb trwy y wlad yn gyd—dylwyth yn awr,
Cawn gyfarch ein gilydd fel un teulu mawr,
Heb edrych i fyny, nac edrych i lawr.