Capelulo/Pregeth i Berson

Oddi ar Wicidestun
Araeth Danllyd Capelulo

gan Robert Owen Hughes (Elfyn)

Cwestiynau'r Cyfrwys


XIII. PREGETH I BERSON.

YN Llanrwst, ers llawer o flynyddau yn ol, yr oedd gŵr ieuanc, yr hwn mewn cryn amser ar ol hynny a ddaeth i gael ei adnabod fel y Parch. Robert Jones, M.A., ficer Llanidloes, yr wyf yn meddwl. Mab ydoedd i wr bucheddol a pharchus o'r enw Evan Jones, y gof, Talybont—rhan o ben uchaf tref Llanrwst. Yr oedd Evan Jones mewn amgylchiadau eithaf cysurus, ac yr oedd efe a'i wraig yn aelodau cyson yn y Capel Mawr; ac yn seiat y capel hwnnw y dygwyd Robert, eu mab, yr hwn, fel y dylaswn fod wedi dweyd, a adwaenid wrth y ffugenw "Quellyn," i fyny. Dywedir i Robert dyfu i fyny yn wr ieuanc balch ac uchelfryd. Dechreuodd flino yn fuan ar hen frodyr a chwiorydd manwl a defosiynol y Capel Mawr. Yr oeddynt yn rhy grin a hen ffasiwn i wr ieuanc hardd o berson a thrwsiadus o wisg fel efe. Methodd a chadw y ffydd Fethodistaidd, ac yn lled ddidrafferth iddo ei hun, aeth drosodd i Eglwys Loegr, yr eglwys yr oedd "Titley the Tattler,' Boulger the Belgian," a "Davies the Diver," chwedl yntau, yn perthyn iddi. Hen bersoniaid parchus, caredig, a diniwed oedd y boneddigion hyn y chwareuai Quellyn mor ddoniol gyda'u henwau, sef y Parchn. Peter Titley, Penloyn; John Boulger, Pennant; a Davies, y Graig, Llanddoged. Aeth Quellyn i Rydychen, neu Gaer- grawnt, a daeth yn ysgolor o dan gamp. Disgleiriai yn arbennig o ran gallu i ddysgu ieithoedd; ac os oedd yn falch yn myned yno, daeth Nid oedd yn oddiyno yn ganwaith balchach. adnabod neb ymron yn ei hen dref enedigol; yn wir, dywedir mai prin yr adwaenai y fam a roddodd sugn iddo. Ymroddodd a'i holl enaid i gashau Methodistiaeth, ac o dipyn i beth aeth ei gariad yn eisieu at ei wlad a'i genedl ei hun. Ei duedd ydoedd gwneyd pob peth yn Saesneg. Dichon fod rhyw reswm dros yr oerfel-garwch hwn at yr Ymneillduwyr yn arbennig, ac at y Cymry yn gyffredinol; ond nid wyf yn sicr beth ydoedd. Wedi pasio i fod yn berson, ni bu iddo ymweled ond rhyw unwaith neu ddwy â Llanrwst, a rhag i'r darllennydd feddwl mai myned i geisio dweyd hanes Quellyn yn unig yr wyf, mae'n bryd i mi ddweyd mai at un o'r ymweliadau hynny mewn cysylltiad a Thomas Williams yr wyf yn bwriadu son am funud neu ddau, fel y bydd y pregethwyr yma yn dweyd pan yn bwriadu siarad am hanner awr.

Un diwrnod, yr oedd Tomos yn mynd i fyny'r dref, a llwyth o almanaciau a cherddi ar ei ysgwydd, ac yn ei basio yn ysgornllyd ryfeddol, wele wr boneddigaidd, gyda cherddediad gwisgi, a chôt ddu, a chadach gwyn. Gofynnodd rhywun i Domos Williams ai ni wyddai pwy ydoedd, ac wedi cael atebiad nacaol, dywedodd mai Robert, mab Evan Jones, Talybont, ydoedd, a'i fod yn berson yn rhywle, yng nghydag ychwaneg o fanylion, mae'n debyg. Synnodd Tomos yn ddirfawr; gwnaeth olwg ddigofus; ond heb ddweyd gair, ymaith ag ef cyn gyflymed ag y caniatai y lenyddiaeth fuddiol oedd yn bwysau ar ei gefn ac yn ei bocedau, iddo fyned. Wrth fyned, gwaeddai yn uchel,—

"Hai! Hai! Bob, hwda, aros."

Wedi dod at y siamber wenith—magwrfa llygod ac yspyty pryfaid genwair—a elwir yn "Hall," yr hon sydd yn ddolur llygad ar ganol y dref, daeth Tomos hyd i Quellyn. Nid oedd yn bosibl i'r diweddaf ei osgoi, bellach, a throdd ato gyda chryn lawer o ddigter yn ei drem a'i lais, a gofynnodd yn chwerw,—

"I beth yr wyt ti'n cerdded ar fy ol i, Twm? Wyddost ti hefo pwy 'rwyt ti'n siarad?"

Mae'n rhaid fod Quellyn wedi anghofio am dafod Tomos Williams, neu ni buasai byth yn ei gyfarch fel yna. Yr oedd pasio yr hen frawd heb gymeryd arno ei adnabod yn bechod mawr, ond yr oedd ei gyfarch gyda balchder brwnt yn ychwanegiad pwysig at y pechod hwnnw.

Rhoddodd Tomos yr ysgrepan oedd yn llawn o almanaciau i lawr, a dechreuodd dorsythu yn barod i frwydr, fel y bu yn gwneyd yn yr India, yn Belgium, ac yn Sbaen, yn ol ei adroddiadau ei hun. Yna dechreuodd dafodi,—

"Cerdded ar d'ol di, wir! Mae'n dda i ti gael rhywun i neyd hynny, os oes gin ti eglwys yn rhywla, y corgi balch! mi rydw i'n bur siwr mai 'chydig iawn sydd o gerddad ar d'ol di i'r fan honno, beth bynnag. Wn i hefo pwy rydw i'n siarad, wir! Gwn yn iawn, wel di: hefo Bob, mab Evan Jones, Talybont. Wyt ti'n meddwl, wyrach, mai rhywun arall wyt ti. Waeth i ti heb yr un mymryn; fedar dy giard wats di, fedar dy fodrwy aur di, fedar dy ddillad crand di, na'r trimins yna sy o gwmpas d'wddw di ddim dy neyd ti yn fab i neb arall. Mi fum i yn serfis Brenin Lloegar—George the Third-ond mi rydw i rwan yn serfis Brenin y Gogoniant—Iesu Grist. 'Sgwn i yn serfis pwy rwyt ti? Tydi fod dillad person am dana ti yn profi dim byd. Er saled ydi mrethyn i, wyrach y do i allan cystal a thitha pan fydd y roll call yn cael i galw ddydd y Farn. Wyddost ti, pan oeddwn i yn martsio hefo'r army' drwy un o strydoedd sala Brussels, yn Belgium, mi welson hogyn bach yn hanner noeth, a bron a starfio ar step drws ty rhywun, ac mi ddeudodd un o'r hogia oedd hefo fi fod hwnnw yn fab i Brins, ond i fod o heb ei wisgoedd. Cofia di, Rhobat, fod ambell un ohonom ninna sy'n gorfod trampio'r wlad, a hynny mewn carpia digon di-lun, yn feibion i'r 'Prince of Peace,' ond bod ni eto heb gael ein dillad. Mae nhw wedi cael eu gneyd, wel di, ac mi rôth y sawl oedd yn i gneyd nhw y finishing touch' a'i law ei hunan iddynhw ar Galfaria. [Erbyn hyn yr oedd Quellyn wedi ymroi i wrando mewn difrifwch a syndod, ac yr oedd tua dwsin o bobl wedi ymgasglu i wrando yr efengyl yn ol Tomos Williams o Gapelulo.] Ac er i bod nhw'n berffaith newydd, mi fynnodd gael i golchi nhw ar y Groes yn i waed ei hun, ac yrwan y mae o wedi taenu nhw allan ar gloddia'r nefoedd, ac mae Haul y Cyfiawnder yn i gwynnu nhw o flwyddyn i flwyddyn. Chdi pia hi am ddillad heddyw, Rhobat, ond tendia di rhag ofn fod yna ddiwrnod yn dwad y bydd yr hen Gapelulo yn dy owtsheinio di yngwydd can mil o angylion. Mae arna i ofn dy fod ti yn rhoi cymin o grefydd o gwmpas dy wddw fel nad oes gen ti ddim ar dy helw ohoni i'w roi yn dy galon. Paid ti a meddwl mai'r ffwl welis di flynyddau yn ol ydi Capelulo heddyw."

Wedi traddodi y wers hyawdl yna, estynnodd Tomos ei law at ysgrepan y cerddi, i fyned i gychwyn i ffordd, ond pan yn gwneyd hynny, yr oedd sarugrwydd Quellyn wedi cilio, ac edrychai yn siriol a thyner ar yr hen Domos ddawnus. Er syndod i bawb oedd yn ei adnabod, gofynnodd yn garedig i Domos faddeu iddo, ac wedi iddo yntau ddweyd,—"Pob peth yn iawn; gwnaf o waelod calon, Mr. Jones, achos mae Iesu Grist yn siwr o neud, a dan i faner o yr ydw i yn martsio ers blynyddoedd rwan," estynnodd Quellyn sofren felen iddo, ac wedi diolch yn ddoniol am dani, aeth Tomos Williams adref yn llawen i adrodd yr hanes wrth y cathod deallus, Handy a Judy.

Nodiadau[golygu]