Caniadau Watcyn Wyn/Y Gwely
Gwedd
← Parc Dinefwr | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Y Melinydd → |
Y GWELY.
Y GWELY hen, gwal i huno—lle addas
I roi lludded heibio;
Cawn roi'r byd i gyd dros go'
Yn ei gôl, bydd Duw'n gwylio.
Nos anedd i orphwys enyd—luniwyd
Rhwng gwlenyn esmwythglyd;
Heb awel na thwrf bywyd;
O naws haf, cynes o hyd.