Caniadau ac ati/Can ar werthfawrogrwydd sobrwydd

Oddi ar Wicidestun
Caniadau ac ati Caniadau ac ati

gan Anhysbys

Y bwthyn yn nghanol y wlad


CAN AR WERTHFAWROGRWYDD SOBRWYDD

Ton—"Calon Derwen"

Yn gyntaf mae sobrwydd mor rhwydd yn mhob rhith,
Yn fendith i ddynion, wyr glewion, fel gwlith;
Er cynnal hir iechyd, heb glefyd na gloes,
Mi galwa'n ymgeledd hyd ddiwedd ein hoes;
Ni a welwn fo ! rhai, sy'n byw yn eu bai,
Yn clydaw cleíydon ar droion heb droi,
£u hachog eu hun, mae'n dal Hawer dyn
Fyw flinder corfforol mewn iasau mynwosol,
Trwy fyw'n annghymedrol, nid gweddol eu gwyn.

Yn ail, lle bo sobrwydd wir hylwydd wawr hael,
Fe ymddengys yn gymhwys nod gwiwlwys nid gwael,
Pa wr fwy golygus neu drefnus ar dro,
Na'r so'r ddyn dinag, ble bynag y bo?
Boed gwych, neu hoed gwael, wir ffyniant heb ffael,
PE gaiff gym'radwyaetl ddyn helaeth ddawn hael;
A'i barchu tra'n bod wr glanwedd ei glod,
O flaen yr aflonydd, wag obaith neu gybydd,
Na'r meddwyn dig'wilydd annedwydd ei nod.

Yn drydydd, mae sobrwydd iawn sadrwydd yn siwr,
Heblaw fod yn burlan, naws ddydan heb stwr,
Yn cadw'r synwyrau mewn graddau'n eu grym,
Fo'n collir twy feddwdod hyll amod yn llym;

Y glân dyn y sydd a'i u'in, wr dyddan bob dydd,
Yn haeddu'r cymeriad trwy rodiad tra rhydd,
A'r meddwdod, wyr mwyn rwy'n syniad yw'r swyn
Sy'n boddi'r talentau, sain, oer a'r synwyrau,
Dro gwan mewn drwg wyliau, degnnau'n digwyn.

Mi wela, 'n bedwarydd, mai sobrwydd heb sen,
At gyda syberwyd mewn bywyd sydd ben,
A gwell erbyn marw, miwy croew mae'n cred,
Rhwn hauo gyfiawnder addfwynder a fed.
Y wobr y sy wr tawel mewn ty,
Gamp hynod gwmpeini, mae'n lloni pob llu,
Canlymad dilen dawn hynod dan nen,
Pe cawn ni fyw'n ddedwydd, wir eirglod, i'r Arglwydd;
Wych arwydd am sobrwydd er mawrlwydd, Amen.