Caniadau ac ati/Y bwthyn yn nghanol y wlad

Oddi ar Wicidestun
Can ar werthfawrogrwydd sobrwydd Caniadau ac ati

gan Alaw Ddu

Bedd y dyn tlawd


Y BWTHYN YN NGHANOL Y WLAD.

Y bwthyn lle treuliais fy mebyd,
Fan hyny mi hoffwn gael byw.
I sugno yrawel iach hyfryd
Mewn tawel gymdeithas â Duw

Gan dwrf y pentrefwyr a'u cyffro,
'Rwy'n methu cael unrhyw fwynhad,
Am hyny nis gallaf anghofio
Y bwthyn yn nghanol y wlad.

Mae natur o amgylch y bwthyn,
Yn gwisgo prydferthwch di-ail;
A chathlau hoff adar y dyffryn,
A murmur y gwynt drwy y dail;
Yn ymyl y ty saif celynen
A blanwyd gan ddwylaw fy nhad,
Yn gysgod rhag 'stormydd mae derwen
I'r bwthyn yn nghanol y wlad,

Symudaf i'r llanerch tra hyfryd,
Paradwys fy nghalon i yw;
Ac yno tra pery fy mywyd
Arosaf tra byddaf fi byw;
Henafiaeth a berthyn i'r bwthyn,
Lle dywedais i gyntaf, fy Nhad,
A'r fan ce's Fam i'm hamddiffyn,
Yw'r bwthyn yn nghanoly wlad.

Alaw Ddu