Caniadau Watcyn Wyn/Y Melinydd
Gwedd
← Y Gwely | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Y Peiriant Dyrnu → |
Y MELINYDD.
LLEIDRYN mor deneu a lledrith—er hynny
Hen gyfranwr bendith;
Ei glod ddaw gan rif y gwlith
I'r dyn gwyn, er dwyn gwenith.
Goludog borthwr y gwledydd—enwog
Gyfranwr dihysbydd;
I bawb daw blawd càn bob dydd,
O law wen y melinydd.