Neidio i'r cynnwys

Cenadon Hedd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cenadon Hedd (testun cyfansawdd)

gan William Jones, Cwmaman

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cenadon Hedd

CENADON HEDD:

NODIADAU BYRION AM DRI AR DDEG

O

WEINIDOGION A PHREGETHWYR

YN MILITH

Y TREFNYDDION CALFINAIDD,

A FUANT FEIRW

O'R FLWYDDYN 1848, HYD Y Y FLWYDDYN 1859.

GAN WM., JONES, CWMAMAN.



"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethant I chwi air Duw, ffydd y rhai
dylynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."—PAUL.



ABERTAWY:

ARGRAFFWYD GAN JOSEPH ROSSER, HEOL FAWR

.

1859.



RHAGDRAETH.

ANWYL DDARLLENYDD,

GAN fod yr ysgrythyr yn sicrhau y bydd coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig, wele fi yn cyflwyno i'ch sylw amryw o honynt ar unwaith. Nid oedd un o honynt heb ryw hynodrwydd ynddo. Gresyn mawr fod hanes bywydau dynion da a defnyddiol yn myned i ebargofiant. Yr hyn a'm cymhellodd i ymgymeryd â'r gwaith hwn, oedd fod bagad o ddynion cyhoeddus oddiar ddechreuad y Methodistiaid yn Swydd Gaerfyrddin heb un gair o son am danynt wedi ymddangos trwy yr argraff-wasg hyd yn hyn. Yr wyf yn gwybod fod amryw o'm brodyr yn y Sir yn gymhwysach na myfi at hyn o orchwyl. Ond gan nad oeddwn yn canfod neb yn cyfodi ati, penderfynais i anturio i'r maes fy hun, a gobeithiaf y bydd i ryw frawd eto, yn mhen rhyw ysbaid o flynyddoedd, i wneuthur rhyw beth cyffelyb. Gwel y darllenydd fod hanes dau neu dri o wrthddrychau ein sylw wedi eu gosod yma yn agos fel y maent wedi ymddangos yn barod gan eraill mewn cyhoeddiadau misol er ys rhai blynyddoedd yn ol. Hwyrach y byddai eu casglu oll yn un llyfr yn fwy buddiol, ac yn fwy manteisiol i'r lluaws i'w meddianu. A bydd eu coffadwriaeth yn fwy tebygol o fod ar gael i'r oesoedd a ddelo ar ol. Gan obeithio y bydd i'r llyfryn bychan hwn ateb ei ddyben er dwyn amrai o'i ddarllenwyr i rodio yr un llwybrau, y gorphwys

Yr eiddoch yn ddiffuant,

W. JONES.

Cwmaman, Ionawr 1, 1859.

Amseriad Marwolaeth y Cenadon

Y Parch. D. Bowen, Llansaint —Hydref 10, 1848
Y Parch. T. Jones, Llanddarog— Awst 12, 1849
Mr. W. Williams, Tyhen— Rhag. 8, 1849
Mr. T. Jones, Hendre—Ion, 16, 1851
Mr. Josuah Griffiths, Llanpumsaint Mawrth 2, 1851
Y Parch. J. Bowen, Llanelli— Awst 16, 1852
Mr. Joseph Thomas, Penybanc—Tach, 30, 1852.
Y Parch. Rees Phillips, Llanymddyfri—Awst 22, 1854.
Mr. John Hughes, Llanedi—Tach. 29, 1854.
Y Parch. C. Bowen, Penclawdd—Rhag. 14, 1854.
Mr. Daniel Bowen, Rhydargaeau— Rhag. 14. 1857
Mr. John Davies, Cayo— Chwef. 25, 1858
Mr. David Morris, Hendre—Meh. 20, 1858.


Cenadon Hedd.

Y PARCH. D. BOWEN, LLANSAINT.

GANWYD David Bowen mewn lle a elwir Aberhenllan, yn mhlwyf Abernant, yn y flwyddyn 1770. Yr oedd ei dad yn glochydd yn y llan. Galwyd ef i'r winllan yn foreu, ac ymunodd a'r eglwys Fethodistaidd yn Meidrim, lle yr oedd ar y pryd yn cyfaneddu; ac wedi profi daioni yr Arglwydd i'w enaid ei hun, teimlodd awydd am i eraill gael profiad o'r un peth, a chymhelliad cryf i berswadio dynion i wneuthur derbyniad o'r iachawdwriaeth fawr yn Nghrist. Y bregeth gyntaf, mae yn debyg, a bregethodd, oedd yn Cydwely. testun oedd Mat. v. 4. Efe a neillduwyd i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd yn Nghymdeithasfa Aberteifi, yn y flwyddyn 1830; a bu yn ddiwyd a llafurus gyda phob rhan o waith y weinidogaeth, mor bell ag y goddefai ei iechyd, hyd ddydd ei farwolaeth. Parhaodd ei gystudd yn hir, yr hyn a ddyoddefodd yn amyneddgar; ond pan gaffai ychydig seibiant ni byddai yn segur. Pregethodd y bregeth olaf yn Llandyfeiliog, Medi 24, 1848, oddiar Dat. ii. 19. Bu farw y 10fed o'r mis canlynol, yn 78 oed. Pregethwyd yn ei angladd gan y Parch. D. Humphreys, a gosodwyd yr hyn oedd farwol i orphwys yn mynwent St. Ismael, hyd foreu yr adgyfodiad, pryd y daw y corph blinedig i fyny yn anllygredig, ar ddelw ei Brynwr. Yn ei gystudd olaf, gofynodd hen frawd iddo pa fodd yr oedd yn teimlo; atebodd yntau yn siriol fod y perygl wedi ei symud.

Er nad oedd Mr. Bowen yn cael ei ystyried yn areithiwr hyawdl, eto efe a draddodai y genadwri am y groes gyda dwysder a difrifoldeb mawr; ac fe allai nad llawer oedd yn uwch mewn ffyddlondeb. Yr oedd yn ddarllenydd dyfal, yn wr o ddeall da, ac yn gristion gloyw. Fel dyn yr oedd yn siriol a hawddgar, ac yn gyfaill o'r iawn ryw. Yr oedd yn bur ofalus am yr eglwysi, ymneillduol y rhai cartrefol, ac ni byddai nemawr byth yn absenol o Gyfarfodydd Misol y Sir. Gofynid ei farn y rhan amlaf ar faterion y cyfarfodydd neillduol, a byddai ei sylwadau yn gyffredin yn bur bwrpasol. Gellir dywedyd am dano, Yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth. Cafodd ei ran o ofidiau y bywyd hwn; er hyny yr oedd y cwbl yn cydweithio er daioni, i'w addasu a'i gymhwyso i wlad nad oes ynddi ddim gofid na thrallod i'w gyfarfod byth mwy. Aeth "i mewn i lawenydd ei Arglwydd."

Y PARCH. T. JONES, LLANDDAROG.

Ganwyd Thomas Jones yn y Foel, yn Mhlwyf Llanfihangel-rhosycorn, yn y flwyddyn 1771. Ymunodd â chrefydd yn lled ieuanc, yn Llanpumsaint, mae yn debyg. Bu wedi hyny mewn amryw o fanau yn cadw ysgol ddyddiol; yna symudodd i Landdarog, lle y dechreuodd bregethu pan tua 35ain oed, ac y trigfanodd hyd ddydd ei farwolaeth. Cafodd hir gystudd a nychdod, yr hyn a ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach. Bu yn pregethu yn agos i 44 mlynedd. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Aberteifi yn y flwyddyn 1830. Boreu Sabbath, y 12fed o Awst, 1849, pan yn 78 oed, efe a aeth i dangnefedd, i fwynhau y Sabbath tragywyddol gyda'r Oen; canys efe a hunodd yn yr Iesu. Mercher canlynol am 1 o'r gloch aethpwyd â'i weddillion marwol i'r capel, lle pregethodd yr ysgrifenydd oddiwrth Dat. xiv. 13, a'r Parch. J. Jones, Llanedi, oddiwrth Esay xxvi. 19. Claddwyd ef yn mynwent y llan, yn ymyl bagad o hen bererinion Llanddarog; lle y gorphwys yn dawel hyd foreu caniad yr udgorn, pryd y cyfodir ef yn anllygredig ar ddelw ei anwyl Briod. Rhoddodd yn ei fywyd (nid yn ei ewyllys ddiweddaf) er arbed y draul, haner cant punt i Drysorfa y Pregethwyr. Gadawodd weddw ar ei ol, yr hon yn fuan a'i dylynodd i'r ddinas gyfaneddol.

Yr oedd crefydd Mr. Jones yn ddysglaer, a'i holl fuchedd yn addas i wr Duw. Fel gweinidog yr efengyl, yr oedd ei bregethau yn iachus ac ysgrythyrol. Er na chyfrifid ef yn bregethwr mawr, yr oedd y sawl a fyddai yn esgud i wrandaw yn cael adeiladaeth o dan ei weinidogaeth. Nid oedd ei ddull yn fanteisiol i lawer; canys byddai rhai o'i frawddegau yn hirion ac aneglur, a thraddodai hwynt yn arafaidd a difywyd; ond yr oedd er hyny yn bregethwr gwerthfawr yn marn y rhan fwyaf astud, profiadol, a deallgar o'i wrandawwyr, er mai nid mynych y byddai yn pregethu yn y Cyfarfodydd Misol; ond yr oedd yn llenwi lle mawr yn y rhanau neillduol o honynt; a gwnai sylwadau buddiol iawn wrth ymddyddan â blaenoriaid a phregethwyr. Dangosai mewn modd dwys a difrifol mor angenrheidiol yw i bregethwr deimlo dros eraill, a gwybod am fod tân santaidd o'r cysegr yn enyn ei enaid mewn awydd am eu hachub. Sylwai fod ambell i bregethwr fel dyn yn dyrnu; yn dechreu yn oer, ac yn twymno wrth y gwaith, ac yn oeri yn fuan ar ol sefyll. Byddai yr hyn a ddywedai yn gyffredin yn bur bwrpasol, ac yn werth ei gofio. Nid oes hanes iddo dori cyhoeddiad erioed, na dyfod chwaith yn anmhrydlon ato. Dylynai yn ddyfal Gyfarfodydd Misol y sir, a mawr oedd ei ofal am yr achos, yn neillduol yn ei ddosbarth cartrefol. Fel brawd a chyfaill yr oedd yn onest yn ei gynghorion, ac yn ddiffuant yn ei rybyddion. Yr oedd ei grefydd, fel y dywedodd un, "heb un ond ynddi." Ei winllan gweithio ef trwy ystod ei weinidogaeth, braidd o'r dechreu i'r diwedd, oedd y sir yr oedd yn byw ynddi. Yr oedd yn ofalus iawn am foddion gras gartref; ni byddai byth yn absenol o'r society, cyfarfodydd gweddio, a'r pregethau, tra bu ef yn gallu. Yr oedd yn bur ofalus hefyd i fod yn holl gyfarfodydd yr Ysgol Sabbathol, yn enwedig yn ei ddosbarth cartrefol. Byddai yn cael ei ystyried yn un o'r rhai mwyaf cymhwys i ymweled â'r eglwysi cymydogaethol ar achosion neillduol. Ni byddai un amser yn barod i wrthdaro, ond addfwyn, gostyngedig, a hunan-ymwadol ydoedd ef yn y cwbl. Mae y Dosbarth ag oedd y Cyfarfod Misol wedi ymddiried i'w ofal yn teimlo hyd heddyw y golled am dano yn fawr iawn. A pha ryfedd? Yr oedd yn wr gonest a didderbyn wyneb. Mae colli dynion o'r fath hyn yn golled fawr.

Fel hyn y dywed un o'r brodyr henaf a pharchedicaf yn y weinidogaeth am Mr. Jones: Pan oeddwn, rai blynyddau yn ol, ar daith trwy barthau o Sir Gaerfyrddin, cefais gryn lawer o'i gyfeillach; ac yr oeddwn yn cael yr henafgwr parchus yn gyfaill caredig a siriol iawn. Rhoddai adroddiadau difyr am grefydd yn yr ben amserau; ac nid oedd ef, fel ambell grefyddwr taeog sydd yn dechreu myned yn hen, am i ni feddwl mai gwyn i gyd oedd crefydd yr oes a aeth heibio, ac mai du i gyd yw crefydd yr oes hon; ond dywedai fod rhai pethau gydag achos yr Arglwydd yn ein dyddiau ni yn rhagori ar yr amser yr oedd ef yn cychwyn gyda chrefydd, a rhai pethau gwerthfawr gyda'n tadau nad ydynt yr un fath gyda ni. Yn mysg pethau eraill dywedai, Yr oedd llawer o'r hen grefyddwyr yn gryn Antinomaidd, ac yr oedd yr hen bobl dda oedd yn blaenori yn cael llawer o flinder o'r herwydd. Yr wyf fi yn meddwl, bid a fyddo, fod ein heglwysi yn burach yn awr oddiwrth Antinomiaeth. Mi 'wedaf i chwi (eb efe) un hanes sydd yn dod i'm cof yn awr. Yr oeddwn, cyn dechreu pregethu, wedi myned i Association fawr Llangeitho, ac yr oeddwn i ac amryw eraill yn cael ciniaw, trwy dalu, yn nhŷ hen grefyddwraig selog. Yr oeddwn wedi myned, cyn ciniaw, i lawr i'r gegin; ac meddwn wrth wraig y tŷ, am y cig oedd wrth y tân, Beth yw hwn sydd genych, Siani? O, Twmi Jones bach,' ebe hithau, 'cig dafad anw'l yw e.' 'Rwy'n tybio taw cig hwrdd ydyw,' ebe finau; ac yr oeddwn yn siwr o 'mhwnc. Nis gallodd hithau wadu, ond ceisiodd droi yr ystori draw trwy ddywedyd, Wel, Twmi bach, mae cig hwrdd a Christ yn dda iawn." Ydyw, Siani,' atebais; ond nid oes dim Crist mewn mynu pris cig dafad am gig hwrdd. Crist a dweyd y gwir i mi. Rhaid i ni addef fod rhai o'r un epila Siani yn fyw eto, yn feibion ac yn ferched: maent yn son llawer am Grist, ond yn gwneyd i bob peth wasanaethu i'w helw eu hunain.

"Yr wyf yn cofio gair a ddywedodd Thomas Jones mewn society ar ol y bregeth. Dyma yw crefydd iawn (meddai); y gwirionedd yn ein catshio, a'r gwirionedd yn ein gollwng yn rhydd.' Bum yn meddwl lawer gwaith am y dywediad hwn. Mae llaweroedd yn ein gwlad yn ymbyncio oddeutu y gwirionedd, ond maent heb eu dal gan y gwirionedd erioed. Ac y mae eraill, ar ol cael eu dal gan y gwirionedd mewn argyhoeddiadau, wedi dianc yn rhydd trwy ddychymygion; nid y gwirionedd a'u rhyddhaodd. Mae y gwir Gristion yn cael ei argyhoeddiad a'i ddyddanwch o'r un man, sef e air y gwirionedd."

MR. WILLIAM WILLIAMS, TYHEN
(GYNT MEIDRIM).

GANWYD W. Williams yn y flwyddyn 1769. Pa le y ganwyd ef, a phwy oedd ei dad a'i fam, nid yw yn hysbys; ond yn ol ei hanes ef, cafodd ei adael gan ei fam pan oddeutu tri mis oed, mewn gwely hen wraig yn mhentref Meidrim, o'r enw Elizabeth Samuel; ac iddi hithau ffoi ymaith, ac ni welwyd mwyach mo honi. Er iddo gael ei adael yn estron diymgeledd, heb dad na mam, eto gofalodd Duw am dano fel Moses gynt yn y cawell llafrwyn; bu Rhagluniaeth yn dirion iawn o hono, er iddo gael ei drosi i lawer man. Goruwchlywodraethwyd llawer o bethau tuag at William Williams er ateb dyben da: bu yn cael ei fagu mewn dau neu dri o fanau. Yr olaf o ba rai ydoedd gyda hen wraig Cwmtrihaiarn, ger llaw Tyhen. Yn yr amser hwnw y teimlodd gyntaf oddiwrth bethau yr efengyl. Aeth уг hen wraig ag ef i'r society mewn fferm o'r enw Leger, pryd y dygwyddodd i'r Parch. W. Williams, Pantycelyn, fod yno. Teimlodd William bach effeithiau y gwirionedd yn ymaflyd gymaint yn ei feddwl, nes methu myned i'w wely y nos hono heb fyned ar ei liniau ger bron Duw i lefain am drugaredd. Cymerodd hyn le pan oedd oddeutu naw neu ddeg oed.

Aeth oddiwrth yr hen wraig i wasanaethu; ac fe ddygwyddodd iddo fyned i deulu â phlant annuwiol iawn ynddo; gogwyddodd yntau gyda eu hagweddau cellwerus, a thrwy hyny collodd y teimladau crefyddol i raddau pell iawn, ond nid yn hollol. Byddai ynddo trwy y cwbl awydd mawr i ddysgu hymnau, ac fe ddysgodd lawer o honynt. Yr oedd hymnau y Parch. W. Williams ganddo ar ei gof fel rhyw orlif wrth law yn wastadol; ddim ond codi y llifddor, byrlyment allan yn ddibendraw. Wedi eu dysgu byddai yn myned i'r llyfr hymnau i'w darllen; trwy hyny daeth i ddarllen y Bibl yn lled dda, heb un fantais arall. Aeth ryw dro i wrando y Parch. Gabriel Rees, Pant-howell (B.), yn pregethu yn Salem, ger St. Clears. Ymaflodd y gwirionedd gyda nerth ac awdurdod mawr yn ei feddwl, nes oedd yn methu gwybod pa fodd i fyned adref. Bu felly dan wasgfa yn agos i ddwy flynedd, heb benderfynu tori trwyddi; ond trymach, trymach oedd y baich yn myned, nes iddo gredu mai "yr Arglwydd Efe sydd Dduw," ac ar ei ol ef yr ai. Cafodd ei gymhell gan wahanol enwadau, ond yr oedd gogwydd ei feddwl at y Methodistiaid; ymunodd â hwynt yn Bancyfelin. Wrth ddyfod adref dydd Sadwrn, pan derbyniwyd ef yn gyflawn aelod, gofynwyd iddo gan hen wraig oedd yn byw yn Penbigwrn, ger y lle uchod, a ydoedd wedi ei gyflawn aelodi. Atebodd yn wylaidd iawn ei fod. "Wil, Wil," ebe yr hen wraig, "mae gyda fi un peth yn dy erbyn di; yr wyf wedi clywed dy fod ar fwriad i briodi, a hithau (yr eneth) yn y byd, a thithau yn yr eglwys; 'nawr un o ddau beth raid i ti wneyd." Effeithiodd hyny yn fawr ar ei feddwl; methodd gysgu trwy y nos; and fe benderfynodd fod gadael yr eneth yn well na gadael crefydd, a'u gadael hi a wnaeth am agos i haner blwyddyn, heb wneyd yr un gyfeillach â hi. Yn mhent yr ysbaid hyny o amser cymerodd diwygiad mawr le yn Meidrim a'i chyffiniau, pryd y cafodd yr eneth uchod y fraint o ddyfod i mewn i'r eglwys; trwy hyny agorodd Rhagluniaeth ddoeth y drws iddynt fyned i'r sefyllfa briodasol, heb roi drygair i grefydd na dolurio crefyddwyr; ond cyfamod i gael ei dori oedd hwn. Daliodd o ddeg i ugain mlynedd, pryd y bu hi farw; ond digon tebyg fod rhwng eu heneidiau â Duw gwlwm cryf na ddetyd byth.

Cafodd yntau ei ddwyn i amgylchiadau pur isel mewn pethau bydol. Cymerodd dyddyn ger Cwmbach, ac yr oedd ardreth fawr arno; trwy hyny aeth mor dlawd nes gorfu arno wneuthur arwerthiad cyhoeddus. Ar ddydd yr arwerthiad dywedodd, a'r dagrau ar ei ruddiau, "Nawr, ofynwyr, mae y cwbl i'ch llaw; ond un peth wyf yn deisyf arnoch, atolwg, gadewch i mi gadw y Bibl." Yr oedd hyn yn dangos fod gwirioneddau y Bibl wedi eu cerfio gan Ysbryd Duw ar ei galon, a'r ffrwyth o hyny yn ymddangos yn ei fywyd gonest a diddichell.

Cafodd ei anog gan eglwys Meidrim i ddechreu pregethu; ufuddhaodd i'r alwad, a bu yn ffyddlon yn ol ei allu am agos i bedair blynedd ar ddeg ar ugain. Yr oedd y rhan ddiweddaf o'i oes yn lled gysurus yn mhob ystyr, ond pan oedd ei gorph yn prysur ddadfeilio; cafodd y fraint o ddyfod i foddion gras hyd y diwedd. Yr oedd profion ynddo ei fod yn un o'r cyfiawnion, o herwydd yr oedd ei lwybr yn myned oleuach, oleuach, fel yr oedd yn nesau i wlad y goleuni. Bu farw Rhagfyr 6, 1849, yn 80ain oed. Yr oedd ei fywyd santaidd yn ddigon o brawf iddo gael ei ddwyn gan angylion i fynwes Abraham. Dau ddiwrnod cyn ei ymadawiad cafodd ei ddwyn i ben Pisgah i gael golwg ar y wlad bell, a'r Brenin yn ei degwch. Cafodd Moses olwg ar wlad yr addewid, ond ni chafodd fyned iddi; ond cafodd W. W. fyned i wlad llawer iawn gwell na hono; ac y mae y ddau yn awr gyda'u gilydd yn cydwledda heb un gofid. Y Llun canlynol ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd i dalu eu teyrnged olaf o barch iddo, trwy ganlyn ei ran farwol i dy ei hir gartref. Cyn cychwyn o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd un o'i frodyr crefyddol; yna cychwynwyd tua'r gladdfa. Aed a'i gorph i gapel y Tyhen, i'r hwn y perthynai. Pregethodd y Parch. Jonah Edwards, Cwmbach, yn dra phriodol ar yr achlysur. Ymadawodd y gynulleidfa mewn teimladau galarus ar ol eu hanwyl dad, gan ofidio yn ddwys am na chaent weled ei wyneb ef mwyach. Yr oedd ei farwolaeth yn golled fawr i'r eglwysi cymydogaethol, a'r wlad yn gyffredinol; ond yn neillduol i eglwys y TyhenCollwyd canwyll oedd yn llosgi, a halen oedd yn halltu.

Yr oedd W. W. yn hynod am feithrin crefydd bersonol; darllenai lawer ar y Bibl, ac ymroddai i fyw mewn cymundeb a'r Arglwydd. Byddai yn hynod o barod i ymddyddan am bethau ysbrydol. Siaradai mewn cyfarfodydd neillduol nes peri teimlad a gwres crefyddol yn mhob calon ystyriol yn y lle. Yr oedd yn hynod ddidderbyn wyneb; dywedai wrthynt yn ddiweniaith am eu beiau, a chynygiai eu hadnewyddu a'u gwellhau trwy y gwirionedd. Pleidiai y ddysgyblaeth A'i holl galon; a byddai ambell un oedd yn caru ei feluschwantau yn fwy na charu Duw, yn tramgwyddo cymaint wrtho nes ei gablu; ond er hyn yn parhau i lefaru yr oedd ef, pa un a wnaent hwy ai gwrando ai peidio. Yr oedd cynyddu mewn gras a phrofiad ysbrydol yn fwy o beth ganddo na dim arall, ac yr oedd pawb o'i gwmpas yn gorfod dweyd ei fod yn ddyn duwiol. Yr oedd geiriau Duw yn well ganddo na'i ymborth angenrheidiol. Yr oedd ffyrdd crefydd yn ffyrdd hyfrydwch iddo, a'i holl lwybrau yn heddwch. Byddai yn pregethu yn fywiog; yr oedd wrthi a'i holl egni. Yr oedd ganddo olygiadau clir am holl bynciau sylfaenol Cristionogaeth. Ni byddai byth yn blino dynion â meithder, ond byddai bob amser yn crynhoi ei gynghorion i ychydig o eiriau cynwysfawr ac ysgrythyrol. Yr oedd yn wastad yn dyrchafu gogoniant y Cyfryngwr, a'i ddymunoldeb fel Gwaredwr i bechaduriaid.

MR. THOMAS JONES, HENDRE

GANWYD T. Jones yn mhlwyf Llanon; claddwyd ei dad pan yr oedd yn bedair blwydd oed. Yr oedd ei fam yn bur isel o ran ei hamgylchiadau; er hyny ymdrechodd i roddi ychydig o ysgol iddo, yr hyn a fuo wasanaeth mawr iddo byd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd gwr o'r enw John Davies yn cadw ysgol yn y gymydogaeth, yn y lle a elwir Capel Efan; at yr hwn anfonodd ei fam wrthddrych ein cofiant i gael ei addysgu. Yr oedd y gwr hwn yn gynghorwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Cynghorwr y galwent un yn yr amser gynt a fyddai yn pregethu heb gael ei ordeinio gan esgob. Gan y gwr a enwyd uchod y cafodd ei hyfforddi gyntaf mewn pethau crefyddol. Diau y dylai rhieni ofalu i ba le y danfonant eu plant i gael eu haddysgu. Y mae llawer fel pe baent heb un egwyddor yn y mater hwn; danfonant eu plant i ddysgu catecismau, y rhai sydd yn hollol gyfeiliornus. Dylem ddeall fod y plant bob amser mor barod i dderbyn hyfforddiadau yr ysgolfeistr gyda golwg ar bethau crefydd ag y maent i dderbyn eu haddysg gyda golwg ar rifyddiaeth, &c. Mae mwy o ddefnydd credu mewn plant nag sydd o ddefnydd ymresymu; credant bob peth a glywant, am hyny dylai y rhieni ofalu pa le y mae eu plant yn cael eu haddysgu.

Pan oddeutu 16 oed, aeth T. Jones i wasanaethu i le nid yn mhell o'r gymydogaeth, at rai oedd yn perthyn i'r Bedyddwyr. Yma cafodd gymhelliad i fyned i gymanfa oedd i gael ei chynal yn y Felinfoel, ger Llanelli. Safodd y testunau a darnau o'r pregethau a glywodd yno ar ei feddwl hyd ddydd ei farwolaeth. Ni wyr penau teuluoedd pa faint o ddaioni a allant wneyd wrth gymhell eu tylwyth i wrando yr efengyl. Ychydig o amser ar ol hyn torodd diwygiad grymus allan yn Nghapel Efan, a Brandy-way. Disgynodd pethau yr efengyl mewn modd grymus ar feddwl Thomas Jones y pryd hwn; a phenderfynodd roddi ei hunan i'r Arglwydd, ac i'w bobl. Pan yn y teimlad hwn, arweiniwyd ef gan y rhagluniaeth i Bentwyn, Llanon, lle yr arosodd am ryw dymhor. Cyfarfyddodd a theulu yma o'r un meddwl ag ef ei hun, yr hyn fu yn fantais fawr iddo feithrin ysbryd crefydd. Oddiyma efe a aeth i le arall yn y gymydogaeth o'r enw Tyllwyd, lle yr oedd cymdeithas grefyddol wedi ei sefydlu rai blynyddau cyn hyny. Gwelwn fod gan wrthddrych ein cofiant hyny o grefydd er yn fachgen, fel ag i ddewis y lleoedd mwyaf manteisiol i grefydda. Priododd â Rachel, merch benaf John Owens, Tyllwyd, o'r hon y cafodd chwech o blant. Pan oedd oddeutu 37 oed dechreuodd ar waith y weinidogaeth dan lawer o anfanteision. Fel dyn yr oedd yn gyffredin yn addfwyn, gostyngedig, a hawdd ei drin. Nid oedd yn ddyn cas ac afrywiog, fel llawer. Yr oedd yn un hynod mewn gofal am ei deulu. Yr oedd yn ymdrechu na chai dim ei wastraffu mewn un modd. Dewisodd fyw yn brin lawer gwaith wrth fagu ei blant, yn hytrach na phwyso ar neb. Ni allai oddef y meddylddrych o fyned i ddyled. Gwell oedd ganddo ymwasgu na myned i ymofyn benthyg unrhyw beth gan gymydog, a dangosai weithiau yr ewyllysiai i eraill wneyd yr un modd. Yr oedd yn rhagori ar lawer o ran ei amgyffrediadau. Fel Cristion, gallem ei osod yn y rhes flaenaf. Gweddiai lawer yn y dirgel. O ran ei ymarweddiad allanol, yr oedd yn ddiargyhoedd. Yr oedd yr achos yn ei gartref yn agos iawn at ei galon. Cyfeiliornem pe dywedem ei fod yn ddibechod; ond gallem ddywedyd yn ddiragrith ei fod mor ddibechod a neb a adwaenem. Da fyddai pe llenwid yr holl eglwysi a'i gyffelyb.

Fel pregethwr yr oedd yn fuddiol ac yn adeiladol. Nid ydym wedi clywed iddo gael llawer o odfaon â phethau annghyffredin yn tori allan ynddynt; eto byddai y gwirioneddau yn myned o'i enau rai gweithiau gydag awdurdod mawr; ac y mae llawer yn tystio iddynt gael llesâd laweroedd o weithiau wrth ei wrando. Yr oedd yn gosod allan ei feddwl yn eglur, fel y gallasai pawb ei ddeall. Ei sylwadau ar ei destun oeddynt syml atharawiadol. Yr oedd ei bregethau y rhan amlaf yn ymarferol, ond dywedai yn fynych wrth bregethu, fod colledigaeth dyn i gyd o hono ei hun. "Nid oes gan y damnedigion yn Gehena ddim lle i feio ar y Jehofah;" o'r ochr arall, "Mae cadwedigaeth dyn i gyd o ras heb ddim o'r dyn ei hunan." Yr oedd yn hoff iawn o son am yr arfaeth a'r cynghor tragywyddol; llawer gwaith y dywedodd, "Ni wn i sut i ddywedyd yn y fan yma, ond dywedaf fel hyn: fe fu rhyw gynghor rhwng y Personau bendigedig yn yr Hanfod santaidd, am godi pechadur i'r lan." Nid oedd awdwyr eraill yn llefaru ond ychydig drwy ei enau ef. Byddai ei bregethau bob amser yn hollol wreiddiol. Diau y buasai yn rhagorach duwinydd pe buasai yn ymgynghori mwy â meddyliau dynion eraill. Pe buasai yn coethi ei feddwl yn moreu ei oes, a phe buasai Rhagluniaeth yn caniatau iddo ddarllen a myfyrio mwy, diau y buasai yn addurn i'w genedl. Teithiodd lawer drwy Ddeheu a Gogledd Cymru gyda gwaith y weinidogaeth. Nid yn aml er hyny y byddai yn absenol o'r Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd. Yr oedd yn teimlo y fath ddyddordeb yn holl gyfarfodydd y Cyfundeb, fel na allai fod yn absenol heb fod mewn teimladau gofidus. Er nad oedd pob peth ynddo a gyfrifir yn fawr gan ddynion, eto yr oedd ynddo lawer o bethau a gyfrifir yn fawr gan Dduw mewn dyn ar y ddaear. Yr oedd y brawd anwyl hwn, a Jones, Llanddarog, a Bowen, Llansaint, yn gyfeillion mawr iawn; teithiasant lawer gwaith gyda'u gilydd wrth fyned i, a dyfod o Gyfarfodydd Misol y Sir. Cawsant ill tri fyw i gyrhaeddyd yr un oedran cyn ymadael â'r ddaear. Er nad oeddent ill tri yn bregethwyr mawr yn nghyfrif dynion, yr oeddent yn fawr yn nghyfrify Nefoedd. Yr oedd eu bywydau santaidd yn profi bod eu nod yn uchel. Deuent ill tri, fel y dywedwyd, i'r Cyfarfod Misol, a da iawn oedd gan bawb eu gweled yn dyfod, er nad oeddynt ond anaml iawn yn gyhoeddus fel pregethwyr. Hen weddiwyr hynod oeddent hwy ill tri; dal breichiau eu brodyr a'u gweddiau y byddent hwy. Mae cyfarfod 10 o'r gloch drosodd. Wele hwy yn myned adref ar gefnau eu ceffylau, a'r rhai hyny yn dda eu gwedd bob amser, a'u cyrph wedi eu gorlwytho â dillad. Er na fuont yn pregethu am 10 a 2, fel y dywed un, eto mae rhyw fawredd arnynt yn eu hymadawiad, fel na allai neb eu diystyru. O yr hen bregethwyr gonest a diddichell. Bydded i ninau eu hefelychu yn y pethau hyn.

Bu farw T. Jones, Ionawr y 16eg, 1851, yn 78 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am bymtheg mlynedd ar ugain. "Efe a â i dangnefedd; hwy a orphwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodio yn ei uniondeb."

MR. J. GRIFFITHS, LLANPUMSAINT.

GANWYD y brawd hwn yn Sir Aberteifi; daeth i ardal Llanpumsaint i wasanaethu pan yn ieuano. Ymunodd â chrefydd pan oedd rhwng dwy a phedair ar ugain oed. Dechreuodd bregethu pan yn 30 oed. Yr oedd Josuah Griffiths yn un hynod yn mhlith y saint, yn ofni Duw yn fwy na llawer. Rhagorai yn mhlith lluaws ei frodyr mewn diniweidrwydd, ffyddlondeb, a chywirdeb. Nid oedd ei dalentau ond bychain; ond os un neu ddwy a dderbyniodd, gwnaeth hwynt yn ychwaneg. Yr oedd iddo le yn mhlith ei frodyr, ac adnabyddai yntau y lle oedd iddo yn eithaf da. Cerid ef yn fawr gan yr holl frawdoliaeth, a chan y teuluoedd yr arferai fyned iddynt. Bu farw fel y bu fyw, a'i bwys ar ei Anwylyd, Mawrth 2, 1851, yn 54 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu pedair blynedd ar ugain. Pregethwyd yn ei angladd gan y Parch. D. Humphreys, oddiwrth 2 Tim. iv. 7, 8. Gwnaeth y Parch. Mr. Powell, ficar y plwyf, sylwadau pur darawiadol, ar ol darllen gwasanaeth y claddedigaeth yn y Llan, yn debyg fel y canlyn:-"Yr wyf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf ar yr achlysur hwn i ddweyd ychydig eiriau gyda golwg ar y brawd ymadawedig. Cafodd yr holl ardalwyr golled fawr ar ei ol Darfu iddynt golli llawer o weddiau taerion drostynt eu hunain a'u plant. Fel dyn a chymydog yr oedd yn hynod o ddiniwed, ffyddlon, a chywir. Yr oedd yn wr o ymddiried. Fel gweinidog yr efengyl yr oedd yn llafurus, difrifol, a ffyddlon, yn ol ei ddawn. Os darfu i neb edrych neu ddweyd dim yn isel am ei weinidogaeth oblegyd bychandra ei ddawn, cânt deimlo gofid am hyny ryw bryd, naill ai yma neu wedi myned oddi yma." Yr oedd y sylwadau uchod yn cael effaith fawr ar y dorf oedd wedi ymgasglu i'w hebrwng i'w fedd. Yr oedd gwrthddrych ein cofiant yn gymydog i'r offeiriad. Dyma ysbryd rhydd ac efengylaidd, onide? Yr oedd J. Griffiths yn ddyn gwir dduwiol. Ymadawodd a'r byd ag arogl hyfryd ar ei ol, a diau iddo gael ei groesawu gan ei Arglwydd, trwy ddywedyd wrtho, "Da, was da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

Yr oedd gan y brawd hwn feddwl uchel iawn am yr Ysgol Sabbathol, ac am ei deiliaid. Cyfarchai hwynt yn wastad yn serchiadol iawn. Pan yn pregethu ryw dro ar y gair hwnw, "Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef," &c., wrth gyfarch plant yr ysgol, dywedai, "Fe wyddoch chwi, blant yr ysgol Sabbathol, lawer, ond ni wyddoch ddim o hyn." Byddai yn cofio yn wastad yn ei weddiau am ddeiliaid yr Ysgol Sabbathol; a gweddiau yn gynes iawn hefyd dros y cleifion.

Y PARCH. J. BOWEN, LLANELLI.

Yr oedd y Parch. J. Bowen yn adnabyddus yn y dywysogaeth fel pregethwr sylweddol, duwinydd galluog. Christion gloyw. Ganwyd ef yn nhref Llanelli, Swydd Gaerfyrddin, ar y 25ain o Ragfyr, 1789; a bu farw Awst 16, 1852, yn driugain a thair oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am un ar ddeg ar ugain o flynyddoedd. yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Gadawodd weddw a phump o blant, sef dau fab a thair merch, yn yr anialwch i alaru eu colled. Ei rieni oeddynt Walter ac Ann Bowen. Ei dad yn enedigol o Lanelli, a'i fam o Aberteifi. Cafodd ei rieni bump o blant, ond maent oll wedi marw yn bresenol. Dygai ei dad yn mlaen yr alwedigaeth o ddilledydd a masnachydd, ac yr oedd o ran ei amgylchiadau yn dra chysurus. Yr oedd ei dad yn ddiacon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Llanelli, ac efe, yn nghydag un neu ddau, eraill fuont offerynol i sefydlu yr achos yn y lle. Gweler eu hanes yn "Methodistiaeth Cymru."

Cafodd Mr. Bowen gymaint o fanteision addysg a nemawr o ieuenctyd Llanelli y pryd hwnw, a gwnaeth y defnydd goreu o honynt. Yr oedd yn gyfrifydd penigamp, a medrai ar law-ysgrifen oedd yn ddiarebol dda. Ymhoffodd mewn darllen yn dra ieuanc; byddai beunydd wrth ei lyfrau neu y fasnach. Daeth yn fuan yn hyddysg yn holl amgylchiadau trafnidaeth ei rieni. Ymddengys fod Rhagluniaeth wedi ei gynysgaeddu â chymhwysderau neillduol ar gyfer amgylchiadau a'i cyfarfuasant; oblegyd cyn ei fod yn gyflawn ddeng mlwydd oed bu farw ei dad, a disgynodd gofalon y fasnach ar ei fam, yr hon oedd eisoes â'i dwylaw yn rhwym gyda'i theulu; ond trwy ddiwydrwydd, gofal, o gwybodaeth John, bu yn alluog i'w dwyn yn mlaen yn lled gysurus. Yr oedd yn arferiad gan fasnachwyr Llanelli y pryd hwnw i fyned i Ffair Bryste unwaith yn y flwyddyn i brynu nwyddau. Daeth y tymhor i fyny; ond yr oedd ei fam, o herwydd gofalon teuluaidd, yn analluog i fyned, ac anfonodd John â swm lled dda yn ei logell. Masnachydd cyfrifol, wrth ganfod llanc mor ieuanc ar neges mor bwysig, mor bell o dref, a wnaeth brawf ar ei gymhwysderau; ac, er ei fawr foddlonrwydd, cafodd allan nad gorchwyl hawdd fyddai twyllo John, ac anrhegodd ef â phenadur.

Arferai ei fam ddywedyd fod rhyw beth ynddo yn wahanol i'r plant eraill pan yn ieuanc iawn, a pharhaodd felly yn nodedig o ofalus a diwyd. Yr oedd o dymher naturiol fwynaidd a siriol, yn rhoddi ufudd-dod parod idd ei fam, ac anaml y gwelid gwg ar ei wynebpryd. Darllenai lawer, ond nid un amser ar draul esgeuluso y fasnach. Yn y flwyddyn 1803, pan yn 14 oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Gellyon, capel bychan cyntaf y Trefnyddion Calfinaidd yn nhref Llanelli, Y flwyddyn ganlynol daeth yn gyflawn aelod. Ryw amser rhwng pymtheg a deunaw oed aeth i wasanaeth Mr. J. Roberts, masnachydd cyfrifol o'r dref, lle y treuliodd lawer o flynyddau, ac yr enillodd ymddiried a pharch.

Yn mhen ysbaid o amser cymerodd Mr. Roberts ef yn bartner, a pharhaodd felly hyd farwolaeth Mr. Roberts, yn 1824; yna dygodd y fasnach yn mlaen ei hun. Pan yn 24 oed, neillduwyd ef yn ddiacon ac yn ysgrifenydd yr eglwys; a pharhaodd i weinyddu yr olaf hyd oddifewn i ychydig i ddiwedd ei oes. Meddai y cymhwysderau anhebgorol i fod yn ysgrifenydd da. Yr oedd yn neillduol am brydlonrwydd a threfnusrwydd gyda phob peth. Dosbarthai ei amser yn y fath fodd fel y byddai ganddo hamdden at bob gorchwyl. Ei arwyddair ydoedd, "Amser i bob peth, a phob peth yn ei amser," ac felly yr oedd gydag ef. Cyflawnai ei holl ymrwymiadau yn brydlon a ffyddlon. Byddai yn ddiwyd a gofalus gyda'r fasnach, ac anaml y collai un moddion o ras; eto darllenai a myfyriai lawer, yn enwedig ar bynciau sylfaenol y grefydd gristionogol; ond byddai ganddo ei hoff awduron, fel y cenir yn ei farwnad

"Ti astudiaist gyda'r egni
A'r manylrwydd mwya' ma's
Egwyddorion Brown a Charnock,
Cedyrn egwyddorion gras."

Trwy ei ddiwydrwydd diflino ar faesydd llenyddiaeth daeth yn fuan yn feddianol ar helaethach gwybodaeth na nemawr o'i gyfoedion. Yr oedd hefyd yn ddyn ieuanc gwylaidd, mwynaidd, a hynaws; a barnodd yr eglwys fod ynddo gymhwysderau neillduol at waith y weinidogaeth. Ond pan ddatguddiwyd hyn iddo, ni fynai gydsynio er dim; dadleuai annghymhwysder at waith mor bwysig; modd bynag, ar ol llawer o anogaethau o du yr eglwys, a gwrthwynebiadau o'i du yntau, torwyd y ddadl, ac esgynodd i'r pwlpud dydd Nadolig, 1821, pan yn 32ain oed i'r diwrnod; a mawr y boddlonrwydd a gafodd yr eglwys ynddo. Daeth yn fuan yn bregethwr tra chymeradwy. Cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Aberteifi, yn mis Awst, 1830, yn nghyda saith eraill, y rhai ydynt oll, oddieithr y Parch. T. Phillips, Henffordd,

Yn eu hargel wely obry,
Lle mae pawb mewn bedd yn bod."

Clywyd ef yn crybwyll lawer gwaith am y Gymanfa hon, fod rhyw fawredd anarferol ar weinidogaeth y gwas enwog hwnw i Grist, Elias o. Fön. Pregethai Mr. Bowen gan mwyaf yn athrawiaethol; ond er hyny nis gallai y rhai a garent bregethau ymarferol lai na'i hoffi. Ni byddai ef un amser yn ymbalfalu mewn tywyllwch, eithr trinini ei bwnc yn oleu, dengar, ac adeiladol. Treiddiai i mewn i athrawiaethau gras, a dadblygai ei dyfnion bethau gyda deheurwydd a mawredd arbenig. Eglurai natur cyfamod y prynedigaeth, a sefyllfa y Personau dwyfol yn y cyfamod hwnw, gyda godidawgrwydd. Yr oedd yn meddu golygiadau goleubwyll ar y ddeddf a'i manol ofynion, a sefyllfa druenus dyn yn wyneb y ddeddf hono, yn nghyda threfn fendigedig y Duwdod i gyfiawnhau pechadur euog. Dyma ei hoff bynciau; dyma lle byddai ei athrylith yn ymddysgleirio ogoneddusaf; dyma lle y byddai ef ei hun yn mwynhau, ac yr arlwyai wleddoedd danteithiol i'w wrandawyr. Yr oedd mor odidog ar y pynciau crybwylledig. fel mai nid anmhriodol y cyfenwyd ef weithiau yn "athronydd trefn iachawdwriaeth." Traethai ar bynciau eraill, ac ni theimlai wrthwynebiad i bregethau ymarferol; ond mai fel arall y tueddwyd ei feddwl ef. Ei bwynt fyddai bob amser i greu awydd mewn dynion i ystyried ac amgyffred, ac i weithredu oddiar wybodaeth. Arferai ddywedyd yn aml mai i'r graddau y byddai y Cristion yn myfyrio ar, ac yn deall trefn iachawdwriaeth, y byddai yn mwynhau ei chysuron.

Lluddiwyd ef gan ei fasnach i fod yn bregethwr diarebol a theithiol; ond wrth droi tudalenau ei ddydd-lyfr, yr hwn sydd, fel pob peth arall o'i eiddo, yn dra destlus a dyddorol; yn cynwys pob lle a phryd y pregethodd; ei destunau ac enwau y rhai a fedyddiwyd ganddo, o'r dydd y dechreuodd hyd ei farwolaeth. Cawn iddo fod ddwywaith yn Mhryste; ei fod wedi teithio rhanau o bob sir yn y Deheubarth, ac yn neillduol y rhan isaf o Forganwg; ond o fewn terfynau Sir Gaerfyrddin y llafuriodd yn benaf. Ni byddai ef un amser yn osgoi yr eglwysi gweiniaid, mewn amryw o ba rai rhoddodd ei lafur yn rhad. Ni dderbyniodd unrhyw gydnabyddiaeth am ei holl lafur cartrefol chwaith hyd oddifewn i ychydig flynyddau cyn marw, pan trodd amgylchiadau ei fasnach yn annymunol, yr hyn a achlysurwyd trwy roddi gormod o ymddiried i fan-fasnachwyr, a chael colledion dirfawr ar eu dwylaw. Bu hyn yn brofedigaeth chwerw iddo, ac yn llawer o rwystr i'w lafur gweinidogaethol.

Yr oedd Mr. Bowen yn fawr ei ofal am achos y Gwaredwr yn ei holl ranau, ac yn enwedig yn gartrefol. Cynysgaeddwyd ef â synwyr cyffredin cryf, a meddwl bywiog a threiddgar. Yr oedd rhyw fawredd naturiol arno, fel nad allai dyeithriaid ddyfod yn rhy agos ato; nid ffurfiol ond naturiol oedd hyn. Ni byddai yn amleiriog, ond yn foneddigaidd a pherthynasol. Gwellhäai wrth ymarfer ag ef. Y rhai a'i hadwaenent oreu fyddai yn ei garu fwyaf. Byddai yn dra gochelgar yn newisiad ei gyfeillion; ac ni chai neb fyned i'w fynwes cyn ei brofi. Wedi dewis cyfaill, byddai yn ffyddlon iddo. Gellid ymddiried i'w air, a phwyso ar ei addewid. Medrai gadw cyfrinach, a ffrwyno ei dafod hefyd. Yr. oedd yn siriol, rhydd, a difyrus, pan yn mhlith ei gyfeillion. Yr oedd llawer yn myned i ymgynghori ag ef ar achosion o bwys, a byddai ei gyfarwyddiadau a'i gynghorion yn briodol a synwyrlawn. Meddai ymddiried yr eglwys, oblegyd ni weithredai oddiar dystiolaeth naill-ochrog, ac ni feithrinai ysbryd plaid; ond ymestynai bob amser at gywirdeb a chyfiawnder, heb ofni gwg y naill na phorthi gwen y llall. Yr oedd yn Gristion call; meddai lygad eryr, a thrwy ei ddoethineb galluogwyd ef i fyw mewn heddwch yn wastadol. Yr oedd yn caru tangnefedd. Byddai yn hynod adeiladol yn y cyfeillachau eglwysig. Yr oedd ei ymddyddanion efengylaidd a nefolaidd yn swyno, yn toddi, ac yn asio teimladau pawb yn un.

Aml y dywedid, "Da oedd i ni fod yno." Cyfarchai yr ieuenctyd yn aml; gorfoleddai wrth eu gweled yn sychedig am wybodaeth fuddiol, ac anogai hwynt bob amser i fod yn llafurus. Darllenai lawer, a sylwai yn fanol ar helyntion ac arwyddion yr amserau.

Yr oedd yn dra selog a bywiog gyda'r Ysgol Sabbathol; anhawdd fyddai i neb i gael esgus a'i boddlonai dros beidio dyfod iddi. Rhoddai bob cefnogrwydd hefyd i fod yn effro ac yn ymdrechgar gyda'r ysgol gan, i ddysgu yr egwyddorion i'r ieuenctyd. Fel hyn parhaodd yn fywiog, iraidd, ac ieuangaidd ei ysbryd hyd ddiwedd ei oes.

Ni chafodd Mr. Bowen hir gystudd; ond yr oedd arwyddion amlwg er ys cryn amser fod ei babell yn dadfeilio, a'i ysbryd yn addfedu i wlad well. Byddai yn codi o'i wely fynychaf bob dydd, ac yn cyfrinachu yn siriol â'r cyfeillion a ymwelent ag ef. Yr oedd amser Cymdeithasfa Llanelli yn awr yn agosâu, ac yn y cyfwng hwn byddai yntau yn ddiwyd i drefnu a darparu ar ei chyfer. Anogai ei frodyr hefyd gyda dwysder i weddio am bresenoldeb y Meistr gyda ei weision—bod yr eglwysi yn oeri, a'r byd yn caledu.

Daeth y Gymanfa. Yr oedd yn parhau yn wanaidd ; er hyny mynodd ei gario i'r gyfrinach yr ail ddydd; eithr gorfu arno ddychwelyd yn fuan; a dyma y tro diweddaf y bu allan. Ymwelwyd ag ef gan ychydig o'i gyfeillion nos Sabbath, y 15fed o Awst; ymddangosai yn dra bywiog, a chafwyd cyfrinach felus a buddiol. Barnai yntau ei fod ar wellhad, ac y caniatäai yr Arglwydd iddo estyniad dyddiau. Gorchymynodd i'r holl deulu fyned i orphwys y noson hono, ac os byddai taro y gwnai alw. Ond yn blygeiniol iawn boreu dranoeth, wele y swyddog diweddaf yn curo wrth ddrws ei babell. Yr oedd y gwyliedydd yn effro; adnabu yr ergyd, cyfododd o'i wely, ac a aeth i'r ystafell nesaf at ei briod; eisteddodd ar y gwely, gorweddodd ei ben ar ei mhynwes, a dywedodd, "Mae yr awr wedi dyfod." Cafodd hithau nerth i ddal, ac fe a hunodd yn dawel, a'i ymddiried yn ddiysgog yn ei Anwylyd. Aeth y si allan yn foreu; yr oedd yr ergyd yn annysgwyliadwy, ac effeithiodd fel gwefr drydan drwy y dref.

Prydnawn dydd Gwener canlynol, wele holl fasnachdai y dref yn cauad, a'r bobl yn dyrfaoedd yn ymgyrchu tua'i breswylfod, ac yn eu plith yr offeiriad, a holl weinidogion y dref o bob enwad, a llawer iawn o'r amgylchoedd a'r sir. Dacw y Parch. Josuah Phillips, Bancyfelin, yn esgyn y mur o flaen y drws, yn darllen penod a gweddio; yr arch yn dyfod i'r golwg, yn cael ei chario gan ei frodyr yn y weinidogaeth; y dorf yn mudo, a'r côr yn dechreu canu nes adsain nef a daear, a llu yn colli dagrau. Fel hyn cymerwyd ei weddillion breulyd i'r Capel Newydd, man a gysegrodd lawer gwaith a'i weddiau a'i ddagrau. Darllenodd a gweddiodd y Parch. C. Bowen, Penclawdd, a phregethodd y Parch. W. Prydderch, Bettws, oddiwrth Job xix, 25, 26, 27. Areithiodd y Parch. D. Rees, Llanelli (A), a gweddiodd yr ysgrifenydd ar lan y bedd, lle rhoddwyd ei ran farwol i dawel huno hyd ganiad yr udgorn: eithr am ei ran ysbrydol gallwn ddweyd yn ngeiriau Eben Fardd—

"Onid byw yw enaid Bowen?—er cau'r
Corph dan dywarchen;
Yn efrydfa'r Wynfa wen
Duwinydda'r dawn addien."


MR. JOSEPH THOMAS, PENYBANC,
LLANGATHEN.

JOSEPH THOMAS ydoedd fab i'r diweddar Barch. D. Thomas, Llanddewi brefi, Swydd Aberteifi, a brawd i'r Parch. B. D. Thomas, Llandilo. Efe a anwyd yn Pistill gwyn, Rhagfyr 23, 1816. Ni bu erioed allan o'r eglwys. Ymddangosodd rhyw argraffiadau dwys ar ei feddwl yn nghylch ei gyflwr pan nad oedd ond ieuanc iawn. Ymgysegrodd yn llwyr i fod yn eiddo yr Arglwydd Iesu pan ydoedd yn 16eg oed. Cafodd addysg yn blentyn yn Llanddewi; wedi hyny yn Llangeitho, o dan ofal y Parch. R. Roberts; ac wedi hyny yn Ffrwd-y-fal, o dan ofal y Dr. Davies. Bu wedi hyny am rai blynyddau yn cadw ysgol; y lle olaf y bu gyda hyn oedd yn Cross Inn, Swydd Gaerfyrddin. Yma y dechreuodd ar waith y weinidogaeth, yn mis Chwefror, 1845. Daeth yn dra phoblogaidd ar ei darawiad cyntaf allan. Yn mis Awst, 1846, aeth i Drefecca, i'r Athrofa o dan ofal y Parch. D. Charles, B.A., a bu yno hyd Hydref, 1849; yna aeth i Faesyfed Newydd (New Radnor), i lafurio i blith y Saeson. Ar ol bod yno tuag wyth mis, dychwelodd i Swydd Gaerfyrddin, i'w hen gymydogaeth yn y Cross Inn; a llawen iawn oedd ganddynt ei weled. Yn mis Gorphenaf, 1850, ymbriododd A Miss Elizabeth Richards, merch ieuangaf Mr. Richards, Penybanc, Llangathen. Ymsefydlodd yno gyda'i dad-yn-nghyfraith hyd ei farwolaeth. Yr oedd efe yno, o ran ei amgylchiadau, yn dra chysurus, a chyfleus i wasanaethu уг achos goreu; ond erbyn ei fod braidd. yn dechreu dyfod i'r golwg, machludodd ei haul yn ddigymylau, Tachwedd 30, 1852, pan oedd o fewn mis i fod yn un mlwydd ar bymtheg ar ugain, wedi bod yn pregethu yn agos i saith mlynedd. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Byr fu ei gystudd, ond poenus iawn. Rhagfyr 3, ymgasglodd tyrfa luosog a galarus yn nghyd i Benybanc, ac yn eu plith amrywiol o weinidogion a phregethwyr o wahanol enwadau. Dechreuodd y Parch. T. Davies, Tabernacl, Llandilo (A.), a phregethodd y Parch. M. Morgans, Llandilo (un o'i gyd-efrydwyr yn yr Athrofa), oddiwrth Job xiv. 1; a'r Parch. J. Jones, Llanedi, oddiwrth Rhuf. xv. 13; yna aed â'r ran farwol i fynwent Llangathen, lle y gorwedd hyd oni ddaw i fyny ar wedd ei Briod a'i Brynwr.

Yr oedd Mr. Thomas yn ddyn o dymher siriol a hawddgar iawn, tirion a chymwynasgar; gwnai gymwynas i gyfaill, os byddai ar ei ffordd, yn rhwydd a rhydd. Nid oedd dim ynddo o'r golwg; ond cyfaill mynwesol ydoedd, yn tybied pawb fel efe ei hun, yn ddiniwed a difeddwl drwg. Fel Cristion, nid oedd neb a'i hadwaenai yn amheu ei grefydd. Yr oedd yn Gristion da, a hawdd oedd dweyd am dano, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nad oes dwyll." Yr oedd yn wresog a bywiog iawn gyda phob rhan o'r gwaith; a pha beth bynag a ymaflai ynddo, gwnai â'i holl egni. Yr oedd yn ymchwilgar iawn am wybodaeth, ac yr oedd wedi cyrhaeddyd graddau cyffredinol o honi. Yr oedd yn astudiwr da. Yr oedd ei bregethau, y rhan amlaf, yn ymarferol; a phan y byddai o dan "yr eneiniad oddiwrth y Santaidd hwnw," yr oedd ei weinidogaeth yn bwerus, ac yn bachu yn nghydwybodau ei wrandawyr. Bu yr ysgrifenydd ac yntau ar daith gyda'u gilydd unwaith yn y Gogledd—yr unig dro y bu gwrthddrych y cofnodau hyn yn y wlad hono; byddai rai gweithiau yn rymus iawn, nes byddai rhai o'r gwrandawyr yn tori allan i orfoleddu, a rhai i lefain am eu bywyd. Diau pe buasai Y brawd anwyl hwn yn cael hir oes, Y daethai yn bregethwr poblogaidd iawn.

Y PARCH. REES PHILLIPS, LLANYMDDYFRI

MAB ydoedd Rees Phillips i Thomas ac Elizabeth Phillips, o'r dref uchod, a brawd i'r Parchn. Thomas Phillips, Henffordd, a Jonah Phillips, Llanymddyfri. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1799. Ymunodd â chrefydd yn y flwyddyn 1819; dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1826; cafodd ei ordeinio yn Pontypridd yn mis Awst, 1836; bu yn pregethu am ddeg mlynedd ar ugain.

Yr oedd Mr. Phillips o hyd cyffredin, corph lluniaidd a hardd; yr olwg arno yn foneddigaidd, ei wisgiad ddestlus. Ei agwedd yn siriol a hawddgar; yr oedd wedi dysgu y wers hono yn drwyadl, i feddwl cyn llefaru: ac yna dywedai yn llithrig yr hyn a feddyliai. "Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun."

Yr oedd yn ddyn gwir dduwiol a defnyddiol; yn dra chyfarwydd yn y Bibl. Byddai pob gosodiad o'i eiddo, pob cynghor ac anogaeth a ddeusi o'i enau, wedi ei sylfaenu ar air y gwirionedd. Mab tangnefedd oedd efe; byddai yn dwyn yr arwydd hwn gydag ef i bob man. Un hynod oedd am daflu dwfr ar dân. Pan byddai rhyw annghydfod mewn rhyw fan, byddai ef ond odid mor debyg a neb i gael ei anfon gan y Cyfarfod Misol i'r lle; ac ni byddai y lle yn waeth o'i fod ef yno. Un hynod oedd at gadw at y gair a'r rheolau; un diduedd oedd, Chwiliai i'r eithaf am gael gafael yn y bai, pa le bynag y byddai.

Yr oedd ei bregethau y rhan fynychaf yn athrawiaethol. Crist yn ei aberth a'i iawn, yn nghyda'i swyddau a'i ditlau, &c., fyddai hoff faterion ei bregethau. Mae yn agos i ddeugain mlynedd bellach er pan welsom ef gyntaf erioed, yr hyn oedd mewn cymanfa yn Llandilo-fawr; newydd dyfod at grefydd oedd ein hanwyl a'n hoffus frawd y pryd hwnw. Cymanfa oedd hon a gofir am dani byth gan laweroedd. Y Nefoedd yn tywallt gyda gweinidogaeth y cenadon oedd yn pregethu ynddi, er nad oedd ysgrifenydd y llinellau hyn ond ieuanc iawn yr amser hwnw; ond y mae yn gofus genym am agwedd Mr. Phillips yn nghanol y dorf fawr oedd ar y cae, yn bloeddio allan, ac yn diolch am yr iawn. Aeth dros ben ei lestr arno lawer gwaith wedi hyny, nes tori allan i orfoleddu a diolch am yr iawn. Yn aml wrth bregethu byddai yn diolch am "yr hwn a osododd Duw yn iawn." Clywsom ef yn dywedyd mai y fan yma y cafodd ei fywyd. "Pan oeddwn," eb efe, "o dan Sinai, ac yn canfod fy mod yn greadur colledig a damniol, yn ngafael cyfamod wedi ei dori, a'r ddeddf yn ymaflyd ynof, y gorchymyn wedi'm dal, a minau wedi marw, y cefais olwg ar yr iawn. Nis gallwn," eb efe, "lai na diolch. Trwy yr iawn y cefais fy mywyd."

Un iraidd ei ysbryd oedd Mr. Phillips. Pan glywai fod yr achos yn llwyddo yn rhyw le, byddai hyny yn ei ddwyn ef i lawenhau. Byddai weithiau pan ar weddi yn diolch i'r Arglwydd am gael clywed y newyddion da, ac adgoffhäni hyny yn aml pan yn pregethu. Y golled fwyaf a gafodd yr achos yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn Swydd Gaerfyrddin er ys blynyddau lawer oedd colli y brawd hawddgar hwn. Yr oedd yr holl eglwysi yn y Sir yn agos at ei galon, ac ar ei feddwl y rhan amlaf o'i amser, yn enwedig yn ei flynyddau olaf. Yr oedd ei ofal gymaint a phe buasent wedi eu hymddiried oll iddo ef. Gwr gofalus ydoedd am yr achos yn ei holl ranau, gartref ac oddicartref. Bu am hir amser yn ysgrifenydd i'r Cyfarfod Misol; cyflawnodd y swydd hon yn ddigoll. Ni byddai un amser yn absenol o'r Cyfarfodydd hyn oddigerth ei fod allan o'r Sir; da iawn oedd gan bawb ei weled, pan yn eistedd yn y seat fawr o dan y pwlpud, a'r bwrdd o'i flaen, a'r ysgrifell yn ei law.

Ein llygaid ni oedd gwrthddrych y cofiant hwn. Mae yn amlwg erbyn heddyw na adawodd neb ar ei ol, mor ffyddlon ag ef ei hun, yn hyn o orchwyl beth bynag. Yr oedd Mr. Phillips yn ddyn o ysbryd bywiog iawn, ac awydd myned yn mlaen gyda chrefydd, a chyda phob diwygiad fyddai yn fanteisiol er hyrwyddo olwynion cerbyd yr Immanuel.

Yr oedd ysgrifenydd hyn o linellau yn dra chyfarwydd ag ef, yn enwedig yn y blynyddau diweddaf o'i fywyd. byddem fynychaf yn y Cyfarfodydd Misol yn lletya yn yr un man. Yn ystod yr amser hyn, cefais dystiolaeth i mi fy hun ei fod yn Gristion didwyll; gweddiai lawer yn y dirgel, a siaradai lawer am yr achos, yn ei holl amgylchiadau. Mae arnaf hiraeth ar ei ol hyd heddyw; treuliais lawer awr felus yn ei gymdeithas. Teimlwn wedi bod gydag ef, fy mod wedi bod gyda gwr Duw. Rhoddwn ei hanes yn mhellach eto, fel ag y mae wedi ymddangos eisioes gan weinidog parchus yn ein Sir, yr hwn a bregethodd ei bregeth angladdol oddiar 3 Ioan xii, yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol ei gladdu. Da fyddai pe anrhegid y cyhoedd â'r bregeth ragorol hon.

Awst 22, 1854, bu farw y Parch. Rees Phillips, Llanymddyfri, yn 55 mlwydd oed. Nis gwyddom beth a ddygwydd mewn diwrnod. Cafodd y brawd anwyl hwn ei daraw gan bang o'r parlys pan wrth y gorchwyl o bregethu yn Nghyfarfod Misol Rhydcymerau, ar yr 17eg o Awst. Diffrwythwyd un ochor i'w gorph ar unwaith; ac yr oedd ei enaid wedi dianc i baradwys yn mhen pum niwrnod.

Bu Mr. Phillips yn pregethu oddeutu 30 mlynedd, ac yn neillduedig i gyflawn waith y weinidogaeth am 18 mlynedd. Un o" heddychol ffyddloniaid Israel" ydoedd ef. Yr oedd yn gymeradwy yn mysg lluaws ei frodyr," ac iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn ddyn sefydlog; yn gyfaill ffyddlon; yn Gristion trwyadl, ac yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Yr oedd yn hawdd adnabod fod yn anwyl iawn ganddo am Grist, ac mai yr hwn a dderbyniasai ei hun a gymhellai ar eraill; ac yn gyffredin, yn enwedig yn ei amser diweddaf, byddai yn agos yn wastad o dan raddau helaeth o'r "eneiniad oddiwrth y Santaidd hwnw." Fe gafodd dystiolaeth cyn ei symud ddarfod iddo ryngu bodd Duw. Bu farw mewn gorfoledd, a'i lygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd. Fe'i cymerwyd ymaith, fel y gwelir, yn bur ddisymwth, a hyny yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Teimlir colled fawr ar ei ol, yn enwedig yn ei sir ei hun; canys un oedd ef a wir ofalai am yr achos yn ei holl ranau. Yr oedd wedi llwyr ymgysegru i'w wasanaethu. Gellir dywedyd yn ddibetrus, "Yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth."

Yn nesaf rhoddwn hanes ei oriau diweddaf, fel ag y mae wedi ei ysgrifenu gan y brawd parchus, yn nhŷ yr hwn fu farw yn Rhydcymerau.

"Yr oedd Mr. Phillips, ar yr amser y cafodd ei daro gan angau, yn pregethu yn Nghapel Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin, tua phymtheg milldir o Lanymddyfri, yn y Cyfarfod Misol, Awst 16eg a'r 17eg; ac efe oedd yr olaf yn pregethu y dydd diweddaf am 2 o'r gloch. Ei destun oedd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth, Act. xvi. 17. Cawsom ddigon o foddlonrwydd yn ei gystudd i wisgo ei destun am dano ef, gan ddywedyd, Y dyn hwn oedd un o weision y Duw goruchaf." Pan oedd yn ei frwdfrydedd yn mynegi ffordd iachawdwriaeth i bechaduriaid, y teimlodd ryw ddiffyg yn ei dafod, a'i law aswy yn myned yn ddideimlad; ond yn nerth Duw, fel bob amser, cafodd fyned trwy ei bregeth; a chyda'i fod yn gweddio ar y diwedd, crymodd tua'r llawr, gan ddywedyd, "Dyma fi ar ben; rhowch air i ganu.' Cymerwyd ef rhwng pedwar o'r brodyr i dŷ yr ysgrifenydd, (sef Mr. D. Davies, Shop, un o'r Bedyddwyr, yr hwn hefyd bellach er ys tuag wyth mis sydd wedi huno yn yr Iesu) a dodwyd ef yn y gwely. Anfonwyd am feddyg yn ddioed, yr hwn pan ddaeth a ddeallodd ei fod wedi cael ei daro gan y parlys yr ochor aswy i gyd. Gwnaeth ei oreu iddo; ond pan ddel angau, mae pob meddyginiaeth yn ofer, ac felly y bu y tro hwn. Am y tri diwrnod cyntaf, swrth-gysgu oedd bron o hyd; a phan ddeffroai, ei brif ofid oedd fod dydd ei ddefnyddioldeb yn darfod o flaen ei fywyd. Gobeithini yn fawr y gwellhäai eilwaith am ychydig, i gael bod yn ffyddlon dros ei Dduw, i gyhoeddi iawn y groes i bechaduriaid sydd yn gorwedd mewn trueni mawr. Yr oeddwn yn treio ei gysuro trwy ddywedyd na fyddai yn ddim colled iddo ef pe buasai ei oriau bron a'u rhifo ar y ddaear. Pa fodd y gwyddoch chwi hyny?' ebe yntau. Am eich bod yn ddyn duwiol, ebe finau, "a phan oeddech yn mynegi ffordd iachawdwriaeth y cawsoch eich taro yn glaf.' 'O,' ebe yntau, 'dyw hyny ddim i bwyso arno;' ac yna dywedai

Iachawdwriaeth rad ei hunan,
Yw fy nghais o flaen y nef,
A farwel am dana'i fythol,
Oni chaf ei haeddiant Ef."

'Mr. Phillips,' ebe finau, 'peidiwch â bod yn ormod o Galfin; y neb sydd yn ceisio sydd yn cael; a chofiwch mai y dynion sydd yn byw yn santaidd yn y byd hwn yw y rhai a gedwir i fywyd tragywyddol, ac mai wrth ei ffrwyth mae adnabod y pren.' Yr ateb a gefais oedd

"Iesu ei hunan,
Oll o flaen fainc i mi."

Am ddeg o'r gloch nos Sabbath cafodd ei daro mewn llewyg caled iawn, nes yr oeddwn yn meddwl ei fod yn yr afon. Ceisiai genyf wasgu ei ben, gan ddywedyd, "Nid oes dim niwed yn bod; yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf;' yna ymostyngodd David Davies, y blaenor, mewn gweddi ddwys iawn yn ei achos. Credwyf fod gweddio y tro hwn mor rhwydd ag anadlu. 'Arglwydd,' eb efe wrth weddio, os oes rhaid i'r hen long fyned yn ddrylliau yma, a than y don, mae yn ddigon eglur nad oes dim colled am fywyd neb.' Ar hyn gwaeddodd Mr. Phillips, Bendigedig! Duw yn Nghrist, ddwy waith. 'Ffydd, meddai eilwaith, beth dâl ffydd os na thâl hi yn awr?'

Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy,"

ebe finau. Atebodd yntau,

"Mae'r addewid lawa i minau,
Pa'm yr ofna f'enaid mwy ?"


Aeth i lewyg mor drwm ar ol hyn fel y tybiodd pan' ddihunodd mai yn y capel yr oedd; a phwy ryfedd ei fod yn barod i fyned at ei hoff bethau? O'r capel y daeth i'r gwely. Yna dechreuodd bregethu, gweddiodd ar ol y bregeth, rhoddodd air i ganu, dechreuodd y dón ei hunan, ac erbyn hyny canodd pawb oedd yn y tŷ, a phawb, 'rwy'n meddwl, yn canu yn yr ysbryd, nes aeth yn haleluia trwy yr holl le. Testun y bregeth hon oedd, Yr hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef.' 'Dyma lle mae cael cyfiawnhad,' meddai, trwy ffydd yn ei waed ef; dyma lle mae cael santeiddhad a mabwysiad; dyma lle mae cael nerth yn ol y dydd; dyma lle mae cael modd i farw yn dawel, a chael y tangnefedd na wyr y byd ddim am dano; ie, yn ei waed ef, mewn gair, y mae cael pob peth sydd yn angen ar bechadur. Bendigedig fyddo ei enw byth bythoedd.' Y gair a roddodd i ganu ydoedd

"Does gen'i yn wyneb calon ddu
Ond Iesu'r Meddyg da," &c.

Byddai yn rhy faith i gofnodi ei holl ymddyddanion. Dywedai yr ymadrodd canlynol wrtho ei hun, pan nad oedd yn meddwl fod neb yn gwrando arno:—Caru a ddylem, ac nid cornio; dylem anwylo, ac nid casâu. Oblegyd cornio yn lle caru, a chasâu yn lle anwylo, y mae yr Arglwydd yn dywedyd, "Gadewais fy nhŷ." Yr oedd yn amlwg fod gofid mawr arno o herwydd iselder crefydd. 'A ddaw yr Arglwydd eto yn ol i'w dy? ebai. Dywedais ei fod wedi addaw. 'Os yw wedi addaw,' ebai, y mae yn sicr o ddod; 'does dim doubt am hyny. Nerthed ni i ddysgwyl wrtho mewn ffydd.' 'Mae yn dda iawn genyf, meddai bryd arall, 'fod yn debyg i lawer dyn; ond bod yn debyg i Iesu Grist yw y gamp fawr. Y can cymaint yn y byd hwn; ond yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol. Un peth ydyw gwybod mwyneidd-dra yn y pwnc, peth arall yw bod yn fwynaidd. Wrth gael rhyw ymweliad yn y Gymanfa a'r Cwrdd Misol, a'r eglwysi lleol, y mae y Methodistiaid wedi dal eu tir hyd heddyw yn Nghymru; a thra y byddom ni yn amcanu fel Corph i ymgadw rhag drygnu, nid yw yn debyg y gwna yr Arglwydd ein gadael." Sylwai bryd arall, 'Does modd i gael mwy ar y ddaear hon, na chael yr Arglwydd yn Dduw i ni.' hyn allan gwaethygu yr oedd o hyd o ran y dyn oddiallan, ac yn gwella o hyd o ran y dyn oddimewn. Yr oedd yn cwyno am fyned adref, ac yn dysgwyl y fly o Lanymddyfri i'w ymofyn dydd Llun; ond nos Fawrth anfonodd Duw ei angel-gerbyd i'w ymofyn i'w artref tragywyddol; ac y mae yn hyfryd genyf feddwl fod ffordd wedi ei hagor o fy ngwely bach i i'r drydedd nef.

"Dydd Mawrth, ychydig ddywedodd am fyned adref: yr oedd yn wael iawn trwy y dydd. Gofynais iddo yn y prydnawn a oedd yn teimlo poen mawr. Atebodd nad oedd, fod y gwaethaf wedi myned heibio. Bendigedig fyddo Duw am hyny,' eb efe. Atebais inau fy mod yn ofni fod poen mawr arno; ond ni chymerodd arno fy nghlywed. Dywedodd eilwaith, le yn wir, bendigedig, a bendigedig fyddo byth bythoedd hefyd am hyny. Am saith o'r gloch nos Fawrth dechreuodd bregethu a chynghori pawb i wneyd y goreu o'u hamser. Cewch ffeindio,' eb.efe, y bydd yn ddigon byr i chwi, heb wastraffu dim o hono.' Erbyn hyn daeth llawer iawn o ddynion at y tŷ i wrando arno—llais megys o fyd arall, a phawb a'u gruddiau yn wlybion. wrth wrando. Mawr mor effeithiol oedd ei ymadroddion. Gofynodd ei ferch iddo a oedd yn ei hadnabod hi. Meddyliodd yntau mai gwraig y tŷ oedd yn gofyn iddo.. Ydwyf,' ebai, 'yn eich adnabod chwi; fe ddylwn eich adnabod hefyd, am yr holl garedigrwydd wyf wedi ei dderbyn oddiar eich llaw. Yr Arglwydd a'ch gloywo chwi i gyd fel teulu. Gair yr Arglwydd a wnaeth hyn i mi. Fel pe dywedasai mai effaith gair yr Arglwydd oedd yn ein calonau ni yn peri i ni fod mor dyner tuag ato fel hyn. Yr oedd yn myned at y gwreiddyn.

Pe buaswn yn ysgrifenu fel yr oedd pob peth yn dod o'i enau, ni fuasai eisiau un golygydd i edrych ar ol y gwaith. Fel y canlyn yr oedd ei ymddyddanion olaf.

Yn y dyfroedd mawr a'r tonau
Nid oes neb a ddeil fy mhen," &c.

"Mae geiriau yn dywedyd na fyddant farw mwy,' ebe fi wrtho. Atebai yntau, Nis gallant farw mwy, Dafydd bach; oblegyd cyd-stad â'r angylion ydynt." Fel hyn y parhaodd i lefaru yn hyfryd ar erchwyn y gwely, hyd nes daeth yr angylion i'w ymofyn o wlad y cystudd mawr i wlad na chlywir neb ynddi yn dywedyd, 'Claf ydwyf. Am haner awr wedi deg o'r gloch gallasem ddywedyd am dano yntau, "Nis gall farw mwy." Fel hyn y terfynodd y gwr duwiol hwn ei yrfa. Cafodd fynediad helaeth i mewn i'r deyrnas dragywyddol. Y dydd Iau canlynol hebryngwyd ei weddillion mewn modd anrhydeddus i Lanymddyfri, a gosodwyd hwynt i orphwys y noson hono yn ei dŷ ei hun. Prydnawn dranoeth am 3 o'r gloch, cyn cychwyn y corph o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd y Parch. E. Williams, Defynog; yna aed i'r capel, lle y darllenodd ac y gweddiodd y Parch. T. Job, Llanddarog; pregethodd y Parch. T. Elias, Defynog, oddiwrth Phil. i. 23; yna dodwyd ei gorph i orphwys yn nhŷ ei hir gartref, o'r tu allan i'r capel, ar gyfer y pwlpud, y fan a ddymunasid ganddo ei hun. Anerchwyd y gynulleidfa yn dra effeithiol ar lan J bedd gan y Parch. B. D. Thomas, Llandilo, a gadawyd ei ran farwol yno hyd adgyfodiad y meirw. Canwyd yr hymn ganlynol cyn ymadael:

"Mae'm cyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd o fy mla'n,
Rhai fu'n teithio dyffryn Baca,
Gyda mi i Salem lân," &c.

Nis gwelsom fwy o barch ac o deimlad yn cael ei ddangos i neb nag a ddangosid yn gyffredinol ar ol y brawd ymadawedig hwn yn nhref ei enedigaeth. "Dyna ddyn duwiol," ebe un. "Dyna ddyn da a diniwed, ebe y llall. "Un melus ydoedd yn y society," meddai y trydydd: "os byddai brawd neu chwaer yn wan yno, ymdrechai Mr. Phillips ei godi i fyny." Y swn cyffredinol trwy y dref oedd, "Y fath golled a gawsom!" Fel blodeuyn, gwenai yn siriol yn ei fywyd; ond yn ei angau llanwai yr awyrgylch a'i berarogl. "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd."

MR. JOHN HUGHES, LLANEDI.

JOHN HUGHES ydoedd fab i'r Parch. D. Hughes, Cross Inn, brawd i'r Parch. R. Hughes, Cwmaman, ac wyr o du ei fam i'r diweddar Barch. R. Davies, Llansadwrn. Ganwyd ef Awst 17, 1829, yn y Graig, tyddyn bychan yn mhlwyf Llanegwad. Cafodd ei faethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, ac ni bu erioed allan o'r eglwys. Derbyniodd ei addysg yn benaf o dan ofal ei dad, уr hwn oedd y pryd hyny yn cadw ysgol ddyddiol yn Nantcaredig. Yr oedd ofn marw yn annuwiol yn gwasgu yn ddwys ar ei feddwl yn aml iawn, er pan oedd yn dra ieuanc, yn enwedig pan y dygwyddai wrando pregeth bur daranllyd. Pan tua 17eg oed, ymroddodd i fod yn gyflawn aelod o eglwys y College, gerllaw pentref Llangathen; yn y lle hwn y dysgodd ei gelfyddyd fel dilledydd. Yn fuan wedi hyny symudodd i Lanedi, ac ymunodd ag eglwys Ebenezer. Mehefin y 25ain ymbriododd â Mari, merch Mr. John Francis, Penycryg, Llanedi.

Dechreuodd bregethu ryw bryd yn y flwyddyn ganlynol; ac, fel y gwelir yn y Drysorfa am fis Mai, 1855, dymunai a dysgwyliai yr eglwys hir ddyddiau a llwyddiant mawr ar ei lafur; ond erbyn ei fod megys yn ymagor a dechreu dyfod i sylw a defnyddioldeb, wele, y 'blodeuyn a syrthiodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd.'

Wedi dyoddef cystudd yn amyneddgar dros rai misoedd, efe a fu farw Tachwedd 29ain, 1854, yn 25 ml. oed, gan adael gweddw a mab bychan i ofal "Barnwr y gweddwon, a Thad yr amddifaid." Ystyrid ef yn ddyn cywir a gonest, yn briod tyner, yn gyfaill serchog, yn Gristion dysglaer, ac yn bregethwr dawnus. Er na bu yn hir ar y maes, eto bu yn ddigon hir i ddangos mai nid wedi dyfod yno i fod yn segur yr ydoedd; yr oedd ôl llafur ar ei bregethau. Yr oedd trefnusrwydd ei faterion, a gwreiddiolder ei ddrychfeddyliau yn hynodion ynddo. Teimlir colled ar ei ol, yn neillduol yn y manau lle yr adwaenid ef oreu.. Gellir dweyd mai dyn yn byw ei bregethau ydoedd; un yn tynu cysur o'r fan y cyfeiriai eraill am gysur; un yn pwyso ar y maen y cynghorai eraill i bwyso arno.

Profodd hyny yn angau; gadawodd broffes dda ar ei ol. Dywedir nad oedd yn brysio dim yn wyneb marw. "Ni frysia yr hwn a gredo." "Mae heddwch rhyngof a Duw," ebai; ac ychwanegai, "mae y cymod wedi ei wneyd—y gwaethaf wedi myned heibio; dim damnio, dim damnio byth mwy." Y rhai hyn oeddynt ei eiriau diweddaf.

Dydd ei gladdedigaeth, ymgynullodd tyrfa luosog i ddangos eu caredigrwydd olaf iddo. Pregethodd y Parch. J. Jones, Llanedi, ar yr achlysur galarus oddiar Esay xxvi. 19. Dodwyd ei gorph i orwedd yn mynwent Ebenezer-y capel y perthynai iddo, hyd y boreu y gwelir ef ar ddelw y Gwaredwr, yn mhlith y dyrfa fawr hono fydd yn teyrnasu gyda Christ yn oes oesoedd.

Y PARCH. CHARLES BOWEN, PENCLAWDD.

MAB ydoedd Charles Bowen i William a Mari Bowen, Rhydargaeau, yn agos i Gaerfyrddin. Ganwyd ef Hydref 26, 1823. Cafodd ei fagu yn yr eglwys o'i febyd. Daeth yn gyflawn aelod pan yn bymtheg oed. Dechreuodd bregethu pan yn bedair ar bymtheg oed. Neillduwyd ef i fod yn gyflawn gyda gwaith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Aberafon, Awst, 1854, ar ba amser dywedodd y Parch. D. Charles, A.B., ei athraw gynt, fod ef yn meddwl ei fod yn cael ei ordeinio i'r nefoedd yr oedd yn ganolig ei iechyd y pryd hwnw. Bu farw ar y 14eg o Ragfyr, 1854. Dydd Mawrth canlynol aethpwyd â'r corph i'r capel, pryd y gweddiodd

Parch. R. Lumley, Abertawy, a phregethodd y Parch. W. Williams, Bethany, Abertawy, yn Saesneg, a'r Parch. W. Griffiths, Gower, yn Gymraeg; wedi hyny dodwyd yr hyn oedd farwol o hono yn ei wely pridd, i orphwys hyd foreu caniad yr udgorn, pryd y daw i fyny mewn gogoniant, wedi ei gylchu ag anfarwoldeb, yn ddigon cryf i ddal tragywyddol bwys gogoniant.

Yr oedd Mr. Bowen o dymher addfwyn, ostyngedig. a diymhongar iawn; pwyllog yn ei holl ysgogiadau, ond eto yn benderfynol. Unwaith yr ymaflai mewn unrhyw beth, nid oedd dim a wnelai iddo droi ei gefn arno; i'r hyn, yn nghyda galluoedd meddwl cryf, y gellir priodoli ei lwyddiant fel ysgolhaig. Mae yn sicr iddo ef, yn ol y manteision a gafodd, fyned mor bell yn mlaen ar faes gwybodaeth a neb o'i gyfoedion. Yr oedd ei athraw a'i gyd-fyfyrwyr, pan yn yr athrofa, yn ei ystyried yn un o'r ysgolheigion blaenaf yn y lle; bu mewn rhyw ystyr er pan yn blentyn yn ferthyr er mwyn cyrhaeddyd dysgeidiaeth a gwybodaeth. Yr oedd ynddo ragoriaeth, nid yn unig fel ysgolhaig, ond hefyd fel dyn da, ac o grefydd amlwg; cyfaill didwyll, Cristion dysglaer, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd. Mae yn bosibl i ddyn fod yn ysgolhaig da, ac o alluoedd meddwl cryf, ac eto yn ddyn gwael diegwyddor; ond nid felly y brawd anwyl hwn. Yr oedd ef yn ddyn da mewn gwirionedd; yn gyfaill yn ystyr helaethaf y gair. Yr oedd yn un y gallesid meddwl ar y dechreu nad oedd o duedd gyfeillgar, o herwydd nid yn fuan y ceid ef allan i ymddyddan ar unrhyw bwnc, yn enwedig yn mhlith dyeithriaid; yr hyn hwyrach oedd yn peri i'r rhai nad oedd yn ei adwaen i feddwl ei fod o dymher sarug, pan mewn gwirionedd nid oedd dim yn mhellach oddiwrtho na hyny. Cerid ef fwyaf gan y rhai oedd yn ei adwaen ef oreu; ac yr oedd yn anmhosibl i'r rhai oedd yn ei adwaen lai na'i garu. Yr oedd cywirdeb ei egwyddorion yn ddarllenadwy yn ei holl ymddygiadau, a santeiddrwydd ei fuchedd yn peri i bawb o'i amgylch ei barchu yn fawr iawn.

Nid oedd dim ynddo â thuedd at ddyrchafu ei hun; dyn mawr, bach ydoedd y brawd anwyl hwn. Mae hiraeth mawr ar ei ol yn ardal Penclawdd hyd y dydd heddyw. Yr oedd yn ddyn i Benclawdd-yr oedd ei enaid wrth ei fodd gyda phobl ei ofal. Ond er galar i laweroedd, "efe a fu farw." Aeth i ogoniant yn 31 oed, wedi bod yn pregethu deuddeg mlynedd. O oes fer. O fedd creulon, ti lyncaist i fyny un o'r gweinidogion ieuainc mwyaf gobeithiol yn Neheudir Cymru.

MR. DANIEL BOWEN, RHYDARGAEAU.

BRAWD ydoedd D. Bowen i'r diweddar Barch. Charles Bowen. Ganwyd ef yn Rhydargaeau, Rhagfyr 27, 1829. Cafodd y fraint, fel ei frawd, o gael ei ddwyn i fyny yn eglwys Crist er yn blentyn. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn 14 oed. Dechreuodd bregethu pan yn 20 oed. Bu yn pregethu am wyth mlynedd. Bu am bedair blynedd yn Athrofa Trefecca. Bu farw Rhagfyr 14eg, 1857, yn 28ain oed, yr un diwrnod a'r un mis a'i frawd o'i flaen. Dydd ei angladd gweddiodd Mr. J. Walters, Llangendeirn; pregethodd y Parchn. T. Job, Llanddarog, a B. D. Thomas, Llandilo, oddiwrth Dat. xiv. 13, a Salm cxvi. 15, i dyrfa fawr oedd wedi ymgynull i dalu y gymwynas olaf iddo. Claddwyd ef yn Llanpumsaint, yn meddrod ei dadau, "mewn gwir obaith o adgyfodiad gwell."

Cafodd ef a'i frawd eu bendithio â rhieni crefyddol a duwiol; a gellir dywedyd am danynt ill deuoedd, fel am Obadin gynt, eu bod yn ofni yr Arglwydd yn fawr, ac wedi cydymffurfio â'r gorchymyn dwyfol "o borthi eu mynod ger llaw pebyll y bugeiliaid," sef magu eu plant yn "addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Yr oedd Daniel a Charles fel Samuel, gyda'r arch o'u mebyd; ac fel Josiah, yn gwneyd "yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Arglwydd" er yn ieuainc; ac fel Timotheus, "yn gwybod yr ysgrythyr lân er yn fechgyn." Rhedasant ill dau eu gyrfa, o'r bru i'r bedd, heb dreulio un diwrnod erioed yn gyhoeddus yn ngwasanaeth y gelyn. Gyda golwg ar y weinidogaeth a dderbyniodd Daniel gan yr Arglwydd Iesu, yr oedd yn ddysglaer, yn rymus, yn darawiadol, ac yn ddidderbyn wyneb rhyfeddol. Yr oedd ei bregethau bob amser a thuedd ynddynt i fachu y gydwybod, i oleuo y deall, i eangu y meddwl, i ddarostwng balchder y galon gyndyn, ac yn enwedig i dynu i lawr yn garnedd gau noddfeydd yr hen wrandawyr. Mawr fel y bu mewn rhyfel â'r rhai hyn, fel y dywedwyd yn y bregeth angladdol, a bregethwyd yn y Cyfarfod Misol, oddiwrth Job v. 35. Yr oedd yn traddodi y gwirionedd mor ddidderbyn wyneb, nes oedd crefyddwyr cnawdol yn anfoddloni, a gwrandawyr deddfol yn gwgu; ond er anfoddlonrwydd y naill, a gwg y llall, traddodi y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu wnai ein hanwyl frawd, a gadael rhwng Duw a'r canlyniadau. Yr oedd cariad Crist yn ei gymhell; deddf ei Dduw yn ei galon, a chyfraith y gwirionedd yn ei enau. oedd ei eiriau fel symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan un o feistriaid y gynulleidfa. Ergydion marwol i lygredigaethau yr oes oedd pregethau Bowen. Un hen weinidog parchus yn y Deheudir, o'r dosbarth blaenaf, ag oedd yn ei wrando yn pregethu unwaith, a ddywedodd wrtho ar ddiwedd yr odfa, "Dyna, Bowen bach; pregethwch yn y style yna tra fyddech byw; dyna weinidogaeth gyfaddas i'r oes yr ydym yn byw ynddi; mae stamp y llywodraeth arni."

Fel y dywedir am dano yn y Dyddiadur, "Yr oedd ei bregethau yn sobr a difrifol; yn hynod felly bob amser; a'i sylwadau oll yn wreiddiol a tharawiadol iawn. Hir y cofir am ei bregeth sylweddol ar rith duwioldeb gan bawb a'i clywsant; yr hon oedd un o'r rhai diweddaf a draddododd. Teimlir hiraeth ar ei ol yn y Sir yn gyffredinol, o achos colli un ieuanc mor obeithiol, oblegyd yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Ymorfoleddai yn yr iachawdwriaeth yn ei gystudd diweddaf; a theimlai ei fod yn ymadael â'r byd i fyned i gyflawn fwynhad o honi." Byr, mae yn wir, oedd ei oes weinidogaethol; ond bu yn ddiwyd a ffyddlon yn gweithio tra parhaodd ei ddydd. Machludodd ei haul yn gynar iawn; bu farw yn ngwanwyn ei ddydd. Aeth adref i lawenydd ei Arglwydd. Mae ef heddyw yn nghwmpeini myrddiynau o angylion a seintiau; ac yn eu plith mae Dafydd, Benjamin, Charles, a Thomas, ei frodyr; a Rachel ei chwaer. Gellir dywedyd mai dedwydd yw y rhieni a'u magodd. Nid nes yn aros heddyw ond un ferch yn weddill gan angau o'r saith a fagodd William a Mary Bowen. Ond, rieni duwiol, na thristewch fel rhai heb obaith;" y mae y chwech yn berffaith ddedwydd; ni ddeuant hwy bythyn ol, ond chwi a ewch atynt hwy.

A phwy a ŵyr na fyddwch i gyd fel teulu yn amgylchu yr un bwrdd, yn gwledda ar yr un wledd, ac yn canu yr un gân i dragywyddoldeb, heb ymadael mwy?

MR. JOHN DAVIES, CAIO.

GANWYD John Davies yn Mountain Gate, yn agos Cwm Iar, yn mhlwyf Llanllwny, Swydd Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1774. Aeth at grefydd pan oedd yn fachgen ieuanc yn New Inn. Dywedir mai yr un dydd yr aeth efe i'r society a'r foneddiges hono y mae ei henw yn arogli mor beraidd yn yr eglwysi, y diweddar Mrs. Rees, New Inn. Nid oes genym nemawr i ddywedyd am John Davies cyn iddo gael crefydd, o herwydd daeth ati cyn iddo gael ei lygru gan ei gyfoedion yn arferion pechadurus yr oes hono. Dechreuodd bregethu pan gyda militia Sir Gaerfyrddin yn Aberhonddu, tua'r flwyddyn 1798, pan oedd oddeutu 24ain oed. Dywedir iddo fod yn dra defnyddiol yn nechreu ei weinidogaeth mewn gwahanol ranau o'r Dywysogaeth, ac hefyd yn Dublin, yn yr Iwerddon, pan yn myned oddiamgylch gyda'r adran filwrol y perthynai iddi yn amser y rhyfel.

Yr oedd John Davies o faintioli cyffredin, ac yn dra chyflawn drosto; hardd a glân yr olwg. Gwisgai am dano yn addas i'r efengyl; cadwai ei hun yn lanwedd bob amser, ac felly y parhaodd tra y gallodd drafaelu. Byddai ei ferlyn ac yntau yn wastadol yn gadwrus iawn. Yr oedd yn ddyn serchus a chyfeillgar, ac yn hollol ddiniwed; yn un dystaw, dison am neb; ac os siaradai am rai, nis gallai lai na rhoddi gair da i bawb. Os na allai wneyd hyny, ni ddywedai ddim. Yr oedd yn wr o ymddiried, ac fe gadwai gyfrinach. Ystyrid ef gan bawb a'i adwaenai yn Gristion didwyll.

Er na throai mewn cylch uchel fel pregethwr, eto yr oedd yn ffyddlon ac ymdrechgar yn ol y dawn a gafodd. Yr oedd yn adwaen ei le cystal a neb; ac ni ystyriai ei hun un amser yn rhyw un mawr, ac yn barod i dramgwyddo am na chai le uwch. Gostyngedig a hunanymwadol ydoedd ef. Elai i daith yn gyfaill i'r ieuanc. fel yr hen; ac felly y parhaodd tra y bu yn gallu teithio. Triniai ei faterion gyda melusder a deheurwydd priodol iddo ei hun; ac ni flinai neb â meithder byth. Yr oedd yn un cynes a nawsaidd yn ei ysbryd bob amser. Yr oedd hyn yn peri iddo gael derbyniad llawen a siriol yn mhob man lle yr elai. Byddai yn dda i lawer pe byddent yn ei efelychu ef yn hyn; ac yn ei ostyngeiddrwydd a'i fwyneidd-dra yn y manau lle y byddai yn lletya. Mae rhai ysywaeth i'w cael, gwneled y teuluoedd a fynont iddynt, nid yw yn bosibl eu boddloni. Fel yr oedd merch, yr hon oedd yn ddigrefydd, yn dweyd yn ddiweddar wrth ei mam: "Gobeithiaf," ebe hi, "na welaf y dyn yna byth mwy yn y tŷ hwn." Ond nid felly gwrthddrych y llinellau hyn. Yr oedd yn dda ganddynt ei weled yn galw drachefn a thrachefn.

Trafaelodd yr hen frawd hwn lawer yn ystod ei oes faith trwy Ddeheu a Gogledd Cymru. Bu rai gweithiau yn y Gogledd gyda'r diweddar Barch. Thos. Jones, Caerfyrddin; a llawer gwaith wedi hyny gydag aml un or brodyr yn y Sir. Cafodd iechyd da iawn trwy ei oes, hyd nes iddo fyned yn hen, a chael ei gaethiwo gartref o herwydd henaint a methiant; bu felly am ysbaid tair neu bedair o flynyddoedd. Yr oedd yn dda iawn ganddo weled ei frodyr yn galw i edrych am dano pan mewn dyddiau blin' yn y cornel. Yr oedd yn iraidd ei ysbryd hyd y diwedd. Yr oedd cyfeillach ei frodyr yn ei sirioli a'i gynesu fwyfwy at bethau gwlad arall. Bu farw a'i bwys ar ei Anwylyd. Disgynodd i'w fedd yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, Chwefror 25, 1858, yn 84ain oed, wedi bod yn pregethu oddeutu triugain mlynedd.

MR. DAVID MORRIS, HENDRE

MAB ydoedd David Morris i John ac Ann Morris, Felin Glyphir, yn mhlwyf Llandebie. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1787. Ni chafodd ddim addysg grefyddol pan yn ieuanc, o herwydd yr oedd ei dad a'i fam yn hollol annuwiol y pryd hwnw. Ymroddodd gwrthddrych ein cofiant i ddylyn ffyrdd llygredig yr oes, a byddai yn ymladdwr heb ei fath. Nid oedd nemawr o neb trwy y fro a'i gorchfygai os cai chwareu teg; ond fe ddywedir nad oedd yn un ymhelgar os cail lonydd; ond os na chai, gorchfygu a wnai cyn ildio. Yn yr amser hwnw byddai arferiad gan bobl ieuainc y cymydogaethau, a llawer hefyd o wŷr priod, i fyned i gapel y Cross Inn ar ben y mis, boreu y Sabbath, ac oddiyno i'r dafarn, i dreulio gweddill y dydd santaidd yn ngwasanaeth y diafol. Byddai yntau yn gyffredin yn eu plith; ond ar ryw Sabbath, Sabbath a gofir byth am dano, aeth yno fel arfer gyda'r lluaws, er mwyn cael treulio gweddill y dydd yn ngwasanaeth ei feistr; ond pan oedd gweinidog y lle yn pregethu, sef y Parch. Rees Powell (A.); "yn yr odfa hon," ebe D. M., "wele yr Arglwydd yn dywedyd wrth Dafydd Morris, Er cymaint o bechadur ydwyt, wele fi, ie, wrth un nad oedd yn ymofyn am dano" Gwasanaethu pechod a satan oedd bwriad D. Morris wrth fyned i'r odfa, ond yr oedd gan Dduw waith arall iddo, sef pregethu yr efengyl. Pryd hyn aeth y saeth i'w galon. Clwyfwyd ef gan air yr Arglwydd, nes troi allan yn union o blith y rhai drygionus; ac yn lle myned gyda hwy i'r dafarn, adref aeth Morris cyn gynted ag y gallasai, gan. feddwl fod y ddaear yn ymagor i'w lyncu ef yn fyw i uffern. Fel hyn y bu am lawer o ddyddiau o dan daranau Sinai, bron gwallgofi, nes daeth y geiriau hyn i'w feddwl: "A gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod;" o hyny allan wele ef yn gweddio. Daeth goleu newydd i'r deall, ufudd-dod newydd i'r ewyllys, ffordd newydd, gwaith newydd, a chyfeillion newydd. Yn lle ymuno â'r Annibynwyr yn Cross Inn, cafodd ar ei feddwl ymwasgu a'r ychydig ddysgyblion oedd gan y Methodistiaid yn y Bettws, pan oddeutu 23ain oed. Yn mhen ychydig ar ol hyn ymunodd a'r cyfeillion yn Nghapel yr Hendre, o herwydd ei fod yn fwy cyfleus iddo; ac yma y treuliodd weddill hirfaith ei oes.

Wedi iddo ymuno â chrefydd, yr oedd yn ddigon amlwg i bawb weled fod D. Morris wedi cael tro trwyadl; ie, fe gafodd y fath gyfnewidiad nas gallasai neb ei wneyd ond yr Ysbryd Glân yn unig. Pryd yma nis gallasai ddarllen un gair yn y Bibl, na nemawr o adnod yn gywir pan ddechreuodd bregethu. Nid wyf yn meddwl i neb erioed ddechreu ar y gwaith â mor lleied o fanteision a'r brawd hwn. Er pan gafodd dro arni, (ei chwedl ei hun) daeth arno awydd mawr am i bawb eraill ddyfod i deimlo yr un peth ac yntau, yn enwedig y rhai y bu ef yn cyd-bechu â hwynt, sef eu "troi o'r tywyllwch i'r goleuni, ac o feddiant satan at Dduw." Wedi cael anogaeth daer gan y brodyr yn yr Hendre, dechreuodd ymaflyd yn y gwaith pwysig o gynghori ei gyd-greaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Cymerodd hyn le yn mhen oddeutu chwech mlynedd wedi dyfod at grefydd. Dechreuodd o dan anfantais fawr, fel y dywedwyd. Nis gallasai ddarllen o'r braidd un adnod yn gywir, ac eto yn taro ati yn nerth gras Duw a'i holl egni—yn llefain a'i geg heb arbed, ac yn mynegi i'r bobl eu camwedd. Yr oedd ganddo lais da, peraidd, a soniarus, ar ei darawiad cyntaf allan. Byddai weithiau yn dra tharanllyd, er nad oedd ganddo fawr o drefn ar ei bregethau; er hyny yr oedd myn'd ynddynt yr oeddynt yn finiog ac awchus. Nid oedd ei bregethau yn aml, o ran maintioli, ond bychain; ond yr oedd tân ynddynt: a phan byddai yn cael y gwynt o'i ochr, byddai pechaduriaid yn cael eu llorio nes taflu arfau i lawr. Mae yn ymddangos na fu neb yn ei oes ef yn Sir Gaerfyrddin, os nid yn Neheudir Cymru, yn fwy offerynol yn llaw yr Arglwydd i droi pechaduriaid. Nid oes nemawr o ardaloedd yn Neheudir Cymru, lle bu ef yn pregethu ynddynt, nas gellir dywedyd, "Y gwr a'r gwr a anwyd yno." Mae iddo luoedd o blant; ac er fod llawer o honynt wedi myned i'r nefoedd, mae llawer yn aros hyd heddyw a ddychwelwyd trwy ei weinidogaeth, nid yn unig, fel y dywedwyd, yn y Deheu, ond hefyd yn Ngogledd Cymru, yn enwedig Ynys Môn, a Lleyn, yn Sir Gaernarfon. Mae yr ysgrifenydd yn gwybod am ddau le yn y Deheu: yn un o honynt dychwelwyd un ar ddeg ar ugain trwyddo, ac yn y lle arall, bedwar ar ugain. Fe ddywedir fod rhai gweinidogion enwog iawn wedi eu dychwelyd trwyddo yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth.

Yr oedd achub pechaduriaid ar ei galon; gweddiai lawer am hyn. Yma yr oedd "cuddiad ei gryfder." Yr oedd yn daer ac aml gyda'r Arglwydd am i bechaduriaid gael eu hachub; siomi satan oedd ei brif neges, pan byddai yn teithio gyda'r pregethu. Bu y bregeth hono o'i eiddo yn llwyddianus iawn,—"Melldigwch Meros," &c. Mae llawer yn cofio am dani hyd heddyw, ac fe gofir am dani byth gan luaws. Bum i yn meddwl, pan yn ieuanc, a llawer gyda mi, mai D. Morris oedd y pregethwr mwyaf yn Nghymru, a meddwl weithiau nad oedd y fath bregethwr ag ef yn y byd. Yn y blynyddau cyntaf gyda gwaith y weinidogaeth, ac yn hir wedi hyny, nid oedd ei fath yn Sir Gaerfyrddin at holi yr Ysgol Sabbathol; yr oedd ei ddull yn effeithiol dros ben. Yr oedd yn rhaid ei gael ef i bob cyfarfod o'r fath, onide ni fuasai y cyfarfod o fawr gwerth yn ngolwg llawer. Mae yn ddiamheu i'r dull effeithiol oedd ganddo i holi fod yn foddion i ddwyn llaweroedd o ieuenctyd at grefydd, o ba rai mae amryw yn aros hyd heddyw, ac yn addurn i grefydd yn y manau lle y maent.

Yr oedd Mr. Morris fel dyn yn gyfaill didwyll, yn Gristion dysglaer, ac yn bregethwr llwyddianus. Yr oedd wedi cael ei benodi i'w neillduo yn Nghymdeithasfa Llandilo, yn mis Awst diweddaf; ond cyn i hyn gymeryd lle, fe neillduwyd ef gan y Nefoedd i le gwell, ac i fod yn aelod o berffeithiach cymanfa

"O rai cyntaf-anodigion
Ag sydd yn y nef yn awr."

Iddo ef y mae y Cymru yn rhwymedig am yr argraffiadau diweddaf o amryw gyfansoddiadau prydyddawl a rhyddieithawl yr hybarch Williams, Bantycelyn.

Nid oedd ei gystudd ond byr, ac yn anhysbys i lawer yn yr ardal. Aeth adref megys heb wybod i amryw o'i gyfeillion yn y gymydogaeth lle yr oedd yn byw. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol fod ei farn a'i fater yn dda; ac "er fod y passage yn rough," eb efe wrth frawd aeth i ymweled ag ef yn ei oriau diweddaf, "y mae y cwbl yn ddyogel i fyned trwyddo." Diangodd o'n mysg i fod byth gyda "chymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb; ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd," y rhai ydynt yn canu "can Moses a chân yr Oen." Er iddo gyfarfod â llawer o ofidiau yma ar y llawr, y mae heddyw yn ddiangol o'u gafael, ar fryniau Caersalem fry, wedi bod gyda chrefydd am wyth a deugain o flynyddoedd. Goddiweddodd lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a ffodd ymaith.

Dydd ei angladd ymgasglodd tyrfa fawr iawn yn nghyd i'w hebrwng i fedd newydd, na bu neb ynddo o'r blaen, yn mynwent capel yr Hendre. Cyn cychwyn o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd y Parch. W. Jenkins; yna aethpwyd i'r capel, lle y dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. H. Davies, Bethania (A.), ac y pregethodd y Parchn. J. Evans, Cydweli, a Josuah Phillips, Bancyfelin. Wedi rhoddi ei gorph yn y bedd, rhoddodd y Parch. D. Hughes, Cross Inn, gynghor dwys, difrifol, a phriodol i'r amgylchiad. Yna ymwasgarodd y dorf yn bruddaidd a galarus, ar ol hen frawd oedd yn anwyl iawn ganddynt.

Fel y canlyn y cofnodir ei farwolaeth yn y Dyddiadur:—"Mehefin 19, 1858, bu farw D. Morris, Hendre, Sir Gaerfyrddin, yn 71ain mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am 42 o flynyddoedd. Nid oedd ei gystudd ond byr; ni wyddai nemawr o'r wlad ei fod yn glaf, nes oedd y newydd galarus am ei farwolaeth yn ymdaenu. Yr oedd yn un a gerid yn fawr yn mhlith pob graddau; meddai ar ddynoliaeth dyner ac addfwyn; nid adwaenai ddichell; nid oedd yn perthyn iddo; a thebyg nad oes neb arall all ddweyd am un tro dichellgar a gyflawnwyd ganddo. Hoffid ef yn fawr yn y tai lle byddai yn arfer myned. Yr oedd yn Gristion profiadol a diragrith, bob amser a'i bleser a'i hyfrydwch yn yr efengyl a bregethai. Yr oedd yn hoffi cyhoeddi y newyddion da, ac nid ychydig yw y nifer a dderbyniasant y newydd am fywyd o'i enau ef. Y mae lluaws o'i blant ysbrydol ar hyd a lled Cymru yn fyw i alaru ar ei ol. Bu farw gan dystio fod ganddo "heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist."

DANGOSEG.






ARGRAFFWYD GAN JOSEPH ROSSER, HEOL FAWR, ABERTAWY.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.