Neidio i'r cynnwys

Oes modd i mi, bechadur gwael

Oddi ar Wicidestun
Capten mawr ein hiechydwriaeth Capten mawr ein hiechydwriaeth

gan Charles Wesley


wedi'i gyfieithu gan anhysbys
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

312[1] Yr Iechydwriaeth yng Nghrist.
88. 88. 88.

1 OES modd i mi, bechadur gwael,
Gael rhan yng ngwaed fy Mhrynwr hael?
Ai drosof fi dioddefodd loes,
Pan fu Ef farw ar y groes?
Rhyfeddol gariad Tri yn Un
Oedd agor dôr i gadw dyn.

2 Pwy all amgyffred cariad Duw—
Rhoi 'i Fab er mwyn i ddyn gael byw?
Ni all y seraff pennaf sy
Byth ddirnad dyfnder cariad cu.
Rhyfedd yw haeddiant Calfari:
Cyrhaeddodd hwn fy enaid i.

3 Gadawodd orsedd fawr ei Dad;
Mor rhydd, mor fawr ei gariad rhad!
Fe'i rhoes ei Hun yn aberth drud
Dros hil syrthiedig Adda i gyd:
Trugaredd oll-trugaredd rad!
Caiff myrdd eu bywyd yn ei waed.

Charles Wesley
Cyf anhysbys


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 312, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930