Caniadau Watcyn Wyn/Y Meddwyn
Gwedd
← Trai a Llanw'r Môr | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Mae nhw'n d'weyd → |
Y MEDDWYN.
AR ei oreu'n gwario'i arian—o'i fodd
Mae'r hen feddwyn, druan;
Adyn moeth'! nid yw un man
Hapus ond wrth ei gwpan.
"Yfwn fyth," medd ef yn ei fost "gwrw
A gwirod"—dyma ymffrost!
Och! yr adyn ffol chwerwdost,
Heb un tâl ond ei ben tost!