Caniadau ac ati/Bedd y dyn tlawd

Oddi ar Wicidestun
Y bwthyn yn nghanol y wlad Caniadau ac ati

gan Ioan Emlyn


BEDD Y DYN TLAWD.

Is yr ywen ddu, ganghenog,
Twmpath gwyrddlas gwyd ei ben,
Fel i dderbyn o goronog
Addurniadau gwlith y nen;
Llawer troed yn anystyriol,
Yn ei sathru'n fynych gawd,
Gan ysigo'r glaswellt siriol,
Dyma fedd y dyn tylawd

Swyddwyr cyflog gweithdy'r undeb,
A'i hebryngodd ef i'w fedd,
Wrth droi'r briddell ar ei wyneb,
Nid oes deigryn ar un wedd,
'Nol hir frwydro a thrafferthion,
Daeth i ben ei ingol rawd,
Noddfa dawel rhag anghenion
Ydyw'r bedd i'r dyn tylawd.

Mae'r garreg arw a'r ddwy lythyren
Dorodd rhyw anghelfydd law,
Gyd-chwareuai ag e'n fachgen,
Wedi hollti'n ddwy gerllaw;
A phan ddelo Sul y blodau,
Nid oes yma gâr na brawd
Yn rhoi gwyrdd-ddail a phwysiau
Ar lwm fedd y dyn tylawd.

Ar sedd fynor nid yw'r awen
Yn galaru uwch ei lwch,
A chyn hir drwy'r las dywarchen,
Aradr amser dyna'i swch;
Un a'r llawr fydd ei orphwysfa,
Anghof drosti dyn ei rhawd,
Ond er hyny angel wylia
Ddaear bedd y dyn tylawd.

IOAN EMLYN.