Capten mawr ein hiechydwriaeth

Oddi ar Wicidestun
Capten mawr ein hiechydwriaeth

gan Morgan Rhys

Oes modd i mi, bechadur gwael

311[1] Effeithiau'r Oruchafiaeth.
87. 87. D.

1 CAPTEN mawr ein hiechydwriaeth
Welaf yn y frwydyr hon;
Holl elynion ei ddyweddi'n
Gorfod plygu ger ei fron;
Plant afradlon sy'n dod adref,
A fu 'mhell o dir eu gwlad;
Rhai fu'n fudion sy'n clodfori
Duw am iechydwriaeth rad.

Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 311, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930