Casgliad o Ganeuon Cymru/Myfyrdod ar einioes ac angau
← Y Môr Coch | Casgliad o Ganeuon Cymru gan David Davis (Dafis Castellhywel) golygwyd gan Thomas Arthur Levi |
Myfyrdod ar einioes ac angau → |
MYFYRDOD AR EINIOES AC ANGAU.[1]
[Cyfieithiad o Gray gan PARCH. D. DAVIES, Castellhywel, Ceredigion, gweinidog gyda'r Presbyteriaid. Bu yn cadw ysgol o fri am 65 mlynedd. Ganwyd ef yn 1745, ond ni chawsom ddyddiad ei farwolaeth. Yr oedd yn ddiguro fel cyfieithydd barddoniaeth.]
DACW ddolef y dyhudd-gloch,
Yn oer gan cnull y dydd
Dacw'r ychain gwâr lluddedig,
Yn dod adre' i fyn'd yn rhydd;
A'r llesg arddwr yn ymlusgo,
Ar eu hol o glun i glun;
Pawb, gan ado'r byd a'i ffwdan,
Ant i orphwys ond fy hun.
Hyfryd liwiau'r bryniau a'r bronydd,
Gerddi a gweunydd gyll eu gwawr,
Prudd ddystawrwydd sy'n gyffredin,
Heb ddim lleisiau dros y llawr,
Oni chlywir ambell chwilen
Yn ehedeg heibio'n chwyrn,
A rhyw ddadwrdd pell o'r gorlan,
Gan y praidd yn curo eu cyrn.
Neu'r ddylluan, wrthi 'i hunan,
Yn llwyn iorwg pen y tŵr,
Wrth y lleuad wna achwyniad,
Wban irad oer ei stwr;
Ar rai eger ddelo'n agos,
At ei gwyrdd ddail, dawel dŷ,
I wneyd gormes ar un dalaith,
O'i llywodraeth helaeth hi.
Rhwng y llan a'r hen geubreni,
Hyd yr ywen ddulas draw,
Ffordd mae'n gymysg briddgoch grygiau,
A glas dwmpathau ar bob llaw;
'Mhob i 'stafell gul y dodwyd
Holl hen deidiau pobl y plwy',
Lle gorweddan' yn y graian,
Ni ddychwelan' yna mwy.
'Dall nac awel ben y bore,
Na gwaedd ceiliog uchel gân,
Na whit gwenol lon foreuol,
Yn y lwfer uwch y tân;
Na chorn helwyr, bloedd medelwyr,
Clych, taranau, daiar-gryn,
Byth ddihuno rhai mewn amdo,
Sy' yma heno'n drwm eu hun.
Trefnu'r bwthyn, 'sgubo'r aelwyd,
'Nynu tanllwyth goleu cry',
Ni wna'r wreigan mwy brydnawnau,
I roesaw tawel ŵr y tŷ;
Ei fabanod i'w gyfarfod,
Mwy ni redant yn gytun,
Mewn ymryson am ei gusan,
Mwy ni ymglyman' am ei glun.
Dan eu dwylaw grymus cwympai
Gwair y dolau, ac ŷd y maes,
Fel ymenyn rhwygai'r aradr,
Rhwng eu breichiau'r gwndwn glas;
Arf os coden', blodau'r coedydd,
Isel blygen' benau o'u blaen;
Ac mor ddifyr llon y canent,
Gynt par yrent ar y waun.
Nac edryched pendefigion
Beilch a gwychion gyda gwawd,
Ar y swyddi a'r difyrwch,
Sydd mewn cyflwr isel, tlawd;
Ac na chwardded gwŷr uchelfrig,
Mawr, boneddig, gwych eu moes,
Mor anhyglod ac anhynod
Ydyw hanes fer eu hoes.
Beth yw mawr—fri uchel achau,
Rhwysg a mawredd bonedd byd?
Rhyw oferedd sâl disylwedd,
Gwynt a gwagedd oll i gyd,
Nad all estyn un fynydyn,
Ar eu heinioes hwy na'u hedd;
Holl ffyrdd llwyddiant a gogoniant
A ddybenant yn y bedd.
Feilchion, peidiwch, na chyfrifwch,
Ar y meirwon yma'n fai,
Am nas dyry coffadwriaeth
Feini mynor i'w coffhau,
O fewn eglwys fawr gadeiriawl,
Neu ryw gapel eurwych glân,
Lle mae'r organ gyda'r eur-gor.
Yn dyrchafu'r ddwyfol gân.
A all hanes o'u hen achau,
A'u llawn ddelw o wyngoch liw,
Gyda mawrglod uwch ei feddrod
Wneyd y marw mud yn fyw?
Pwy hyfrydwch all anrhydedd
Roddi i gelain oer o bridd,
Neu beroriaeth, twyll a gweniaith,
I fyddar-glust angau prudd?
Yn y graian yma gorwedd,
Fallai lawer fuasai lawn
O wir rywiog fflamau'r awen,
A phrydyddawl ddenawl ddawn;
Dwylaw all'sai lywio teyrnas,
A theyrnwialen ar ryw thrôn,
Dawn a dwylaw diwniai delyn,
I lesmeiriol dyner dôn.
Llyfr dysgeidiaeth a henafiaeth,
A naturiaeth môr a thir,
Nis darllenodd, nis agorodd,
Ac nis gwelodd un o'r gwŷr;
Gauaf gofid dros eu bywyd,
Lethai 'u hyspryd gwych i lawr,
Ac a rewai fywiol ffrydiau,
Swydd gyneddfau 'u henaid mawr.
Y mae'r gemau a'r perlau puraf,
Goreu 'u lliwiau îs y lloer,
Dan y tonau'n gudd rhwng creigiau,
Yn nyfnderoedd mawr y môr;
Ac mae'r blodau teca'u lliwiau,
Lle nas gwelir byth mo'u gwawr,
Ac yn taenu 'u peraroglau
Lle na sylwa neb mo'u sawr.
Yma, f'allai, caid rhyw Hampden
Ddoeth, a chalon ddewr o ddur,
A geryddai un gormeswr,
Fynai dreisio darn o'i dir;
A rhyw Filtwn heb ei fawr-glod,
Mewn dystawrwydd îs ein traed,
Ac ail Gromwel gwrol, grymus,
Rhydd o 'lanas pawb o'i wlad.
Caed clodforedd yn y Senedd,
Am areithiau dawnus doeth,
Llwyr ddirmygu, mil yn gwgu,
Neu'n anelu'r cleddyf noeth;
Taenu llewndid dros ei genedl,
Gweled gwlad yn gwenu ei glod,
Oeddynt freintiau na allasai
I un o'u graddau'n bosib' ddod.
Tlodi os nadai rhai rhinweddau,
Rhag cyrhaeddyd eitha'u rhod,
Tlodi a lethai fwy gamweddau,
Mewn ll'wetheiriau dan ei throed;
Ni chlyw'd iddyn' ddringo gorsedd,
Drwy gelanedd, mwrdd-dra, a gwaed,
Na chau clust a drws tosturi,
I galedi a gweddi gwlad.
Gwadu'r gwir, a thyngu'r celwydd,
Heb na syndod, ofn, na chryd,
Na llwyr ddiffodd gwreicbion olaf
Gwir onestrwydd gyda'r gwrid,
Na gwastrffu peraroglau,
Ac auraidd ddoniau'r awen ddrud,
Yn aberthau ar allorau
Anghyfiawnion beilchion byd.
Pell o 'myraeth ffol a hiraeth
Am arglwyddiaeth ar eu gwlad,
Gyda sobrwydd a boddlonrwydd,
Ymostynen' at eu stâd;
Mewn dystawrwydd gostyngeiddrwydd,
Cymedrolder hoff a hêdd,
Y ffordd dawel cyflwr isel,
Byth y cadwen' hyd y bedd.
Rhag i'w hesgyrn gael eu damsang,
Gyda dirmyg gan un droed,
Gerilaw iddyn', er eu coffa,
Mae rhyw arwydd in' a nôd;
A diryfau heb iawn fesur,
A cherfiadau gwael dilun,
Ag sy'n galw am ddeigryn mwynaidd,
Wrth fyn'd heibio gan bob un.
'R oed, a'r enw, a'r dydd bu farw,
A'r gareg arw, lwyd, ddi-rân,
A geir yma'n lle cof-feini,
A chanmoliaeth peraidd gân;
Cynghor prysur maes o'r 'Sgrythyr,
Ar ei godre' gwedi'n gawn,
I rybuddio pawb el heibio,
Lwyr ddiwygio a marw'n iawn.
Pwy aeth gyda llawn foddlonrwydd,
Yn dragywydd fod o gô',
Maes o fywyd blin na hyfryd,
I'r ddyeithriol fythol fro?
Heb drom galon dwym hiraethlon,
A throi' olygon lawer gwaith,
Tua chaerau'r dirion gartre',
Lon adawai'n ol o'i daith?
Nid oes adyn yn ymado,
Na ddymunai i gyfaill mwyn,
Wedi cauad ei ddau lygad,
Roddi ochenaid fer a chwyn;
I dir ango' wedi i'r angeu
Fynd a'i gelain yn ei gôl,
Hoff yw ganddo pan nas byddo,
I rai wylo ar ei ôl.
Tithau heno roddi'r hanes
Am y meirw gwael di-fri,
Yn mhen amser, os rhyw lan-ddyn
O dy dymher dyner di,
Ddygwydd ddyfod gerllaw'th feddrod,
Mewn myfyrdod pruddaidd maith,
A chwenychu'n fawr cael gwybod,
Hanes ystod fer dy daith.
Hen ŵr penwyn f'allai dd'wedai,
"Mynych gwelsom gyda'r wawr,
A'i fras gamrau'n croesi'r caeau,
Ac yn tori'r gwlith i lawr;
A chan esgyn yn dra gwisgi,
Hyd y fron yn teithio'n dyn,
I roesawi haul y dwyrain,
Yn y bore ar ben y bryn.
Pan y byddai ei wres gadarnaf,
Ar ein dae'ren haner dydd,
Yn y gwaelod tawel isod,
Ar lan cornant yn y cudd,
Ar ei wyneb yno'n gorwedd,
Dan dew goeden caid y gŵr,
Gan fud syllu ar ei ffrydiau,
Gwrando dwndwr ber y dwr.
Gerllaw'r goedwig draw, brydnawnau,
Rhodiai ar hyd y gwndwn glân,
Weithiau'n gwenu wrth fwmial canu
Rhyw rigymau wnai o gân;
Weithiau'n llibyn heb un englyn,
A lliw'r ddae'ren ar ei rudd,
Gan drwm ofid, neu fawr gariad,
Wedi troi'n anobaith prudd.
Ar ben bore aeth yn eisiau,
Ar y bryn a than y cudd,
Ac o'r llwybrau rhai a rodiai
Fe brydnawnau—daeth ail ddydd;
Ond y llygaid gynt a'i gwelsent,
Mwy nis gwelant byth mo'r gŵr,
Nac uwch gelltydd, nac ar faesydd,
Nac mewn dolydd yn mín dwr.
Ar ei elor, druan, dranoeth,
Gyda galar dygwyd e',
'N araf chwarian hyd y dreflan,
Gan wŷr mwynlan i'w oer le;
Dan y gareg gerllaw'r ywen,
Man lle gorwedd 'n awr mewn hedd;
Tyred yma, gwn y medri,
Ddarllen im'
EI 'SGRIFEN FEDD.
Ar oer arffed dae'r i orphwys
Yma dodwys bwys ei ben,
Mab heb olud nac anrhydedd,
Nac awdurdod dan y nen;
Dawn dysgeidiaeth a fwyn wenai
Ar ei enedigol ddydd,
Pwyll a phrudd-der ar bob amser,
A gartrefen' ar ei rudd.
Hael ei galon, rhwydd ei roddion,
Heb ddybenion gweigion gau;
Rhoes rhagluniaeth daledigaeth
Yma'n helaeth i'w mwynhau;
O dosturi i drueni
Fe roi allai-dagrau'n lli';
Gan y nefoedd fe dderbyniodd
A ddymunodd, gyfaill cu.
Mwy na ddygwch o'i rinweddau,
Na'i wendidau, i oleu dydd,
O'r tywyllwch a'r dirgelwch,
Lle gorweddan' oll yn gudd;
Gan hyderu am iechydwriaeth,
A thrugaredd ryfedd rad,
O fawr haelder Duw'r uchelder,
Sy fel mwynder tyner tad.