Casgliad o Ganeuon Cymru/Y Môr Coch
← Y ddeilen grin | Casgliad o Ganeuon Cymru gan John Blackwell (Alun) golygwyd gan Thomas Arthur Levi |
Myfyrdod ar einioes ac angau → |
Y MOR COCH.
(ALUN)
CHYHWYTHWCH yr udgyrn ar gopa Baalsephon,
Iehofa orchfygodd daeth ryddid i'r caethion;
Cenwch—ucheldrem y gelyn a dorwyd,
Carlamau'r gwyr meirch yn y tywod arafwyd;
Mor wag oedd eu bost, ni wnaeth Duw ond llefaru,
Dyna fyrdd yn y dòn yn gwingo ac yn trengu!
Cenwch yr udgyrn ar glogwyn Baalsephon,
Iehofa farchogodd ar war ei elynion!
Mawl, mawl i'r Gorchfygydd-Hosanna i'r Iôr,
Y gormes a gladdwyd yn meddrod y môr;
Ei air oedd y saeth a enillodd yr orchest,
Anadl ei ffroenau oedd cleddyf y goncwest,
Pwy ddychwel a'r newydd i'r Aipht am y nifer
A yrodd hi allan yn niwrnod ei balchder?
Edrychodd yr Arglwydd o le ei ogoniant,
A'i miloedd yn nhrochion y llif a suddasant!
Chwythwch yr udgyrn ar aelgerth Baalsephon,
Mae Israel yn rhydd a Pharao yn yr eigion.