Neidio i'r cynnwys

Casgliad o Ganeuon Cymru/Seren Bethlehem

Oddi ar Wicidestun
Marwolaeth Esgob Heber Casgliad o Ganeuon Cymru

gan John Blackwell (Alun)


golygwyd gan Thomas Arthur Levi
Y ddeilen grin

SEREN BETHLEHEM.

(Cyfieithiad Alun o Kirk White)[1]

Pan bo sêr anhraethol nifer
Yn britho tywyll lenni’r nen,
At un yn unig drwy'r eangder
Y tâl i'r euog godi ei ben;
Clywch! Hosanna’n felus ddwndwr
Red i Dduw o em i em,
Ond un sy’n datgan y Gwaredwr,
Honno yw Seren Bethlehem.

Unwaith hwyliais ar y cefnfor
A'r 'storm yn gerth, a’r nos yn ddu,
Minnau heb na llyw, nac angor,
Na gwawr, na gobaith o un tu,
Nerth a dyfais wedi gorffen,
Dim ond soddi yn fy nhrem,
Ar fy ing y cododd seren,
Seren nefol Bethlehem.

Bu'n llusern a thywysydd imi,
Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd,
Ac o erchyll safn y weilgi
Dug fi i borthladd dwyfol hedd;—
Mae’n awr yn deg, a minnau’n canu,
F'achub o’r ystorom lem,
A chanaf pan bo’r byd yn ffaglu
Seren! Seren! Bethlehem!

Nodiadau

[golygu]