Neidio i'r cynnwys

Cenadon Hedd/Mr. David Morris, Hendre

Oddi ar Wicidestun
Mr. John Davies, Caio Cenadon Hedd

gan William Jones, Cwmaman

Dangoseg

MR. DAVID MORRIS, HENDRE

MAB ydoedd David Morris i John ac Ann Morris, Felin Glyphir, yn mhlwyf Llandebie. Ganwyd ef yn y lle uchod yn y flwyddyn 1787. Ni chafodd ddim addysg grefyddol pan yn ieuanc, o herwydd yr oedd ei dad a'i fam yn hollol annuwiol y pryd hwnw. Ymroddodd gwrthddrych ein cofiant i ddylyn ffyrdd llygredig yr oes, a byddai yn ymladdwr heb ei fath. Nid oedd nemawr o neb trwy y fro a'i gorchfygai os cai chwareu teg; ond fe ddywedir nad oedd yn un ymhelgar os cail lonydd; ond os na chai, gorchfygu a wnai cyn ildio. Yn yr amser hwnw byddai arferiad gan bobl ieuainc y cymydogaethau, a llawer hefyd o wŷr priod, i fyned i gapel y Cross Inn ar ben y mis, boreu y Sabbath, ac oddiyno i'r dafarn, i dreulio gweddill y dydd santaidd yn ngwasanaeth y diafol. Byddai yntau yn gyffredin yn eu plith; ond ar ryw Sabbath, Sabbath a gofir byth am dano, aeth yno fel arfer gyda'r lluaws, er mwyn cael treulio gweddill y dydd yn ngwasanaeth ei feistr; ond pan oedd gweinidog y lle yn pregethu, sef y Parch. Rees Powell (A.); "yn yr odfa hon," ebe D. M., "wele yr Arglwydd yn dywedyd wrth Dafydd Morris, Er cymaint o bechadur ydwyt, wele fi, ie, wrth un nad oedd yn ymofyn am dano" Gwasanaethu pechod a satan oedd bwriad D. Morris wrth fyned i'r odfa, ond yr oedd gan Dduw waith arall iddo, sef pregethu yr efengyl. Pryd hyn aeth y saeth i'w galon. Clwyfwyd ef gan air yr Arglwydd, nes troi allan yn union o blith y rhai drygionus; ac yn lle myned gyda hwy i'r dafarn, adref aeth Morris cyn gynted ag y gallasai, gan. feddwl fod y ddaear yn ymagor i'w lyncu ef yn fyw i uffern. Fel hyn y bu am lawer o ddyddiau o dan daranau Sinai, bron gwallgofi, nes daeth y geiriau hyn i'w feddwl: "A gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod;" o hyny allan wele ef yn gweddio. Daeth goleu newydd i'r deall, ufudd-dod newydd i'r ewyllys, ffordd newydd, gwaith newydd, a chyfeillion newydd. Yn lle ymuno â'r Annibynwyr yn Cross Inn, cafodd ar ei feddwl ymwasgu a'r ychydig ddysgyblion oedd gan y Methodistiaid yn y Bettws, pan oddeutu 23ain oed. Yn mhen ychydig ar ol hyn ymunodd a'r cyfeillion yn Nghapel yr Hendre, o herwydd ei fod yn fwy cyfleus iddo; ac yma y treuliodd weddill hirfaith ei oes.

Wedi iddo ymuno â chrefydd, yr oedd yn ddigon amlwg i bawb weled fod D. Morris wedi cael tro trwyadl; ie, fe gafodd y fath gyfnewidiad nas gallasai neb ei wneyd ond yr Ysbryd Glân yn unig. Pryd yma nis gallasai ddarllen un gair yn y Bibl, na nemawr o adnod yn gywir pan ddechreuodd bregethu. Nid wyf yn meddwl i neb erioed ddechreu ar y gwaith â mor lleied o fanteision a'r brawd hwn. Er pan gafodd dro arni, (ei chwedl ei hun) daeth arno awydd mawr am i bawb eraill ddyfod i deimlo yr un peth ac yntau, yn enwedig y rhai y bu ef yn cyd-bechu â hwynt, sef eu "troi o'r tywyllwch i'r goleuni, ac o feddiant satan at Dduw." Wedi cael anogaeth daer gan y brodyr yn yr Hendre, dechreuodd ymaflyd yn y gwaith pwysig o gynghori ei gyd-greaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Cymerodd hyn le yn mhen oddeutu chwech mlynedd wedi dyfod at grefydd. Dechreuodd o dan anfantais fawr, fel y dywedwyd. Nis gallasai ddarllen o'r braidd un adnod yn gywir, ac eto yn taro ati yn nerth gras Duw a'i holl egni—yn llefain a'i geg heb arbed, ac yn mynegi i'r bobl eu camwedd. Yr oedd ganddo lais da, peraidd, a soniarus, ar ei darawiad cyntaf allan. Byddai weithiau yn dra tharanllyd, er nad oedd ganddo fawr o drefn ar ei bregethau; er hyny yr oedd myn'd ynddynt yr oeddynt yn finiog ac awchus. Nid oedd ei bregethau yn aml, o ran maintioli, ond bychain; ond yr oedd tân ynddynt: a phan byddai yn cael y gwynt o'i ochr, byddai pechaduriaid yn cael eu llorio nes taflu arfau i lawr. Mae yn ymddangos na fu neb yn ei oes ef yn Sir Gaerfyrddin, os nid yn Neheudir Cymru, yn fwy offerynol yn llaw yr Arglwydd i droi pechaduriaid. Nid oes nemawr o ardaloedd yn Neheudir Cymru, lle bu ef yn pregethu ynddynt, nas gellir dywedyd, "Y gwr a'r gwr a anwyd yno." Mae iddo luoedd o blant; ac er fod llawer o honynt wedi myned i'r nefoedd, mae llawer yn aros hyd heddyw a ddychwelwyd trwy ei weinidogaeth, nid yn unig, fel y dywedwyd, yn y Deheu, ond hefyd yn Ngogledd Cymru, yn enwedig Ynys Môn, a Lleyn, yn Sir Gaernarfon. Mae yr ysgrifenydd yn gwybod am ddau le yn y Deheu: yn un o honynt dychwelwyd un ar ddeg ar ugain trwyddo, ac yn y lle arall, bedwar ar ugain. Fe ddywedir fod rhai gweinidogion enwog iawn wedi eu dychwelyd trwyddo yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth.

Yr oedd achub pechaduriaid ar ei galon; gweddiai lawer am hyn. Yma yr oedd "cuddiad ei gryfder." Yr oedd yn daer ac aml gyda'r Arglwydd am i bechaduriaid gael eu hachub; siomi satan oedd ei brif neges, pan byddai yn teithio gyda'r pregethu. Bu y bregeth hono o'i eiddo yn llwyddianus iawn,—"Melldigwch Meros," &c. Mae llawer yn cofio am dani hyd heddyw, ac fe gofir am dani byth gan luaws. Bum i yn meddwl, pan yn ieuanc, a llawer gyda mi, mai D. Morris oedd y pregethwr mwyaf yn Nghymru, a meddwl weithiau nad oedd y fath bregethwr ag ef yn y byd. Yn y blynyddau cyntaf gyda gwaith y weinidogaeth, ac yn hir wedi hyny, nid oedd ei fath yn Sir Gaerfyrddin at holi yr Ysgol Sabbathol; yr oedd ei ddull yn effeithiol dros ben. Yr oedd yn rhaid ei gael ef i bob cyfarfod o'r fath, onide ni fuasai y cyfarfod o fawr gwerth yn ngolwg llawer. Mae yn ddiamheu i'r dull effeithiol oedd ganddo i holi fod yn foddion i ddwyn llaweroedd o ieuenctyd at grefydd, o ba rai mae amryw yn aros hyd heddyw, ac yn addurn i grefydd yn y manau lle y maent.

Yr oedd Mr. Morris fel dyn yn gyfaill didwyll, yn Gristion dysglaer, ac yn bregethwr llwyddianus. Yr oedd wedi cael ei benodi i'w neillduo yn Nghymdeithasfa Llandilo, yn mis Awst diweddaf; ond cyn i hyn gymeryd lle, fe neillduwyd ef gan y Nefoedd i le gwell, ac i fod yn aelod o berffeithiach cymanfa

"O rai cyntaf-anodigion
Ag sydd yn y nef yn awr."

Iddo ef y mae y Cymru yn rhwymedig am yr argraffiadau diweddaf o amryw gyfansoddiadau prydyddawl a rhyddieithawl yr hybarch Williams, Bantycelyn.

Nid oedd ei gystudd ond byr, ac yn anhysbys i lawer yn yr ardal. Aeth adref megys heb wybod i amryw o'i gyfeillion yn y gymydogaeth lle yr oedd yn byw. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol fod ei farn a'i fater yn dda; ac "er fod y passage yn rough," eb efe wrth frawd aeth i ymweled ag ef yn ei oriau diweddaf, "y mae y cwbl yn ddyogel i fyned trwyddo." Diangodd o'n mysg i fod byth gyda "chymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb; ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd," y rhai ydynt yn canu "can Moses a chân yr Oen." Er iddo gyfarfod â llawer o ofidiau yma ar y llawr, y mae heddyw yn ddiangol o'u gafael, ar fryniau Caersalem fry, wedi bod gyda chrefydd am wyth a deugain o flynyddoedd. Goddiweddodd lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a ffodd ymaith.

Dydd ei angladd ymgasglodd tyrfa fawr iawn yn nghyd i'w hebrwng i fedd newydd, na bu neb ynddo o'r blaen, yn mynwent capel yr Hendre. Cyn cychwyn o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd y Parch. W. Jenkins; yna aethpwyd i'r capel, lle y dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. H. Davies, Bethania (A.), ac y pregethodd y Parchn. J. Evans, Cydweli, a Josuah Phillips, Bancyfelin. Wedi rhoddi ei gorph yn y bedd, rhoddodd y Parch. D. Hughes, Cross Inn, gynghor dwys, difrifol, a phriodol i'r amgylchiad. Yna ymwasgarodd y dorf yn bruddaidd a galarus, ar ol hen frawd oedd yn anwyl iawn ganddynt.

Fel y canlyn y cofnodir ei farwolaeth yn y Dyddiadur:—"Mehefin 19, 1858, bu farw D. Morris, Hendre, Sir Gaerfyrddin, yn 71ain mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am 42 o flynyddoedd. Nid oedd ei gystudd ond byr; ni wyddai nemawr o'r wlad ei fod yn glaf, nes oedd y newydd galarus am ei farwolaeth yn ymdaenu. Yr oedd yn un a gerid yn fawr yn mhlith pob graddau; meddai ar ddynoliaeth dyner ac addfwyn; nid adwaenai ddichell; nid oedd yn perthyn iddo; a thebyg nad oes neb arall all ddweyd am un tro dichellgar a gyflawnwyd ganddo. Hoffid ef yn fawr yn y tai lle byddai yn arfer myned. Yr oedd yn Gristion profiadol a diragrith, bob amser a'i bleser a'i hyfrydwch yn yr efengyl a bregethai. Yr oedd yn hoffi cyhoeddi y newyddion da, ac nid ychydig yw y nifer a dderbyniasant y newydd am fywyd o'i enau ef. Y mae lluaws o'i blant ysbrydol ar hyd a lled Cymru yn fyw i alaru ar ei ol. Bu farw gan dystio fod ganddo "heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist."

Nodiadau

[golygu]