Categori:William Jones, Cwmaman

Oddi ar Wicidestun

Roedd y Parch William Jones, Cwmaman (1808- 1881) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd ei eni yn Llangadog yn fab ffarm. Cafodd well addysg nag oedd yn arferol i blant y tir yn y cyfnod. Fe fu'n cadw ysgol yn Llanddeusant yn ŵr ifanc. Yn Llanddeusant ymunodd a'r Methodistiaid ym 1828, o dan ddylanwad diwygiad yn yr ardal. Dechreuodd pregethu ym 1832. Rhoddodd y gorau i gadw ysgol ac aeth i'r weinidogaeth, gan wasanaethu yng Nghwmaman, Pontardawe ac Abertawe.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

Erthyglau yn y categori "William Jones, Cwmaman"

Dangosir isod y 3 tudalen sydd yn y categori hwn.