Casgliad o Ganeuon Cymru/Y ddeilen grin
Gwedd
← Seren Bethlehem | Casgliad o Ganeuon Cymru gan John Blackwell (Alun) golygwyd gan Thomas Arthur Levi |
Y Môr Coch → |
Y DDEILEN GRIN
(Alun)
Sech yw’r ddeilen ar y brigyn,
Buan iawn i’r llaid y disgyn;
Ond y meddwl call a ddarllen
Wers o addysg ar y ddeilen.
Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni,
Gwawr y nef orftwysodd arni;
Gyda myrddiwn o gyfeillion,
Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.
Darfu’r urdd oedd arni gynnau,
Prin y deil dan wlith y borau,
Cryna rhag y chwa ireiddlon
Sydd yn angeu i’w chyfoedion.
Ni all haul er ymbelydru,
Na llawn lloer er ei hariannu,
Ac ni all yr awel dyner
Alw yn ol ei hen ireidd-der.
Blaguro ychydig oedd ei chyfran,
Rhoi un wên ar wyneb anian;
Llef o'r nef yn Hydref waedda—
"Darfu'th waith,"—a hithau drenga.